Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fudd

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o fudd gan y Cynghorwyr canlynol ar ddechrau’r cyfarfod: 

 

 

Y Cynghorydd C. Galsworthy 

Par: Y Polisi Taliadau Uniongyrchol am ei bod yn derbyn Taliadau Uniongyrchol ar gyfer aelod o’i theulu. 

 

Y Cynghorydd P.D.Richards 

Par: Trefniadau Contract ar gyfer y Gwasanaeth Mân Addasiadau am ei fod yn aelod o fwrdd Gofal a Thrwsio Bae’r Gorllewin Cyf. / Care and Repair Western Bay Ltd. 

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2019. 

 

3.

Mesurau Lefel Uchel y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a'r Gwasanaethau i Oedolion - Chwarter 2 (19 Ebrill - 19 Medi) pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth am Ddata Mesurau Lefel Uchel y Gwasanaethau i Oedolion a Phlant a Phobl ifanc ar gyfer cyfnod yr ail chwarter (Ebrill 2019 – Medi 2019) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. 

 

I ateb ymholiadau’r Cynghorwyr derbyniwyd yr esboniadau canlynol. 

 

Roedd nifer y swyddi gwag a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr a staff cymorth; nid oedd y ffigur yn ymwneud â Gweithwyr Cymdeithasol yn unig. Yn y dyfodol, byddai adroddiadau’n cynnwys mwy o fanylion am bob gwasanaeth. 

 

Roedd swyddi gwag ychwanegol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol o ganlyniad i gyllid ychwanegol dros dro a ddaeth i law felly roedd swyddi ychwanegol yn cael eu llenwi dros dro. Hefyd, byddai swyddi gwag yn y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn effeithio ar yr amserau aros ar gyfer asesiadau. 

 

Mewn 85% (11/13) o’r achosion a archwiliwyd, roedd y sawl dan oruchwyliaeth wedi mynychu hyfforddiant yn ystod y tair sesiwn oruchwylio ddiwethaf; roedd hyn o ganlyniad i’r ffaith bod anghenion unigol y swyddog wedi’u targedu. 

 

O ganlyniad i rywfaint o anhawster yn cyrchu ffeiliau goruchwylio staff yng Nghanolfan Ddiogel Hillside, roedd loceri newydd wedi’u prynu er mwyn sicrhau na fyddai hyn yn digwydd eto. Byddai’r ffeiliau hyn yn cael eu harchwilio eto. 

 

Ar ôl craffu, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei nodi. 

 

 

4.

Craffu Cyn Penderfyniad

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Penderfynodd y pwyllgor graffu’r eitemau canlynol i fwrdd y cabinet: 

 

Ailfodelu ac Adleoli Gwasanaethau Dydd Anghenion Cymhleth 

 

Cafodd y pwyllgor drosolwg o’r cynnig i ailfodelu ac adleoli’r Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymleth a leolir yn Abbeyview, Brynamlwg a Threm y Môr fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. 

 

Rhoddwyd sicrwydd i’r Cynghorwyr nad ymarfer torri costau oedd y cynnig am fod y costau’n niwtral. Y bwriad oedd atgyfnerthu’r ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes. 

 

Mynegodd y Cynghorwyr bryder am yr amser ychwanegol y byddai defnyddwyr gwasanaethau’n ei dreulio’n teithio i’r lleoliad newydd. Esboniwyd na fyddai unrhyw amser ychwanegol yn cael ei dreulio ar fysiau, a hynny drwy drafod gyda’n cydweithwyr trafnidiaeth. Os byddai angen, byddai’r llwybrau codi teithwyr yn cael eu haildrefnu i sicrhau hyn. Byddai llai o lwybrau codi teithwyr i bob bws lle bynnag byddai angen hynny. Byddai adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o’r amserau a’r lleoliadau’n cael ei gyflwyno i’r Cynghorwyr ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaethau ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth er mwyn iddynt allu ymdopi â’r newidiadau a ddaw yn sgil y cynnig hwn. Byddai cyfeillgarwch rhwng defnyddwyr gwasanaethau, a godwyd yn flaenorol gan rieni yn ystod yr ymgynghoriad, hefyd yn rhan o’r gwaith cynllunio. 

 

Cadarnhaodd swyddogion y byddai costau ychwanegol oherwydd hyfforddiant staff am y byddai angen i staff asiantaeth weithredu yn lle’r staff fyddai’n derbyn yr hyfforddiant. Roedd trafodaethau gyda darparwyr gofal yn parhau. 

 

Cafwyd trafodaeth am y broses i gefnogi teuluoedd a rhieni a oedd yn anfodlon am y cynnig. Esboniodd swyddogion fod cyfarfodydd wedi’u cynnal gydag unigolion i liniaru unrhyw faterion ac i gynorthwyo pobl i ddeall pam roedd y newidiadau wedi’u cyflwyno. Cydnabuwyd hefyd bod newid yn gallu bod yn anodd i lawer o bobl. Hefyd, wrth fyfyrio am yr ymgynghoriad, byddai unrhyw wersi a oedd wedi’u dysgu yn sgil y broses honno’n cael eu defnyddio i lywio ymgynghoriadau yn y dyfodol.  

 

Ar ôl craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i fwrdd y cabinet eu hystyried. 

 

 

Polisi Taliadau Uniongyrchol 

 

Ar y pwynt hwn, ailnododd Y Cynghorydd C. Galsworthy ei budd yn yr eitem hon ac ymddieithriodd o’r cyfarfod. 

 

Derbyniodd y Cynghorwyr wybodaeth am y Polisi Taliadau Uniongyrchol fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. 

 

I ateb ymholiadau’r Cynghorwyr, nodwyd nad oedd y Polisi Taliadau Uniongyrchol yn destun ymgynghori allanol am mai esboniad oedd e o’r system Taliadau Uniongyrchol, yn hytrach na pholisi sy’n nodi ac esbonio’r dull gweithredu mae’r Cyngor wedi dewis ei fabwysiadu o fewn fframwaith cyfreithiol. Cynhaliwyd Asesiad Effaith Integredig yn rhan o waith y Cyngor o gyflawni ei ddyletswyddau deddfwriaethol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. 

 

Yn ogystal, holodd y Cynghorwyr pam nad oedd effaith ar y cymoedd. Roedd nifer o achosion lle nad oedd defnyddwyr gwasanaethau’n gallu recriwtio i rolau cynorthwywyr personol. Esboniodd swyddogion fod yr adran hon o’r adroddiad yn cyfeirio at y dyletswyddau deddfwriaethol o dan y deddfau cydraddoldeb perthnasol. Hefyd, ni fyddai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Y dylid eithrio’r cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, oherwydd eu bod yn cynnwys y tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd ym Mharagraffau 13 a 14 o Atodlen 12A i’r Ddeddf uchod. 

 

 

 

6.

Diweddariad ar Gynllun Strategol Anhwylder y Sbectrwm Awtistig/Anhwylderau Niwroddatblygiadol (ASD/NDD)

Cofnodion:

Derbyniodd y pwyllgor ddiweddariad ar gynnydd a datblygiad Cynllun Strategol Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth / Anhwylderau Niwroddatblygiadol (ASD/NDD) fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 

 

Cafwyd trafodaeth am y gefnogaeth a ddarperir i bobl ag ASD/NDD.  Lle bo angen, daethpwyd â’r gwasanaeth i’r defnyddwyr gwasanaethau. Er enghraifft, byddai staff y ganolfan waith yn ymweld â’r cleient os oedd yn anodd i’r cleient hwnnw fynd i’r canolfannau gwaith. 

 

I ymateb i ymholiadau’r Cynghorwyr, nodwyd bod y cyllid wedi’i ddarparu gan y Gronfa Gofal Integredig a gâi ei harwain gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe felly nid oedd unrhyw effeithiau ariannol ar y Cyngor. 

 

Mynegwyd pryder am y diffyg data am restrau aros am ddiagnosisau a faint o bobl oedd yn derbyn cefnogaeth ar ôl cael diagnosisau. 

 

Cafwyd trafodaeth am bwysigrwydd cydweithio rhwng y Cyfarwyddiaethau Gwasanaethau, Iechyd a Thai ac Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, er mwyn sicrhau bod dull gweithredu cyson. Cafwyd trafodaeth bellach am yr angen i gynnwys asiantaethau eraill a oedd hefyd yn darparu gwasanaethau i gefnogi ASD/NDD. Gofynnwyd i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc nodi’r holl asiantaethau sy’n gyfrifol am wasanaethau ASD/NDD ac i Gadeirydd y pwyllgor hwn ysgrifennu llythyr yn ymdrin â’r angen i’r holl asiantaethau weithio gyda’i gilydd. 

 

At hynny, gofynnodd y Cynghorwyr i ystyriaeth gael ei rhoi i gynnal cyfarfodydd craffu ar y cyd ag Addysg, Sgiliau a Diwylliant ar bynciau trawsbynciol fel y Cynllun Strategol Awtistiaeth. Gofynnwyd i’r Swyddog Craffu roi gwybod i’r pwyllgor am unrhyw adroddiadau’n ymwneud ag ASD/NDD a oedd yn cael eu hystyried gan Fwrdd Cabinet Addysg, Sgiliau a Diwylliant.   

 

Gofynnodd y Cynghorwyr i’w gwerthfawrogiad gael ei gyfleu i’r holl staff sy’n gysylltiedig â gwasanaethau ASD/NDD am eu holl waith caled a’u hymrwymiad at ddarparu gwasanaeth rhagorol. 

 

Ar ôl craffu, cytunwyd y dylid nodi’r adroddiad. 

 

7.

Craffu Cyn Penderfyniad (Preifat)

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Penderfynodd y pwyllgor graffu’r eitemau preifat canlynol i fwrdd y cabinet: 

 

Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Plant Diogel Hillside 

 

Derbyniodd y Cynghorwyr wybodaeth am y bobl ifanc, gwybodaeth am staff, cynllunio’r gwasanaeth a datblygiad yn ystod y cyfnod rhwng 1 Mehefin – 31 Hydref 2019 (5 mis) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. 

 

Ar ôl craffu, cytunwyd y dylid nodi’r adroddiad. 

 

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 

 

Derbyniwyd trosolwg o’r adroddiad Rheoliadau’r Gwasanaeth Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) 2017 mewn perthynas â Chanolfan Ddiogel Hillside, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 

 

Ar ôl craffu, cytunwyd y dylid nodi’r adroddiad.