Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Cyhoeddwyd bod Eitem 7
ar yr Agenda ar Agenda Bwrdd y Cabinet 'Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth
Gofalwyr 2020/21' wedi'i thynnu'n ôl o gael ei hystyried yn y cyfarfod hwn. Cynhaliodd y Pwyllgor funud o ddistawrwydd i nodi 55 mlynedd ers Trychineb
Aberfan. |
|
Diweddariad ar Effaith COVID-19 ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl PDF 248 KB Cofnodion: Rhoddodd Swyddogion
adroddiad diweddaru ar effaith pandemig COVID-19 ar wasanaeth ac adferiad y
Grant Cyfleusterau i'r Anabl (GCA). Croesawodd yr
Aelodau’r cynnydd sylweddol yn nifer y tasgau a gwblhawyd o ddiwedd mis Mai
2021 i fis Medi 2021 (a gododd o 19 i 73 yn ystod y cyfnod hwn); a hefyd
croesawyd yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan gleientiaid a oedd wedi cael
gwaith wedi'i wneud drwy’r GCA. Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn nodi bod y galw am adeiladwyr yn parhau'n sylweddol uwch na'r
arfer, gyda pherchnogion cartrefi'n gwneud gwelliannau i'w cartrefi; a'i bod yn
parhau i fod yn anodd cael gafael ar rai deunyddiau. Holwyd faint o effaith yr
oedd hyn yn ei chael ar y gwasanaeth, ac a oedd ffyrdd amgen o gael gafael ar
ddeunyddiau. Esboniodd Swyddogion fod hon yn broblem genedlaethol, a'r broblem
fwyaf oedd prinder contractwyr; roedd y rhan fwyaf o gontractwyr yn dal yn
brysur iawn yn gwneud y gwaith a gomisiynwyd pan oedd y pandemig yn ei anterth.
Esboniwyd bod y contractwyr yn gallu dod o hyd i ddeunyddiau, fodd bynnag bu
cynnydd sylweddol yng nghost deunyddiau. Hysbyswyd yr Aelodau fod y rhan fwyaf
o'r gwaith GCA sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn dasgau fel addasiadau i
gawodydd; roedd hi'n haws cael gafael ar ddeunyddiau ar gyfer y mathau hyn o
waith, ac roedd llai o alw am blymeriaid yn hytrach nag adeiladwyr cyffredinol.
Ychwanegwyd mai gwaith yn ymwneud ag estyniadau yr effeithiwyd arno fwyaf, fod
bynnag roedd tasgau'n dal i gael eu cwblhau, ond ar gyflymder arafach na'r
blynyddoedd blaenorol; roedd y cyngor wedi cyflogi adeiladwyr ychwanegol i
geisio helpu’r tasgau hyn i fynd rhagddynt, ac roeddent ar restr aros gyda
chontractwyr. Cynhaliwyd trafodaeth
ynglŷn â'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol (ThG) a gallu'r gwasanaeth.
Soniwyd y bu’r gwasanaeth ThG yn llawn am gyfnod byr, fodd bynnag roedd prinder
ar hyn o bryd oherwydd bod staff yn gadael y gwasanaeth. Esboniodd Swyddogion y
rhesymau dros yr oedi yn y gwasanaeth a'r broses y tu ôl i'r system rhestrau
aros; tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith bod rhestr aros fach o 15 yn aros i
gael ei rhyddhau i'r system ar hyn o bryd. Er hyn, cadarnhawyd bod y llif
drwy'r gwasanaeth yn gweithio'n dda. Cyfeiriwyd at gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch dileu'r profion modd ar addasiadau bach a chanolig eu maint. Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth o ran safbwynt Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar hyn. Roedd Swyddogion yn rhagweld y byddai'r galw'n cynyddu'n aruthrol pe bai'r profion modd ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl bach a chanolig yn cael eu dileu; pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i ddileu'r profion modd, byddai angen rhoi amodau ar waith i geisio rheoli'r galw. Nodwyd bod ffactorau amrywiol i'w hystyried, yn enwedig ynghylch y gyllideb; fodd bynnag, roedd yn bwysig bod hyn yn cael ei reoli heb wahaniaethu yn erbyn y rheini na allent fforddio i'r gwaith gael ei gwblhau. Hysbyswyd yr Aelodau fod trafodaethau wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1a |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer Craffu Cyn Penderfyniad (mae adroddiadau Bwrdd y Cabinet wedi'u cynnwys ar gyfer Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2021 Rhoddwyd yr Wybodaeth
am Berfformiad i'r Aelodau, ynghyd â'r Data Canmoliaethau a Chwynion ar gyfer y
Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, a'r Gwasanaethau i Oedolion ar gyfer Cyfnod y
Chwarter Cyntaf (Ebrill 2021 – Mehefin 2021). Tynnodd yr Aelodau
sylw at nifer o'r dangosyddion perfformiad cadarnhaol, gan longyfarch
Swyddogion ar eu gwaith caled wrth gyflawni targedau; yn enwedig o ystyried
amgylchiadau'r pandemig. Cyfeiriwyd at y graff
a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a oedd yn manylu ar nifer y swyddi
gweithwyr cymdeithasol gwag, ymchwiliadau disgyblu ac achwyniadau ar draws y
Gwasanaethau i Oedolion. Gofynnwyd pam roedd cynifer o swyddi gweithwyr
cymdeithasol gwag a pham mae lefelau salwch tymor hir mor uchel. Esboniodd Swyddogion
fod rhai elfennau o'r adroddiad yn gamarweiniol oherwydd y ffordd y cyflwynwyd
y data; Sicrhawyd yr Aelodau nad oedd unrhyw broblemau cyfredol gyda swyddi
gwag na lefelau salwch tymor hir yn y Gwasanaethau i Oedolion. Dywedwyd bod y
swyddi gwag a nodwyd yn y graff yn ymwneud â swyddi gwag ar draws yr adran
Gofal Cymdeithasol i Oedolion gyfan, ac nad oeddent yn benodol i weithwyr
cymdeithasol. Cadarnhaodd Swyddogion fod 20 o'r swyddi gwag yn gysylltiedig â'r
gwasanaeth gofal cartref mewnol; nid oedd y swyddi hyn wedi'u llenwi'n
wreiddiol gan eu bod yn cael eu cadw i gefnogi mater y gyllideb, fodd bynnag
dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu ymgyrch recriwtio allanol ar gyfer y swyddi
hynny. Nodwyd nad oedd y cyngor, yn anffodus, wedi gallu eu llenwi; roedd methu
recriwtio pobl i ofal cartref yn broblem genedlaethol. Hysbyswyd yr Aelodau fod
20 arall o'r swyddi hynny'n swyddi newydd a oedd wedi'u creu dros dro o wahanol
ffrydiau ariannu dros y ddwy flynedd ddiwethaf; nid oeddent yn swyddi gwag o
fewn y cyngor, yn hytrach roeddent yn swyddi nad oeddent wedi'u creu'n barhaol
o'r gyllideb sylfaenol. Soniwyd mai'r unig swyddi gwag o fewn chwarter 1 oedd
swyddi 4.8 cyfwerth ag amser llawn (CALl). Yn dilyn hyn,
darparodd Swyddogion wybodaeth am y lefelau salwch a oedd yn cyflwyno lefelau
uchel ar y graff (39.5 CALl). Nodwyd bod 21.5 CALl yn staff o'r gwasanaeth
gofal cartref mewnol; nid oedd hyn yn annisgwyl oherwydd galw'r gwasanaeth
penodol hwn drwy gydol y pandemig. Hysbyswyd yr Aelodau fod gweithlu'r
Gwasanaeth i Oedolion yn y sefyllfa orau y bu ynddi ers blynyddoedd lawer o ran
lefelau salwch; roedd y cyfraddau salwch mewn ffigurau sengl ar hyn o bryd. Dywedwyd bod
Penaethiaid y Gwasanaethau i Oedolion yn gweithio gyda Swyddogion Adnoddau
Dynol i newid sut y cyflwynwyd y data; bydd y data'n cael ei rannu'n gylchoedd
gwaith Prif Swyddogion i geisio sicrhau bod y ffigurau'n fwy ystyrlon ac yn
adlewyrchu darlun mwy cywir o'r Gwasanaethau i Oedolion. Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â swyddi gwag ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol. Cadarnhaodd Swyddogion fod swyddi gwag o fewn y gwasanaeth hwn, a bod y broblem recriwtio’n un genedlaethol a pharhaus. bu sawl achlysur lle'r oedd unigolion wedi dewis ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r eitem
ganlynol gael ei hychwanegu at y Blaenraglen Waith: ·
Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
(GCA) a Hepgoriadau – adroddiad a fydd yn rhoi dealltwriaeth well i'r Aelodau
o'r prosesau. Nododd yr Aelodau
Flaenraglen Waith Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles. |