Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y
dylid penodi'r Cynghorydd A R Lockyer yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 67 KB Cofnodion: Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021 fel cofnod cywir. |
|
Blaenraglen Waith 2021/2022 PDF 37 KB Cofnodion: Nodi'r
Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022. |
|
Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl a Dibreswyl PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar gais y
Cyfarwyddwr, cytunwyd y dylid dileu'r eitem hon o gyfarfod heddiw er mwyn
cysoni'r polisi â deddfwriaeth. Byddai'n cael ei chyflwyno mewn cyfarfod yn y
dyfodol er mwyn penderfynu arni. Penderfyniad: Gohirir
ystyried yr adroddiad yng nghyfarfod heddiw. |
|
Pecyn Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol ar gyfer y Bartneriaeth Ranbarthol PDF 79 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i’r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir Pecyn
Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg, sy'n cynnwys Fframwaith
Cyd-gynhyrchu, Pecyn Cymorth Cyd-gynhyrchu a Siarter Cyd-gynhyrchu. Rheswm dros
y penderfyniad: Gwella
cyd-gynhyrchu ymhellach wrth ymgymryd â rhaglenni, prosiectau a fforymau
rhanbarthol Gorllewin Morgannwg. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Rhaglen Grant Cyfalaf Tai Llywodraeth Cymru PDF 88 KB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|
Strategaeth bum mlynedd Gofalwyr Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i’r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir cefnogi
Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Pum Mlynedd Gorllewin Morgannwg a’r ddogfen
ganllaw Cyfeirio Cyflym. Rheswm dros
y penderfyniad: Gwella
ymhellach y broses o nodi, cydnabod a chefnogi gofalwyr ar draws rhanbarth
Gorllewin Morgannwg. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |