Lleoliad: VIa Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 65 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 13 Mai 2021 fel cofnod cywir. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Polisi Gosodiadau Tai a Rennir Ymgynghorol Drafft
Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021 Hysbyswyd yr aelodau o Bolisi Gosodiadau Tai a
Rennir Ymgynghorol Drafft Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021.
Ynghyd â'r cais am ymarfer ymgynghori cyhoeddus 90 niwrnod, fel a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd yr aelodau'r falch o weld y polisi. Fodd
bynnag, teimlwyd y byddai angen Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a
Lles ar wahân. Gan alluogi’r Pwyllgor i ystyried yr adroddiad manwl yn ofalus a
bwydo i'r ymgynghoriad. Yn dilyn y gwaith craffu, roedd yr Aelodau'n
gefnogol o'r argymhellion i’w cyflwyno i'r Cabinet ynghyd â threfnu Pwyllgor
Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles ychwanegol er mwyn caniatáu i'r
Aelodau Craffu fwydo i mewn i'r broses ymgynghori. Canolfan Adnoddau Ymyrryd yn Gynnar a Chyfiawnder
Ieuenctid CNPT Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am y
Ganolfan Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar newydd sydd hefyd yn adnodd
ar gyfer Gwasanaethau Plant, a adwaenid gynt fel Canolfan Ddydd Abbeyview ar
gyfer pobl ag anghenion cymhleth, fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Canmolodd y swyddogion yr adroddiad a chroesawyd yr
adroddiad cadarnhaol. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau
Corfforaethol ar gyfer Diogelu - Castell-nedd Port Talbot, dyddiedig Mawrth
2020 Cyflwynwyd canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru
(SAC) i'r Aelodau yn dilyn ei hadolygiad o 'Drefniadau Corfforaethol ar gyfer
Diogelu ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (NPTCBC)',
fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cafwyd trafodaethau ynghylch trefniadau adrodd
Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Corfforaethol. Teimlai'r
Pwyllgor ei bod yn bwysig bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
Archwilio a'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant. Cadarnhaodd
swyddogion y gallai'r canfyddiadau gael eu rhannu â phwyllgorau eraill pe bai'r
Pwyllgor yn teimlo bod hynny'n angenrheidiol. Gofynnwyd am eglurder ynghylch y flwyddyn y
cyfeiriwyd ati yn y paragraff canlynol, 'Derbyniodd y Pwyllgor Archwilio’r
cofrestrau risg diwygiedig yn eu cyfarfod ar 19 Medi 2018. Nid yw’r Pwyllgor
Archwilio’n adolygu cofrestr risg y cyngor yn rheolaidd ac nid yw wedi derbyn
adroddiad pellach ar reoli risgiau corfforaethol yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf.' Cadarnhaodd swyddogion fod 'y llynedd' a grybwyllir yn y paragraff
yn cyfeirio at 2019. Gofynnodd yr Aelodau pa mor dda yr oedd yr un pwynt
mynediad yn gweithio o ran cynorthwyo diogelu. Cadarnhaodd swyddogion fod
arolygiad diogelu wedi'i gynnal yn ddiweddar a oedd yn cynnwys adborth
cadarnhaol mewn perthynas â'r un pwynt mynediad. Holodd yr Aelodau ynghylch y posibilrwydd o gael un
polisi ar gyfer gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar draws yr
awdurdod cyfan. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith nad oedd polisi ar draws y
cyngor ar gael ar hyn o bryd oherwydd y gwahanol reoliadau y mae angen eu
hystyried. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl a Dibreswyl Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am y Polisi Codi Tâl am Ofal ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|||
Cofnodion: Nododd yr Aelodau y Flaenraglen Waith |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Effaith COVID-19 ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (yn eithriedig dan baragraff 14) Cofnodion: Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am yr
effaith a gafodd pandemig COVID-19 ar y Gwasanaeth Grant Cyfleusterau i'r Anabl
ac adferiad, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |