Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Craffu Diogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd - Dydd Iau, 19eg Rhagfyr, 2019 10.00 am

Lleoliad: Committee Rooms 1/2 - Port Talbot Civic Centre

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2019.

 

2.

Blaenraglen Waith 2019-20 pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Nodwyd y byddai cyfarfod mis Chwefror yn cynnwys diweddariad ar CCTV.

 

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

3.

Dangosyddion Perfformiad Chwarterol pdf eicon PDF 83 KB

RepoAdroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol a’r Prif Swyddog Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau am ddangosyddion perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2019 (Chwarter 2) ar gyfer gwasanaethau o fewn cylch yr Is-bwyllgor Craffu ar Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd.

 

Teimlodd aelodau fod y dangosyddion perfformiad yn perthyn i allbynnau'n unig, ac nad oeddent yn dangos y gwir wahaniaeth a wnaed wrth ddiwallu anghenion y gymuned. Esboniodd y swyddogion y gallai dangosyddion perfformiad gael eu mireinio, a chasglwyd gwybodaeth i gymharu pa mor ddiogel oedd y fwrdeistref sirol o'i chymharu ag ardaloedd eraill.

 

Cytunodd aelodau fod troseddau a'r cysyniad o deimlo'n ddiogel yn anodd i'w monitro, felly byddai mireinio'r dangosyddion perfformiad yn darparu gwybodaeth ychwanegol.

 

Awgrymodd y swyddogion y dylid cynnal trafodaeth bellach ynghylch y dangosyddion perfformiad yn ystod cyfarfod y pwyllgor ym mis Mawrth.

 

Trafodwyd Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Nodwyd bod hwn yn hyfforddiant gorfodol ar gyfer gweithwyr y cyngor. Nodwyd bod nifer o ysgolion hefyd wedi mabwysiadu rhaglenni addas er mwyn mynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, er ei fod yn ôl disgresiwn pob ysgol. Esboniodd y swyddogion fod yr awdurdod wedi datblygu ei raglen ei hun yn ddiweddar, a gaiff ei chyflwyno i ysgolion. Pan gaiff ei chyflwyno, bydd hyn yn golygu cynnydd mewn canrannau'r dangosyddion perfformiad.

 

Esboniodd y swyddogion hefyd y cyflwynwyd Prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mewn wyth ysgol, ac roedd gwers gysylltiedig am berthnasoedd iach hefyd yn rhan o'r pecyn perthnasoedd ac addysg rhywioldeb a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid. Dylid cyflwyno'r gwersi hyn ym mhob ysgol yn ei thro.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad

 

 

4.

Atal Troseddau Seiber - Diweddariad/Cyflwyniad

Cofnodion:

Rhoddodd y sarsiant Tim Barrell, Heddlu De Cymru, gyflwyniad a diweddariad ar lafar mewn perthynas â seiberdroseddu.

 

Hysbysodd y sarsiant Barrell y pwyllgor fod seiberdroseddu'n cyfeirio at unrhyw drosedd a gyflawnir gan ddefnyddio cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd, ac mai dyma'r drosedd fwyaf cyffredin yn y wlad.  Ni adroddir ar y rhan fwyaf o achosion.  Nododd y sarsiant Barrell y cofnodwyd 334 o achosion o seiberdroseddu yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y chwe mis diwethaf, a bod 69% o'r rheini'n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol.

 

Nodwyd ei fod yn "well rhwystro'r clwy na'i wella", felly mae cynyddu ymwybyddiaeth a dysgu amdano'n angenrheidiol. Mae Heddlu De Cymru wedi cyflwyno nifer o fentrau, gan gynnwys sioeau teithiol, stondinau mewn digwyddiadau cyhoeddus, canolfannau siopau ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r heddlu hefyd wedi cydweithio â phartneriaid. Hysbysodd y sarsiant Barrell y pwyllgor fod dau Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar gael i roi cyflwyniadau i sefydliadau a phartneriaid ynghylch seiberddiogelwch. Awgrymodd y swyddogion y dylid cynnal Seminar Aelodau er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o seiberdroseddu.

 

Roedd Tasglu Diogelwch Cymunedol yn cwrdd bob mis, a ddaeth â phartneriaid ynghyd ac roedd seiberddiogelwch yn eitem sefydlog ar yr agenda.  Bwriad y grŵp oedd gwella gwydnwch a chynyddu ymwybyddiaeth o risgiau a gwendidau yn ein cymunedau.

Esboniodd y sarsiant Barrell y gellid adrodd am seiberdroseddu trwy Action Fraud ar-lein neu ar y ffôn. Darparodd y ganolfan genedlaethol dros seiberdroseddu wybodaeth am dwyllo a throseddau ar-lein, a phan adroddir am drosedd, trosglwyddir yr wybodaeth i'r heddlu er mwyn gweithredu ar y drosedd. Mae gwefan Get Safe Online hefyd ar gael i gynnig cyngor ymarferol am ddiogelwch am ddim i'r cyhoedd a'r sector preifat am sut i amddiffyn eu hunain rhag troseddau ar-lein.  

Mewn ymateb i ymholiadau'r aelodau, esboniwyd fod rheoliadau seiberddiogelwch ar waith yn Adran TGCh y cyngor.  Os bydd angen, gellir darparu rhagor o wybodaeth i'r pwyllgor ar y mater hwn. 

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr gwybodaeth.