Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 57 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu To
select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision
Scrutiny (Cabinet Board reports included for Scrutiny Members) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Prosbectws Grant Tai Cymdeithasol 2021 Hysbyswyd yr aelodau am Brospectws Grant Tai
Cymdeithasol 2021 y cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Canmolodd aelodau’r ffaith bod modd trosglwyddo'r
cynlluniau presennol a oedd yn cael eu dal mewn cronfeydd wrth gefn yn ystod
2020/21 i'r brif raglen yn 2021/22. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch terminoleg mewn
perthynas â rhentu yn ogystal â'r diffiniad ar gyfer tai fforddiadwy, oherwydd
tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd tai fforddiadwy o reidrwydd yn fforddiadwy i
bawb. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth am y meincnod ar gyfer tai fforddiadwy,
oherwydd tynnwyd sylw at y ffaith bod tai fforddiadwy'n rhy ddrud i bobl eu rhentu
mewn rhai ardaloedd. Gofynnodd aelodau a fyddai'r grant ar gael i'r
cyngor ei ddefnyddio gyda'r posibilrwydd o adeiladu eu tai eu hunain. Tynnwyd
sylw at y ffaith bod hwn yn opsiwn ar gyfer cynghorau eraill, fodd bynnag, gan
fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi trosglwyddo eu stoc tai mewn
blynyddoedd blaenorol, nid oedd hynny'n opsiwn. Roedd aelodau'n hapus i weld bod yr adroddiad yn gysylltiedig â'r Cynllun
Datblygu Lleol a bod yr adroddiad wedi ystyried cynllunio yn y dyfodol felly. Eglurodd swyddogion mai'r ffigurau a gynhwyswyd yn y tabl ar dudalen 11 yr
adroddiad oedd £9.9m o grant Llywodraeth Cymru sy'n cyfateb i tua 448 o unedau
llety. Cadarnhawyd nad oedd Dyffryn Aman wedi'i gynnwys yn atodiad 2 yr adroddiad
yn dilyn y gwaith a wnaed gan y Gwasanaethau Ymchwil Barn (GYB) yn 2019 gan nad
oeddent wedi nodi unrhyw angen am dai ychwanegol yn Nyffryn Amman. Cadarnhaodd
swyddogion y byddant yn cadarnhau cywirdeb hyn. Trafodwyd a oedd niferoedd y tai yn
ddigonol ar gyfer y blynyddoedd i ddod gyda'r cynnydd mewn poblogaeth. Nodwyd
bod y niferoedd wedi'u cyfrifo ar y gwaith a wnaed gan y GYB ac roedd yn
seiliedig ar dai fforddiadwy. Gofynnodd aelodau am ddimensiynau'r anheddau i sicrhau eu bod yn ddigon
mawr, oherwydd y lleihad mewn meintiau anheddau dros y blynyddoedd. Eglurwyd
i’r aelodau fod canllawiau wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru ar ddimensiynau y
mae’n rhaid cydymffurfio â nhw. Nodwyd y byddai rhagor o wybodaeth am faint yr
anheddau a'r safonau ar gyfer dimensiynau yn cael ei dosbarthu i aelodau'r
pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|||
Cofnodion: Nododd aelodau'r Blaenraglen Waith a gofynnwyd i'r
eitem ganlynol gael ei chynnwys. ·
Adroddiad sy'n darparu
trosolwg o sut mae adran Tai Castell-nedd Port Talbot a'i pholisïau'n cysylltu
â chynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Access
to Meetings to resolve to exclude the public for the following item(s) pursuant
to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act
1972 and the relevant exempt paragraphs of Part 4 of Schedule 12A to the above
Act. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu To
select appropriate private items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision
Scrutiny (Cabinet Board reports enclosed for Scrutiny Members) Cofnodion: Cynllun Blynyddol Drafft Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar CNPT
2021-2022 Ar ddechrau'r eitem, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr
Aelodau Craffu y defnyddiwyd y Paragraff Eithriedig anghywir – dylai hyn fod
wedi bod yn Baragraff 18 ac nid paragraff 14. Derbyniodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am
Gynllun Blynyddol Drafft Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar CNPT
2021-2022, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn trafodaethau, codwyd y pryderon canlynol o
fewn yr adroddiad i'w diwygio ym Mwrdd y Cabinet. ·
Dylai Effeithiau Cymunedau'r
Cymoedd ddarllen 'Dim Effeithiau'. ·
Yn yr adran Ymgynghori, dylid
dileu'r geiriau canlynol: '... ym mhob un o'r tri awdurdod lleol i gael
sylwadau.’ ·
Dylai manylion Cyswllt y
Swyddog ar gyfer Alison Davies ddarllen 'a.davies8@npt.gov.uk'. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |