Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Cyhoeddwyd bod Eitem 7 ar yr Agenda ar Agenda Bwrdd y Cabinet 'Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr 2020/21' wedi'i thynnu'n ôl o gael ei hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cynhaliodd y Pwyllgor funud o ddistawrwydd i nodi 55 mlynedd ers Trychineb Aberfan.

 

1a

Diweddariad ar Effaith COVID-19 ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl pdf eicon PDF 248 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddogion adroddiad diweddaru ar effaith pandemig COVID-19 ar wasanaeth ac adferiad y Grant Cyfleusterau i'r Anabl (GCA).

Croesawodd yr Aelodau’r cynnydd sylweddol yn nifer y tasgau a gwblhawyd o ddiwedd mis Mai 2021 i fis Medi 2021 (a gododd o 19 i 73 yn ystod y cyfnod hwn); a hefyd croesawyd yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan gleientiaid a oedd wedi cael gwaith wedi'i wneud drwy’r GCA.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi bod y galw am adeiladwyr yn parhau'n sylweddol uwch na'r arfer, gyda pherchnogion cartrefi'n gwneud gwelliannau i'w cartrefi; a'i bod yn parhau i fod yn anodd cael gafael ar rai deunyddiau. Holwyd faint o effaith yr oedd hyn yn ei chael ar y gwasanaeth, ac a oedd ffyrdd amgen o gael gafael ar ddeunyddiau. Esboniodd Swyddogion fod hon yn broblem genedlaethol, a'r broblem fwyaf oedd prinder contractwyr; roedd y rhan fwyaf o gontractwyr yn dal yn brysur iawn yn gwneud y gwaith a gomisiynwyd pan oedd y pandemig yn ei anterth. Esboniwyd bod y contractwyr yn gallu dod o hyd i ddeunyddiau, fodd bynnag bu cynnydd sylweddol yng nghost deunyddiau. Hysbyswyd yr Aelodau fod y rhan fwyaf o'r gwaith GCA sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn dasgau fel addasiadau i gawodydd; roedd hi'n haws cael gafael ar ddeunyddiau ar gyfer y mathau hyn o waith, ac roedd llai o alw am blymeriaid yn hytrach nag adeiladwyr cyffredinol. Ychwanegwyd mai gwaith yn ymwneud ag estyniadau yr effeithiwyd arno fwyaf, fod bynnag roedd tasgau'n dal i gael eu cwblhau, ond ar gyflymder arafach na'r blynyddoedd blaenorol; roedd y cyngor wedi cyflogi adeiladwyr ychwanegol i geisio helpu’r tasgau hyn i fynd rhagddynt, ac roeddent ar restr aros gyda chontractwyr.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol (ThG) a gallu'r gwasanaeth. Soniwyd y bu’r gwasanaeth ThG yn llawn am gyfnod byr, fodd bynnag roedd prinder ar hyn o bryd oherwydd bod staff yn gadael y gwasanaeth. Esboniodd Swyddogion y rhesymau dros yr oedi yn y gwasanaeth a'r broses y tu ôl i'r system rhestrau aros; tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith bod rhestr aros fach o 15 yn aros i gael ei rhyddhau i'r system ar hyn o bryd. Er hyn, cadarnhawyd bod y llif drwy'r gwasanaeth yn gweithio'n dda.

Cyfeiriwyd at gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch dileu'r profion modd ar addasiadau bach a chanolig eu maint. Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth o ran safbwynt Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar hyn. Roedd Swyddogion yn rhagweld y byddai'r galw'n cynyddu'n aruthrol pe bai'r profion modd ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl bach a chanolig yn cael eu dileu; pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i ddileu'r profion modd, byddai angen rhoi amodau ar waith i geisio rheoli'r galw. Nodwyd bod ffactorau amrywiol i'w hystyried, yn enwedig ynghylch y gyllideb; fodd bynnag, roedd yn bwysig bod hyn yn cael ei reoli heb wahaniaethu yn erbyn y rheini na allent fforddio i'r gwaith gael ei gwblhau. Hysbyswyd yr Aelodau fod trafodaethau wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1a

2.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer Craffu Cyn Penderfyniad (mae adroddiadau Bwrdd y Cabinet wedi'u cynnwys ar gyfer Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2021

Rhoddwyd yr Wybodaeth am Berfformiad i'r Aelodau, ynghyd â'r Data Canmoliaethau a Chwynion ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, a'r Gwasanaethau i Oedolion ar gyfer Cyfnod y Chwarter Cyntaf (Ebrill 2021 – Mehefin 2021).

Tynnodd yr Aelodau sylw at nifer o'r dangosyddion perfformiad cadarnhaol, gan longyfarch Swyddogion ar eu gwaith caled wrth gyflawni targedau; yn enwedig o ystyried amgylchiadau'r pandemig.

Cyfeiriwyd at y graff a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a oedd yn manylu ar nifer y swyddi gweithwyr cymdeithasol gwag, ymchwiliadau disgyblu ac achwyniadau ar draws y Gwasanaethau i Oedolion. Gofynnwyd pam roedd cynifer o swyddi gweithwyr cymdeithasol gwag a pham mae lefelau salwch tymor hir mor uchel.

Esboniodd Swyddogion fod rhai elfennau o'r adroddiad yn gamarweiniol oherwydd y ffordd y cyflwynwyd y data; Sicrhawyd yr Aelodau nad oedd unrhyw broblemau cyfredol gyda swyddi gwag na lefelau salwch tymor hir yn y Gwasanaethau i Oedolion. Dywedwyd bod y swyddi gwag a nodwyd yn y graff yn ymwneud â swyddi gwag ar draws yr adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion gyfan, ac nad oeddent yn benodol i weithwyr cymdeithasol. Cadarnhaodd Swyddogion fod 20 o'r swyddi gwag yn gysylltiedig â'r gwasanaeth gofal cartref mewnol; nid oedd y swyddi hyn wedi'u llenwi'n wreiddiol gan eu bod yn cael eu cadw i gefnogi mater y gyllideb, fodd bynnag dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu ymgyrch recriwtio allanol ar gyfer y swyddi hynny. Nodwyd nad oedd y cyngor, yn anffodus, wedi gallu eu llenwi; roedd methu recriwtio pobl i ofal cartref yn broblem genedlaethol. Hysbyswyd yr Aelodau fod 20 arall o'r swyddi hynny'n swyddi newydd a oedd wedi'u creu dros dro o wahanol ffrydiau ariannu dros y ddwy flynedd ddiwethaf; nid oeddent yn swyddi gwag o fewn y cyngor, yn hytrach roeddent yn swyddi nad oeddent wedi'u creu'n barhaol o'r gyllideb sylfaenol. Soniwyd mai'r unig swyddi gwag o fewn chwarter 1 oedd swyddi 4.8 cyfwerth ag amser llawn (CALl).

Yn dilyn hyn, darparodd Swyddogion wybodaeth am y lefelau salwch a oedd yn cyflwyno lefelau uchel ar y graff (39.5 CALl). Nodwyd bod 21.5 CALl yn staff o'r gwasanaeth gofal cartref mewnol; nid oedd hyn yn annisgwyl oherwydd galw'r gwasanaeth penodol hwn drwy gydol y pandemig. Hysbyswyd yr Aelodau fod gweithlu'r Gwasanaeth i Oedolion yn y sefyllfa orau y bu ynddi ers blynyddoedd lawer o ran lefelau salwch; roedd y cyfraddau salwch mewn ffigurau sengl ar hyn o bryd.

Dywedwyd bod Penaethiaid y Gwasanaethau i Oedolion yn gweithio gyda Swyddogion Adnoddau Dynol i newid sut y cyflwynwyd y data; bydd y data'n cael ei rannu'n gylchoedd gwaith Prif Swyddogion i geisio sicrhau bod y ffigurau'n fwy ystyrlon ac yn adlewyrchu darlun mwy cywir o'r Gwasanaethau i Oedolion.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â swyddi gwag ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol. Cadarnhaodd Swyddogion fod swyddi gwag o fewn y gwasanaeth hwn, a bod y broblem recriwtio’n un genedlaethol a pharhaus. bu sawl achlysur lle'r oedd unigolion wedi dewis  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 259 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r eitem ganlynol gael ei hychwanegu at y Blaenraglen Waith:

·        Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) a Hepgoriadau – adroddiad a fydd yn rhoi dealltwriaeth well i'r Aelodau o'r prosesau.

 

Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles.