Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 16eg Medi, 2021 2.01 pm

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi’r Cynghorydd P D Richards yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir.

 

 

3.

Blaenraglen Waith 2021/2022 pdf eicon PDF 512 KB

Cofnodion:

Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022.

 

4.

Adroddiad Blynyddol Diogelu Gorllewin Morgannwg 2020-21 pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

5.

Cynllun Blynyddol Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg 2021/2022 pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd, o ran yr Asesiad Effaith Integredig, fod yr adroddiad yn dweud "Nid oes gofyniad i gynnal Asesiad Effaith Integredig gan fod yr adroddiad hwn at ddibenion monitro/gwybodaeth", ond holodd yr aelodau ynghylch hyn, gan fod yr adroddiad ar gyfer gwneud penderfyniad. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau y byddai hyn yn cael ei ystyried, a'i adrodd yn ôl y tu allan i'r cyfarfod.

 

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes Blynyddol ar y Cyd Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg 2019/20, sydd wedi'i atodi fel Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'n ofynnol i Fyrddau Diogelu lunio a chyhoeddi cynllun busnes blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

6.

Cytundeb Grant ar gyfer Cyflwyno Darpariaeth Seibiant Byr i Ofalwyr Di-dâl pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

7.

Trefniadau Grant ar gyfer Arian Sbarduno pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ddyfarnu arian sy'n cynnwys Cronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, ac ymrwymo i gytundebau grant gyda sefydliadau y mae eu ceisiadau am Arian Sbarduno wedi'u gwerthuso fel rhai sy'n bodloni gofynion cais y Gronfa Sbarduno orau.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau bod trigolion Castell-nedd Port Talbot yn elwa i’r eithaf o fuddion y Gronfa Drawsnewid drwy ddyfarnu Arian Sbarduno mewn modd amserol i'r ymgeiswyr llwyddiannus.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

8.

Cynigion y Bwrdd Iechyd i Newid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn pdf eicon PDF 263 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001. Na. 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraffau 13 ac 14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

 

10.

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad.

 

11.

Cytundebau Grant ar gyfer Cyflawni Prosiectau Peilot a Ariennir gan y Grant Cymorth Tai

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad.