Lleoliad: Committee Rooms 1/2 - Port Talbot Civic Centre
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 64 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19
Medi, 2019. |
|
Blaenraglen Waith 2019-20 PDF 60 KB Cofnodion: Nodwyd y byddai cyfarfod mis Chwefror yn cynnwys
diweddariad ar CCTV. Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Dangosyddion Perfformiad Chwarterol PDF 83 KB RepoAdroddiad
gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol a’r Prif Swyddog Digidol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau am ddangosyddion
perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2019 (Chwarter 2) ar
gyfer gwasanaethau o fewn cylch yr Is-bwyllgor Craffu ar Ddiogelwch Cymunedol a
Diogelu'r Cyhoedd. Teimlodd aelodau fod y dangosyddion perfformiad yn perthyn
i allbynnau'n unig, ac nad oeddent yn dangos y gwir wahaniaeth a wnaed wrth
ddiwallu anghenion y gymuned. Esboniodd y swyddogion y gallai dangosyddion
perfformiad gael eu mireinio, a chasglwyd gwybodaeth i gymharu pa mor ddiogel
oedd y fwrdeistref sirol o'i chymharu ag ardaloedd eraill. Cytunodd aelodau fod troseddau a'r cysyniad o
deimlo'n ddiogel yn anodd i'w monitro, felly byddai mireinio'r dangosyddion
perfformiad yn darparu gwybodaeth ychwanegol. Awgrymodd y swyddogion y dylid cynnal trafodaeth
bellach ynghylch y dangosyddion perfformiad yn ystod cyfarfod y pwyllgor ym mis
Mawrth. Trafodwyd Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig
a Thrais Rhywiol. Nodwyd bod hwn yn hyfforddiant gorfodol ar gyfer gweithwyr y
cyngor. Nodwyd bod nifer o ysgolion hefyd wedi mabwysiadu rhaglenni addas er
mwyn mynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais
Rhywiol, er ei fod yn ôl disgresiwn pob ysgol. Esboniodd y swyddogion fod yr
awdurdod wedi datblygu ei raglen ei hun yn ddiweddar, a gaiff ei chyflwyno i
ysgolion. Pan gaiff ei chyflwyno, bydd hyn yn golygu cynnydd mewn canrannau'r
dangosyddion perfformiad. Esboniodd y swyddogion hefyd y cyflwynwyd Prosiect
Sbectrwm Hafan Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mewn wyth ysgol, ac
roedd gwers gysylltiedig am berthnasoedd iach hefyd yn rhan o'r pecyn
perthnasoedd ac addysg rhywioldeb a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid.
Dylid cyflwyno'r gwersi hyn ym mhob ysgol yn ei thro. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad |
|
Atal Troseddau Seiber - Diweddariad/Cyflwyniad Cofnodion: Rhoddodd y sarsiant Tim Barrell, Heddlu De Cymru,
gyflwyniad a diweddariad ar lafar mewn perthynas â seiberdroseddu. Hysbysodd y sarsiant Barrell y pwyllgor fod
seiberdroseddu'n cyfeirio at unrhyw drosedd a gyflawnir gan ddefnyddio
cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd, ac mai dyma'r drosedd fwyaf cyffredin yn y
wlad. Ni adroddir ar y rhan fwyaf o
achosion. Nododd y sarsiant Barrell y
cofnodwyd 334 o achosion o seiberdroseddu yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y
chwe mis diwethaf, a bod 69% o'r rheini'n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol. Nodwyd ei fod yn "well rhwystro'r clwy na'i
wella", felly mae cynyddu ymwybyddiaeth a dysgu amdano'n angenrheidiol.
Mae Heddlu De Cymru wedi cyflwyno nifer o fentrau, gan gynnwys sioeau teithiol,
stondinau mewn digwyddiadau cyhoeddus, canolfannau siopau ac ar gyfryngau
cymdeithasol. Mae'r heddlu hefyd wedi cydweithio â phartneriaid. Hysbysodd y
sarsiant Barrell y pwyllgor fod dau Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar gael
i roi cyflwyniadau i sefydliadau a phartneriaid ynghylch seiberddiogelwch.
Awgrymodd y swyddogion y dylid cynnal Seminar Aelodau er mwyn cynyddu
ymwybyddiaeth o seiberdroseddu. Roedd Tasglu Diogelwch Cymunedol yn cwrdd bob mis,
a ddaeth â phartneriaid ynghyd ac roedd seiberddiogelwch yn eitem sefydlog ar
yr agenda. Bwriad y grŵp oedd
gwella gwydnwch a chynyddu ymwybyddiaeth o risgiau a gwendidau yn ein
cymunedau. Esboniodd y sarsiant Barrell y gellid adrodd am
seiberdroseddu trwy Action Fraud ar-lein neu ar y ffôn. Darparodd y ganolfan
genedlaethol dros seiberdroseddu wybodaeth am dwyllo a throseddau ar-lein, a
phan adroddir am drosedd, trosglwyddir yr wybodaeth i'r heddlu er mwyn
gweithredu ar y drosedd. Mae gwefan Get Safe Online
hefyd ar gael i gynnig cyngor ymarferol am ddiogelwch am ddim i'r cyhoedd a'r
sector preifat am sut i amddiffyn eu hunain rhag troseddau ar-lein. Mewn ymateb i ymholiadau'r aelodau, esboniwyd fod
rheoliadau seiberddiogelwch ar waith yn Adran TGCh y cyngor. Os bydd angen, gellir darparu rhagor o
wybodaeth i'r pwyllgor ar y mater hwn. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr gwybodaeth. |