Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 29ain Gorffennaf, 2021 2.01 pm

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A R Lockyer yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 49 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir.

 

 

3.

Blaenraglen Waith 2021/2022 pdf eicon PDF 37 KB

Cofnodion:

Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022.

 

4.

Prosbectws y Grant Tai Cymdeithasol 2021 pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

5.

Eiddo Gwag yn Cramic Way pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, cyhoeddir nad oes angen yr eiddo gwag yn Cramic Way, Port Talbot, SA13 1RU mwyach ar gyfer gofynion gweithredol Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, ac y dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Cyhoeddi nad oes angen yr eiddo mwyach ar gyfer gofynion gweithredol  Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai a throsglwyddo cyfrifoldeb i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu eithrio’r cyhoedd rhag yr eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol yn rhan 4 Atodlen 21A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, wahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac 18 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

7.

Cytundebau Grant ar gyfer Cyflwyniad Prosiectau Peilot a Ariennir gan y Grant Cefnogi Tai

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

8.

Cynllun Blynyddol Drafft Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar CNPT 2021-2022

Cofnodion:

Ar ddechrau'r eitem, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth Aelodau'r Cabinet y defnyddiwyd y Paragraff Eithriedig anghywir – dylai hyn fod wedi bod yn Baragraff 18 ac nid paragraff 14.

 

Yn dilyn mewnbwn gan Aelodau, gwnaed y mân newidiadau dilynol i'r adroddiad preifat:

 

·        Dylai Effeithiau Cymunedau'r Cymoedd ddarllen 'Dim Effeithiau'.

 

·        Yn yr adran Ymgynghori, dylid dileu'r geiriau canlynol: '... ym mhob un o'r tri awdurdod lleol i gael sylwadau.

 

·        Dylai manylion Cyswllt y Swyddog ar gyfer Alison Davies ddarllen 'a.davies8@npt.gov.uk'.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr asesiad effaith integredig, argymhellir bod y cyngor yn cymeradwyo Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid drafft Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Gynnar Castell-nedd Port Talbot 2021-22.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gyflawni ei ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998. 

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid oes gofyniad i ymgynghori â'r cyhoedd ar y cynllun cyfiawnder ieuenctid, ond mae'r cynllun wedi'i ddosbarthu i bartneriaid drwy'r bwrdd rheoli a'r partneriaethau diogelwch cymunedol.