Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a galw’r rhestr Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod un eitem yn unig ar yr
agenda ac y byddant yn craffu arno. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. J Miller - Eitem 3a - Mae aelodau o'i
deulu'n rhentu gan Tai Tarian. Y Cyng. C Edwards - Eitem 3a – Mae’n bosib bod
aelod o'i theulu'n byw mewn llety sy'n cael ei rentu gan Tai Tarian. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaeth yr
aelodau sylw am y fersiwn hawdd ei darllen o'r ddogfen a ddarparwyd. Heblaw am
fod ychydig yn fyrrach, nododd yr aelodau ei bod yn dal i gynnwys manylion ac
iaith gymhleth y byddai llawer o bobl yn cael trafferth eu deall. Nodwyd ei bod
yn ddogfen gyfreithiol a byddai angen iddi gynnwys iaith benodedig. Dywedodd
swyddogion Tai Tarian unwaith y byddai'r ddogfen gyfreithiol yn cael ei
chymeradwyo byddant yn ystyried ymgysylltu â grŵp o denantiaid ac
ymgeiswyr i benderfynu a allent greu rhywbeth i gyd-fynd â'r ddogfen. Darparodd
swyddogion Tai Tarian gyflwyniad i aelodau. Yn dilyn
trosglwyddo'r stoc tai yn 2011, roedd CNPT wedi cadw’i rôl fel yr Awdurdod Tai
Strategol Lleol O fewn y rôl honno, mae gan y cyngor y cyfrifoldeb cyfreithiol
i drefnu, mabwysiadu a diwygio cynllun dyrannu a lle bo'n briodol, ymgynghori
ar newidiadau arfaethedig iddo. O dan gytundeb
trosglwyddo 2010, cytunwyd ar Bolisi Gosodiadau Tai a Rennir rhwng y cyngor a
Tai Tarian ac mae'r ddau bellach yn rhannu cyfrifoldeb parhaus am newidiadau
i'r Polisi Gosodiadau Tai a Rennir gan gynnwys ei adolygiad cyfnodol. Roedd y ddogfen
yr oedd aelodau'n ei hystyried yn destun ymgynghoriad 90 o ddiwrnodau ar y
pryd. Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf yn 2015 a dechreuodd y broses adolygu
bresennol yn 2017. Gwnaed ymdrech sylweddol i sicrhau bod y ddogfen ddrafft yn
cynnwys eitemau perthnasol yn unig. Gohiriwyd y prosiect er mwyn ymateb i'r
pandemig. Mae Tai Tarian yn
bartner gweithredol gyda'r cyngor o ran lliniaru ac atal digartrefedd. Roedd
llawer o'r gwaith yn ystod y pandemig yn canolbwyntio ar ymateb i
ddigartrefedd. Mae Tai Tarian yn bartner gweithredol gyda'r cyngor ac mae
ganddo nifer o gytundebau amrywiol ar waith ar lefel weithredol a strategol i
gynorthwyo gydag ymateb i ddigartrefedd a'i atal. O ran yr Asesiad
Effaith Integredig (AEI), nid oes gan y drafft unrhyw effeithiau negyddol ar
aelwydydd ymgeiswyr sy'n hysbys ar hyn o bryd neu rai disgwyliedig yn rhinwedd
nodweddion gwarchodedig unrhyw aelod o'r aelwyd. Caiff drafft ymgynghorol yr
AEI ei ddiweddaru i adlewyrchu profi a chanfyddiadau pellach ac unrhyw
ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbynir. Cynhaliwyd
profion effaith i benderfynu a oedd y newidiadau wedi cael effaith negyddol ar
ymgeiswyr a thenantiaid presennol. Ystyriwyd pob ffactor arweiniol yn ei dro.
Mae'r ffactor arweiniol yn penderfynu pa fand fydd yr ymgeisydd ynddo. Roedd y
profi'n edrych ar ymgeiswyr presennol ac yn penderfynu a oedd newidiadau
materol i'w cais. Roedd y Timau
Opsiynau Tai hefyd yn edrych ar eu hachosion presennol ac yn penderfynu a
fyddai unrhyw effaith o'r drafft newydd. Aeth y swyddog trwy ganlyniadau'r
profion. O’r 75 a brofwyd, roedd 73 heb newidiadau. Roedd gan y 2 sy'n weddill
newidiadau cadarnhaol. Arddangosodd y profi cyffredinol na fyddai'r newidiadau
arfaethedig yn cael effaith negyddol ond mewn rhai achosion byddant yn cael
effaith gadarnhaol. Gofynnodd aelodau beth oedd y gwahaniaeth rhwng contract meddiannaeth safonol a chontract meddiannaeth diogel. Mae Tai Tarian yn gweithredu ar sail dwy denantiaeth ar hyn o bryd. Y gyntaf yw'r cytundeb tenantiaeth byrddaliad. Mae'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |