Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fudd

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd C Galsworthy

Parthed: Tegwch y Polisi Darpariaeth Gwasanaethau a'r Adolygiad o'r Gwasanaethau Cefnogi Cymunedau - Cydlynwyr Ardaloedd Lleol am ei bod hi'n Gynorthwyydd Personol i'w mam.

 

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Caiff cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Medi 2019 eu cymeradwyo yn amodol ar y diwygiad canlynol:

 

Tudalen 6 - Astudiaeth Dichonoldeb Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn

 

Bod y paragraff sy'n cynnwys y canlynol:

 

Gofynnodd y pwyllgor a fyddai'r gwerthusiad yr un peth â'r hyn a gynhaliwyd yn flaenorol lle nodwyd bod yr angen am ofal preswyl yn lleihau. 

 

yn cael ei ddisodli gan:

 

Gofynnodd y pwyllgor a fyddai'r gwerthusiad yn defnyddio'r un meini prawf ag a ddefnyddiwyd pan gynhaliwyd y gwerthusiad blaenorol a ddaeth i'r casgliad bod yr angen am ofal preswyl yn lleihau. Eglurwyd bod y strategaeth wedi newid o ganolbwyntio'n unig ar daliadau uniongyrchol i ddatblygu opsiynau ychwanegol ar gyfer gofal preswyl.

 

3.

PRE-DECISION SCRUTINY

Cofnodion:

Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Adroddiad Blynyddol Gofalwyr Bae'r Gorllewin

 

Derbyniodd y pwyllgor ddiweddariad am gynnydd rhoi Cynllun Gweithredu Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin ar gyfer 2018-19 ar waith, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd yr aelodau'n falch bod yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys astudiaethau achos a oedd yn llawn gwybodaeth. Yn ogystal, roedd aelodau'n falch bod yr wybodaeth wedi'i llunio yn ieithoedd y gymuned ond credwyd y dylid rhoi ystyriaeth i lunio gwybodaeth sy'n glir ac yn hawdd ei darllen.

 

Codwyd yr ymholiadau canlynol gan aelodau:

 

·        A fu cynnydd yn niferoedd y gofalwyr sy'n nodi eu bod yn ofalwyr? 

Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau i geisio nodi gofalwyr fel rhan o'u gwaith beunyddiol a chynhaliwyd ymgyrchoedd cynyddu ymwybyddiaeth ychwanegol yn y Gwasanaethau i Oedolion. Datblygodd y Gwasanaethau Plant raglen hyfforddiant gydag ysgolion i geisio nodi a chefnogi gofalwyr ifanc. Cymerodd 1,600 o bobl ifanc ran yn y sesiwn awr a daeth 200 o ofalwyr ifanc ymlaen i ofyn am gymorth. Yn ogystal, mae 2 ofalwr ifanc yn aelodau o'r Cyngor Ieuenctid ac maent yn rhagweithiol iawn wrth gyflwyno materion.

 

·        A oedd cynlluniau i ymgysylltu â'r clybiau ieuenctid?

Roedd cludiant yn broblem fawr i ofalwyr ifanc er mwyn cyrraedd y clybiau ieuenctid. Hefyd, pan ofynnwyd iddynt, dywedodd y gofalwyr ifanc eu bod yn mwynhau bod yng nghwmni gofalwyr eraill fel y gallant rannu eu profiadau. Cynhelir y cyfarfodydd hyn bob wythnos a darperir cludiant i hwyluso hyn. Gwnaed cysylltiadau hefyd ag asiantaethau eraill i sicrhau bod y gofalwyr ifanc yn derbyn yr holl gefnogaeth angenrheidiol.

 

·        Pam na ellid cynnal yr asesiad gofalwyr ar yr un pryd ag asesiad defnyddiwr y gwasanaeth? Nodwyd hyn gan rai gofalwyr fel opsiwn a ffefrir.

Esboniodd swyddogion fod yr adborth a dderbyniwyd yn rhoi safbwynt gwahanol a bod y Gwasanaeth Gofalwyr yn cynnal y rhain ar ran y cyngor. Pe bai'n well gan unrhyw ofalwr gael y ddau asesiad ar yr un pryd, yna byddai hyn yn cael ei drefnu.

 

·        Pam nad oedd yr arian ar gyfer Cynllun Gweithredu Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin wedi cael ei rannu'n gyfartal rhwng y partneriaid?

Esboniodd swyddogion y cytunwyd yn hanesyddol ar y meini prawf ar gyfer rhannu'r arian pan gafodd y bartneriaeth ei sefydlu. Gyda'r bartneriaeth newydd rhwng Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, sef Partneriaeth Gofalwyr Gorllewin Morgannwg, rhennir yr arian rhwng y ddau awdurdod.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.

 

Adroddiad Blynyddol Byrddau Diogelu Bae'r Gorllewin 2018/19

 

Derbyniwyd gwybodaeth mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol Byrddau Diogelu Bae'r Gorllewin 2018/19 fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd aelodau'n falch bod y Bwrdd Diogelu Ieuenctid wedi'i sefydlu yng Nghastell-nedd Port Talbot. Roedd trefniadau tebyg yn cael eu gwneud yn Abertawe.

 

Derbyniwyd esboniad y byddai nifer y lleoliadau gofal ledled y rhanbarth ar gael yn yr adroddiad nesaf sef Adroddiad Blynyddol Diogelu Gorllewin Morgannwg.

 

Roedd aelodau'n poeni mai dim ond yn awr yn y mae protocol ar gyfer Cartrefi Gofal Plant a'u dyletswyddau i blant coll yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Rhaglen waith craffu ymlaen 2019/20 pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Nododd y pwyllgor y trefnwyd Seminar i'r Holl Aelodau ar gyfer 24 Hydref 2019. Hefyd byddai'r Adroddiad Awtistiaeth yn barod i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf.