Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a galw’r rhestr Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Amlinellodd y Cadeirydd yn fyr y ddwy eitem y
byddai pawb yn craffu arnynt yn y cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 206 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a
gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2021 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Cyhoeddiadau Swyddogion Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan swyddogion |
|
Effaith COVID ar Wasanaethau ac Archwiliadau Hylendid Bwyd Cofnodion: Rhoddodd swyddogion gyflwyniad manwl i'r Aelodau. Byddai copi o'r
cyflwyniad yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau ar ôl y cyfarfod. Y Tîm Diogelu Bwyd ac Iechyd oedd y tîm y galwyd arnynt i gefnogi'r
gwasanaeth Profi Olrhain a Diogelu (POD). Aeth swyddogion drwy swyddogaethau
eraill y tîm a oedd yn cynnwys diogelwch bwyd a rheoli clefydau heintus.
Amlinellwyd effeithiau'r ymateb i COVID ar waith y tîm, gan gynnwys atal
archwiliadau rhagweithiol. Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau mewn perthynas â'r canlyniad o ran
archwiliadau hylendid bwyd ar gyfer 2019-2020 cyn y cyfyngiadau symud. Yn dilyn
y cyfyngiadau symud, lluniodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) arweiniad newydd
i flaenoriaethu'r ymateb i COVID a hefyd beryglon Diogelwch Bwyd difrifol o
arwyddocâd iechyd cyhoeddus. Roedd y rhan fwyaf o'r tîm hefyd yn rhan o'r
gwaith i gefnogi cartrefi gofal. Yn ogystal, cyfrannodd y tîm at ddarparu
arweiniad i fusnesau mewn perthynas â'r cyfyngiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth
Cymru. Roedd angen sefydlu timau newydd yn dilyn yr ymateb cychwynnol i gynorthwyo
â'r ymateb POD. Ymdriniodd y tîm rhanbarthol â'r achosion mwy cymhleth. Blaenoriaethwyd y prosiect Cartrefi Gofal ynghyd â chyngor hylendid bwyd i
fusnesau newydd. Derbyniwyd amryw gwynion ynghylch y rheoliadau a'r cyfyngiadau
a oedd ar waith. Pan gyrhaeddodd ton achosion y gaeaf, roedd yr ymatebion yn seiliedig ar
egwyddor brysbennu. Dywedwyd wrth yr Aelodau am wasanaeth 7 niwrnod y Tîm
Ymateb Rhanbarthol a oedd ac sy'n dal i gael ei ddarparu ar sail ewyllys da gan
swyddogion. Yn dilyn y Nadolig 2020 a chynnydd y rhaglen frechu, dechreuodd y tîm
ystyried adferiad. Cyfradd yr archwiliadau eiddo ar gyfer blwyddyn 2020/21 oedd
14%. Cyhoeddwyd y canllawiau adfer diweddaraf gan yr ASB ym Mehefin 2021.
Cyfeiriodd swyddogion hefyd at bwysigrwydd adferiad staff, gyda llawer yn awr
yn cael eu hannog i gymryd eu gwyliau blynyddol. Nododd swyddogion yr amserlen ar gyfer adfer, o ran archwiliadau eiddo.
Bydd y rhan fwyaf o ddyddiadau'n cael eu pennu gan yr ASB cyn gynted ag y bydd
adnoddau llawn yn caniatáu. Yn ogystal â gwaith rhagweithiol, mae gwaith
ymatebol y mae'n rhaid ei wneud. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid
bob chwe mis ac o ganlyniad, mae'n anodd cynllunio, recriwtio a lleoli
adnoddau. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd cyflawni parhad ar draws y
gwasanaeth. Holodd yr Aelodau a oes modd cyflawni'r disgwyliadau a osodwyd gan yr ASB.
Dywedodd Swyddogion eu bod yn teimlo'n weddol hyderus y gellir eu cyflawni, ond
bod cafeatau i hyn, gan gynnwys ymateb POD Llywodraeth Cymru a thymor y gaeaf
sydd ar ddod. Canmolodd yr Aelodau staff y tîm am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod
anodd, llawn straen hwn. |
|
Adroddiad Diogelwch Cymunedol a Pherfformiad Diogelu'r Cyhoedd - Chwarter 1 2021/2022 PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o'r adroddiad gan swyddogion wedi'i ddosbarthu gyda'r agenda. Holodd yr aelodau ynghylch y ffigurau mewn perthynas â pherfformiad y Tîm
Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar faint y
rhestr aros a'r amserlen ar gyfer yr adolygiad y disgwylir i'r Bwrdd Iechyd ei
gynnal. Dywedodd swyddogion nad oedd rhestr aros yn draddodiadol yng
Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, oherwydd
pwysau ar y gwasanaeth, gan gynnwys swyddi gwag a salwch, bu cynnydd yn y
rhestr aros. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau y caiff yr holl swyddi gwag ar
gyfer y tîm eu hysbysebu, ac os cânt eu llenwi, dylai hyn gynorthwyo gyda
lleihau'r rhestr aros. Mae effaith absenoldeb salwch ar y gwasanaeth hefyd
wedi'i hamlygu. O ran yr adolygiad y disgwylir iddo gael ei gynnal, trefnwyd i'r Bwrdd
Iechyd ei wneud, gydag amserlen cwblhau erbyn diwedd mis Medi. Fodd bynnag, nid
oes gan swyddogion CNPT wybodaeth bellach am yr eitem hon ac maent yn aros am
ganlyniad yr adolygiad. Holodd yr Aelodau pam yr oedd y rhieni sy'n dioddef dro ar ôl tro wedi
dirywio'n sylweddol yn ystod y pandemig. Dywedodd swyddogion y bu cynnydd mawr
mewn atgyfeiriadau newydd gyda lefel uwch o drais na welwyd mohono o'r blaen.
Cytunodd swyddogion fod angen iddynt ddeall pam nad oedd y rhieni sy'n dioddef
dro ar ôl tro wedi dod at y gwasanaeth yn ystod cyfnod y pandemig a byddai
angen rhywfaint o waith ar gyfer hyn. At hynny, pam y mae pobl yn teimlo bod
angen cyflwyno'u hunain eto? Beth gellir ei wneud yn wahanol neu'n well i wella
hyn? Gallai fod elfennau ymarferol o gwmpas y cyfyngiadau symud a leihaodd
nifer y rheini sy'n dioddef dro ar ôl tro. Nodwyd nad yw person sy'n dioddef
dro ar ôl tro bob amser yn cael ei gam-drin gan yr un troseddwr. |
|
Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau i nodi'r blaenraglen waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |