Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Craffu Diogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd - Dydd Gwener, 1af Hydref, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a galw’r rhestr

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd yn fyr y ddwy eitem y byddai pawb yn craffu arnynt yn y cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 206 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2021 fel cofnod gwir a chywir.

 

5.

Cyhoeddiadau Swyddogion

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan swyddogion

 

6.

Effaith COVID ar Wasanaethau ac Archwiliadau Hylendid Bwyd

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad manwl i'r Aelodau. Byddai copi o'r cyflwyniad yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau ar ôl y cyfarfod.

 

Y Tîm Diogelu Bwyd ac Iechyd oedd y tîm y galwyd arnynt i gefnogi'r gwasanaeth Profi Olrhain a Diogelu (POD). Aeth swyddogion drwy swyddogaethau eraill y tîm a oedd yn cynnwys diogelwch bwyd a rheoli clefydau heintus. Amlinellwyd effeithiau'r ymateb i COVID ar waith y tîm, gan gynnwys atal archwiliadau rhagweithiol.

 

Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau mewn perthynas â'r canlyniad o ran archwiliadau hylendid bwyd ar gyfer 2019-2020 cyn y cyfyngiadau symud. Yn dilyn y cyfyngiadau symud, lluniodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) arweiniad newydd i flaenoriaethu'r ymateb i COVID a hefyd beryglon Diogelwch Bwyd difrifol o arwyddocâd iechyd cyhoeddus. Roedd y rhan fwyaf o'r tîm hefyd yn rhan o'r gwaith i gefnogi cartrefi gofal. Yn ogystal, cyfrannodd y tîm at ddarparu arweiniad i fusnesau mewn perthynas â'r cyfyngiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd angen sefydlu timau newydd yn dilyn yr ymateb cychwynnol i gynorthwyo â'r ymateb POD. Ymdriniodd y tîm rhanbarthol â'r achosion mwy cymhleth.

 

Blaenoriaethwyd y prosiect Cartrefi Gofal ynghyd â chyngor hylendid bwyd i fusnesau newydd. Derbyniwyd amryw gwynion ynghylch y rheoliadau a'r cyfyngiadau a oedd ar waith.

 

Pan gyrhaeddodd ton achosion y gaeaf, roedd yr ymatebion yn seiliedig ar egwyddor brysbennu. Dywedwyd wrth yr Aelodau am wasanaeth 7 niwrnod y Tîm Ymateb Rhanbarthol a oedd ac sy'n dal i gael ei ddarparu ar sail ewyllys da gan swyddogion.

 

Yn dilyn y Nadolig 2020 a chynnydd y rhaglen frechu, dechreuodd y tîm ystyried adferiad. Cyfradd yr archwiliadau eiddo ar gyfer blwyddyn 2020/21 oedd 14%.

 

Cyhoeddwyd y canllawiau adfer diweddaraf gan yr ASB ym Mehefin 2021. Cyfeiriodd swyddogion hefyd at bwysigrwydd adferiad staff, gyda llawer yn awr yn cael eu hannog i gymryd eu gwyliau blynyddol.

 

Nododd swyddogion yr amserlen ar gyfer adfer, o ran archwiliadau eiddo. Bydd y rhan fwyaf o ddyddiadau'n cael eu pennu gan yr ASB cyn gynted ag y bydd adnoddau llawn yn caniatáu. Yn ogystal â gwaith rhagweithiol, mae gwaith ymatebol y mae'n rhaid ei wneud.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid bob chwe mis ac o ganlyniad, mae'n anodd cynllunio, recriwtio a lleoli adnoddau. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd cyflawni parhad ar draws y gwasanaeth.

 

Holodd yr Aelodau a oes modd cyflawni'r disgwyliadau a osodwyd gan yr ASB. Dywedodd Swyddogion eu bod yn teimlo'n weddol hyderus y gellir eu cyflawni, ond bod cafeatau i hyn, gan gynnwys ymateb POD Llywodraeth Cymru a thymor y gaeaf sydd ar ddod.

 

Canmolodd yr Aelodau staff y tîm am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod anodd, llawn straen hwn.

 

 

 

7.

Adroddiad Diogelwch Cymunedol a Pherfformiad Diogelu'r Cyhoedd - Chwarter 1 2021/2022 pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o'r adroddiad gan swyddogion wedi'i ddosbarthu gyda'r agenda.

 

Holodd yr aelodau ynghylch y ffigurau mewn perthynas â pherfformiad y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar faint y rhestr aros a'r amserlen ar gyfer yr adolygiad y disgwylir i'r Bwrdd Iechyd ei gynnal. Dywedodd swyddogion nad oedd rhestr aros yn draddodiadol yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, oherwydd pwysau ar y gwasanaeth, gan gynnwys swyddi gwag a salwch, bu cynnydd yn y rhestr aros. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau y caiff yr holl swyddi gwag ar gyfer y tîm eu hysbysebu, ac os cânt eu llenwi, dylai hyn gynorthwyo gyda lleihau'r rhestr aros. Mae effaith absenoldeb salwch ar y gwasanaeth hefyd wedi'i hamlygu.

 

O ran yr adolygiad y disgwylir iddo gael ei gynnal, trefnwyd i'r Bwrdd Iechyd ei wneud, gydag amserlen cwblhau erbyn diwedd mis Medi. Fodd bynnag, nid oes gan swyddogion CNPT wybodaeth bellach am yr eitem hon ac maent yn aros am ganlyniad yr adolygiad.

 

Holodd yr Aelodau pam yr oedd y rhieni sy'n dioddef dro ar ôl tro wedi dirywio'n sylweddol yn ystod y pandemig. Dywedodd swyddogion y bu cynnydd mawr mewn atgyfeiriadau newydd gyda lefel uwch o drais na welwyd mohono o'r blaen. Cytunodd swyddogion fod angen iddynt ddeall pam nad oedd y rhieni sy'n dioddef dro ar ôl tro wedi dod at y gwasanaeth yn ystod cyfnod y pandemig a byddai angen rhywfaint o waith ar gyfer hyn. At hynny, pam y mae pobl yn teimlo bod angen cyflwyno'u hunain eto? Beth gellir ei wneud yn wahanol neu'n well i wella hyn? Gallai fod elfennau ymarferol o gwmpas y cyfyngiadau symud a leihaodd nifer y rheini sy'n dioddef dro ar ôl tro. Nodwyd nad yw person sy'n dioddef dro ar ôl tro bob amser yn cael ei gam-drin gan yr un troseddwr.

 

 

 

8.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 197 KB

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i nodi'r blaenraglen waith.

 

9.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.