Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fuddiant yn
ystod yr eitem: Y Cynghorydd S Renkes Parthed: Cofnod Rhif 3 - Diweddariad
Llafar gan Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, gan ei bod yn Aelod o Fwrdd Tai
Tarian. |
|
Strategaeth Adferiad PDF 559 KB Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau craffu o'r adroddiad
a ddosbarthwyd, cyn ei gyflwyno i'r Cabinet ar 30 Gorffennaf 2020. Croesawodd
yr aelodau'r dadansoddiadau unigol a drafodwyd yn y pwyllgorau craffu
perthnasol, ac roeddent yn teimlo bod rhai awgrymiadau adeiladol ac arloesol yn
yr adroddiad. Teimlai'r aelodau fod yr adroddiad yn cyflwyno dull mwy cydlynol
na chyn argyfwng COVID-19. Codwyd pryderon gan yr aelodau y gallai fod
swyddogion ac aelodau'n dyblu eu hamser, gyda rhai adroddiadau'n cael eu trafod
yn y Panel Adfer Aelodau a gynullwyd yn ddiweddar a hefyd mewn pwyllgorau
craffu. Nid oedd aelodau'r pwyllgor craffu am fabwysiadu'r rôl o 'graffu ar y
craffwyr', a theimlent y dylai pwyllgorau craffu barhau i ganolbwyntio ar
graffu ar y penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet/fyrddau'r Cabinet. Cafwyd trafodaeth ynghylch gwaith y trydydd sector,
ac a oedd dibyniaeth ar wirfoddolwyr yn dilyn y pandemig. Esboniodd swyddogion
y byddai disgwyliadau'n cael eu mesur, wrth symud ymlaen, fel na fyddai
gorddibyniaeth ar wirfoddolwyr. Byddai'r pwyslais ar gyd-gynhyrchu a dull
cydweithredol. Pwysleisiodd uwch-swyddogion eu bod yn hapus i
aelodau gysylltu â nhw'n uniongyrchol gydag ymholiadau. Esboniodd swyddogion y byddai staff sy'n gweithio’r
tu hwnt i'w graddfa gyflog gytundebol yn cael eu talu’n unol â hynny. Holodd yr aelodau sut y mae craffu'n dwyn y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus i gyfrif – byddai'r ymholiad yn cael ei gyfeirio at y
swyddog perthnasol yn dilyn y cyfarfod, a byddai ateb yn cael ei anfon at
aelodau'r pwyllgor craffu. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r aelodau
cyn bo hir, ynghylch ailfodelu gofal cymdeithasol i oedolion, a fyddai'n ateb
ymholiadau aelodau ynghylch darpariaeth iechyd meddwl a gwasanaethau seibiant. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. |
|
Diweddariad Llafar gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion • Gofal Preswyl • Rhyddhau o'r Ysbyty i'r Cartref / Cyflym • Gofal cartref / Gofal Cartref • Gwasanaethau Anabledd Dysgu / Iechyd Meddwl • Gwasanaethau Dydd / Gwasanaethau Seibiant • Digartrefedd Cofnodion: Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau
craffu gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai a'i dîm, am
yr hyn a oedd wedi bod yn digwydd o fewn y gwasanaeth, o ddechrau'r flwyddyn
hyd at y presennol. Roedd hyn yn cynnwys ffurfio ysbytai maes er mwyn gallu ymdopi
â'r nifer uchel o farwolaethau a ragwelwyd gan wyddonwyr (nad oedd, diolch
byth, wedi cyrraedd y ffigur rhagamcanol), yn ogystal â rôl y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol yn y broses o wneud penderfyniadau. Darparwyd crynodeb o'r pryderon ynghylch y gwasanaeth
gofal preswyl, a nifer y marwolaethau. Roedd pryderon yn cynnwys dryswch
ynghylch defnyddio cyfarpar amddiffyn personol (PPE), yn dilyn cyngor gan
Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â'i argaeledd. Trafodwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru,
ar gyfer gwelyau gwag mewn cartrefi gofal. Nododd yr aelodau fod £40 miliwn
wedi'i ddarparu ledled Cymru gyda £22 miliwn ychwanegol o gyllid wedi'i
gyhoeddi'n ddiweddar. Teimlai'r aelodau y byddai effeithiau cymunedol,
economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pellach y pandemig yn cael eu teimlo’n
nes ymlaen. Gallai cynnydd yn y feirws yn y dyfodol fod yn bosibilrwydd yn
ystod misoedd y gaeaf. Byddai'r gwasanaeth yn parhau i addasu wrth symud
ymlaen. Trafodwyd a oedd y feirws wedi effeithio ar staff
cartrefi gofal, a nodwyd bod prinder staff wedi effeithio ar rai cartrefi gofal
yn fwy nag eraill. Cartrefi y bu angen iddynt gyflogi staff asiantaeth a
nyrsio. Nodwyd nad oedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi cynnal y cynllun
Diogel ac Iach. Trafodwyd 'ysbyty i gartref' a rhyddhau pobl o'r
ysbyty'n gyflym. Oherwydd canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch lledaenu
COVID-19, nodwyd bod asesiadau Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl wedi'u gohirio,
gan na allai swyddogion fynd i eiddo cleientiaid ar hyn o bryd. Esboniodd y swyddogion y ddarpariaeth gofal cartref
a roddwyd yn ystod y pandemig. Nododd yr aelodau fod gofalwyr yn dal i ymweld â
chleientiaid lle bo angen, er bod rhai teuluoedd bellach yn gofalu am eu
perthnasau eu hunain, ac wedi rhyddhau'r gofalwyr o'r rôl. Roedd nifer o gleientiaid wedi'u hatgyfeirio o'r
cynllun Diogel ac Iach ar gyfer cymorth gofal cartref, fel casglu siopa a
phresgripsiynau. Nid oedd bonws £500 y Llywodraeth a addawyd i'r rheini sy'n
gweithio yn y maes gofal yn ystod argyfwng COVID-19 wedi'i dalu hyd yma. Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r canlynol, o ran
effaith argyfwng COVID-19: ·
Anableddau dysgu ·
Iechyd meddwl ·
Gwasanaethau Dydd ·
Gwasanaethau Seibiant ·
Trais yn y cartref a ·
Hyfforddiant cyffuriau ac
alcohol Nodwyd bod rhai gwasanaethau a gomisiynwyd (gofal
seibiant) bellach wedi ailagor. Roedd nifer o staff gwasanaethau dydd nad
oeddent yn gallu gweithio yn y lleoliad gofal dydd yn ystod y pandemig, wedi
bod yn helpu i fynd â chleientiaid allan am ychydig oriau'r dydd, er mwyn rhoi
seibiant i deuluoedd. Byddai adroddiad ar ddarparu gwasanaethau dydd yn cael ei
gyflwyno i'r pwyllgor craffu cyn bo hir. Nodwyd cynnydd sydyn yn nifer y bobl hŷn sy'n
dioddef o broblemau iechyd meddwl sy’n cael eu hatgyfeirio. Trafodwyd digartrefedd, a nododd yr aelodau fod yr holl bobl sy'n cysgu allan wedi'u tynnu oddi ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Gwasanaethau Plant - y Pandemig a Thu Hwnt PDF 58 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg gan y prif swyddog diogelu, a
nododd yr aelodau fod y Tîm Troseddau Ieuenctid yn dal i allu ymweld â phobl
ifanc. Weithiau roeddent yn ymweld â nhw yn eu gerddi neu fel ymarfer 'cerdded
a siarad'. Roedd gwahanol ffyrdd o ryngweithio â phobl ifanc yn ôl eu
hanghenion a'r hyn a oedd yn gweddu'n well i'r unigolyn. Defnyddiwyd WhatsApp a
chyfarfodydd rhithwir, gan fod pobl ifanc yn teimlo'n gyfforddus gyda'r dulliau
hyn. Canmolodd swyddogion y tîm dyletswydd brys fel
arwyr di-glod. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. |