Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y
dylid penodi'r Cynghorydd P D Richards yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 59 KB Cofnodion: Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021 fel cofnod cywir. |
|||
Diweddariad Blynyddol ar y Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl PDF 73 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid
nodi'r adroddiad monitro. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Gan ystyried
yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, y dylid rhoi caniatâd i
Swyddogion ymgynghori ar y Fframwaith Sicrhau Ansawdd arfaethedig ar gyfer
Darparu Gwasanaethau Anabledd Dysgu a Byw gyda Chymorth Iechyd Meddwl yng
Nghastell-nedd Port Talbot, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Rheswm dros
y penderfyniad: I sicrhau
bod cynlluniau byw â chymorth cynaliadwy o ansawdd da ar gael i ddiwallu
anghenion oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd ag anableddau dysgu ac
anghenion iechyd meddwl. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Bydd yr
eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol. |
|||
Dosbarthu taliad £500 Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithwyr Gofal PDF 82 KB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001. Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||
Ildio Grant Cyfleusterau i'r Anabl (yn eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Hepgor y swm
llawn o arian, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y penderfyniad: Sicrhau bod
yr Awdurdod yn arfer ei ddisgresiwn o dan Ddeddf Grantiau Tai Adeiladu ac
Adfywio 1996: Grant Cyfleusterau i'r Anabl (amodau sy'n gysylltiedig â
chymeradwyo neu dalu'r grant) - Caniatâd Cyffredinol 2008. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||
Grant Cymorth sy'n gysylltiedig â thai (yn eithriedig o dan Baragraff 14)
Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid
nodi'r adroddiad. |
|||
Gwasanaethau Ymyrryd ac Atal Cynnar a Gofalwyr (yn eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid
nodi'r adroddiad preifat. |
|||
Trefniadau contract ar gyfer amrywiaeth o Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc (yn eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid
nodi'r adroddiad preifat. |
|||
Trem Y Glyn (yn eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Nodi'r dyddiad cau diwygiedig ar gyfer Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn,
fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 2.
Rhoi cymeradwyaeth i Swyddogion gynnal trafodaethau gyda'r darparwr y
manylir arno yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, i helpu i lywio'r gwaith o
ddarparu llety i bobl hŷn yng Nglyn-nedd yn y dyfodol. Rhesymau
dros y Penderfyniadau: Er mwyn gweithio
gyda sefydliad partner i ddatblygu llety addas i ddiwallu anghenion gofal
cymdeithasol tymor hir pobl hŷn sy'n byw yng Nglyn-nedd a chymunedau
ehangach Castell-nedd Port Talbot, a sicrhau bod ystod gynaliadwy o wasanaethau
gofal cymdeithasol i oedolion o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion
dinasyddion mwyaf diamddiffyn Castell-nedd Port Talbot. Rhoi
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |