Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet - Dydd Llun, 5ed Gorffennaf, 2021 10.30 am

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd P D Richards yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Mai 2021 fyn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

 

3.

Blaenraglen Waith 2021-2022 pdf eicon PDF 37 KB

Cofnodion:

Bod y Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022 yn cael ei nodi.

 

4.

POLISI GOSODIADAU TAI A RENNIR YMGYNGHOROL DRAFFT CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT A TAI TARIAN 2021 pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, rhoddir caniatâd i Swyddogion gynnal ymgynghoriad cyhoeddus 90 niwrnod ar Bolisi Gosodiadau Tai a Rennir ymgynghorol 2021, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau bod y cyngor a Tai Tarian yn cydymffurfio â'u cyfrifoldeb cyffredin i adolygu eu Polisi Gosodiadau Tai a Rennir o bryd i'w gilydd, a threfnu bod y ddogfen adolygedig yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. 

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

5.

TREFNIADAU ADRODD AM BERFFORMIAD Y GWASANAETHAU PLANT A PHOBL IFANC A'R GWASANAETHAU I OEDOLION ar gyfer 2021-22 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

6.

CANOLFAN ADNODDAU YMYRRYD YN GYNNAR A CHYFIAWNDER IEUENCTID CNPT pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

7.

ADOLYGIAD SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU O DREFNIADAU CORFFORAETHOL AR GYFER DIOGELU - CASTELL-NEDD PORT TALBOT, DYDDIEDIG MIS MAWRTH 2020. pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad monitro.

 

8.

POLISI CODI TÂL AM OFAL PRESWYL A DIBRESWYL pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Caiff y Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl ac Dibreswyl ddiweddaredig, fel y'i nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ei gymeradwyo.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Diweddaru'r Polisi Codi Tâl i adlewyrchu unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth a thynnu sylw at gysylltiadau â pholisïau eraill y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.