Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymgynghoriad ar Cyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol a cynilion ddrafft 2020/21 PDF 143 KB Adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Cymdeithasol, Iechyd a Tai Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafwyd trosolwg o’r Gyllideb
Gwasanaethau Cymdeithasol ac Arbedion Drafft 2020/2021, fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Hysbyswyd yr aelodau bod
camgymeriad gweinyddol wedi digwydd ar dudalen 13 o Atodiad 1 ac mewn perthynas
â SSHH1001, dylid dileu’r frawddeg, ‘Proposal to reduce the rates paid to AFP
carers in line with the rates paid to children’s foster carers’. Rhoddwyd sicrwydd hefyd i’r
Cynghorwyr na fyddai unrhyw swyddi’n cael eu dileu fel y nodwyd yn SSHH1008 ac
y byddai’r frawddeg hon yn cael ei dileu o’r adroddiad. Nododd y Pwyllgor nad oedd
digartrefedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad fel pwysau penodedig. Cytunodd
swyddogion fod digartrefedd yn peri pwysau ar wasanaethau ond rhoddwyd sicrwydd
bod modd ymdrin â hyn. Nododd y pwyllgor y cysylltiad
rhwng y cyfadrannau gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. Holodd y Cynghorwyr am y sefyllfa
o ran prosiectau sy’n derbyn cyllid o’r UE yn dilyn Brexit a hysbyswyd na
fyddai effeithiau’n cael eu gweld i’r trefniadau presennol ym mlwyddyn ariannol 20/21. Hysbysodd y
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol y Cynghorwyr hefyd fod y
Gyllideb Ddrafft, er eu bod wrthi’n adolygu’r amserlen toriadau a chynhyrchu
incwm, sydd yn destun ymgynghori ar hyn o bryd, yn cynnwys buddsoddiad newydd
yn 2020/21 o ryw £2.5m ar gyfer
gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. Gofynnodd y Cynghorwyr a fyddai modd i’r
pwyllgor craffu dderbyn manylion o’r fath yn y dyfodol fel bod modd ystyried
holl gynigion y gyllideb ddrafft. Mewn perthynas â SSHH1001,
gofynnodd y Cynghorwyr a fyddai gofalwyr yn cael eu heffeithio petai ffioedd
lleoliadau teuluol oedolion yn cael eu hadolygu. Nododd swyddogion fod y
manylion yn cael eu trafod a bod yr holl opsiynau’n cael eu hystyried er mwyn
cyflawni’r arbedion. Mewn perthynas â SSHH1002,
gofynnodd y Pwyllgor a oedd cyfraniadau gan y Bwrdd Iechyd wedi’u cytuno.
Nododd fod swyddogion yn archwilio hawliadau hanesyddol am gyfraniadau, yn
ceisio cynyddu’r capasiti cyfreithiol i fynd i’r afael â’r materion hyn ac yn
rhoi model ariannol newydd yn ei flaen ar gyfer cyfraniadau yn y dyfodol. Rhoddwyd sicrwydd i’r Cynghorwyr
y byddai’r dasg o leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal yn cael ei wneud yn
ddiogel ac yn naturiol ac y byddai anghenion y plentyn o’r pwys pennaf bob
amser gan sicrhau na fyddai unrhyw blentyn yn cael ei roi mewn perygl. Gofynnodd y pwyllgor am wybodaeth
bellach mewn perthynas â SSHH1003 a chawsant wybod, oherwydd y galw uwch, y
bydd incwm yn sgil asesiadau ariannol yn cynyddu’n naturiol, oherwydd y nifer
uwch o becynnau gofal sy’n cael eu darparu yn sgil y buddsoddiad cyllid newydd
yn 2020/21. Rhoddwyd sicrwydd i’r Cynghorwyr
na fyddai’r arbedion a nodwyd yn SSHH1005 mewn perthynas â’r Gwasanaeth
Cyfarpar ar y Cyd yn cael unrhyw effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau ac y
byddai cyfraniadau’n seiliedig ar ddefnydd gwirioneddol. Cafodd y Cynghorwyr drafodaeth am yr arbedion a nodwyd yn SSHH1010 a chawsant wybod bod arbedion i gyllidebau cyfreithiol wedi’u nodi oherwydd arbenigedd cynyddol staff y Cyngor. Mae penderfyniadau’n cael eu herio i raddau llai wrth i ansawdd asesiadau gwaith cymdeithasol wella ac ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |