Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 1af Ebrill, 2021 2.01 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd P D Richards yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021 fel cofnod cywir.

 

 

3.

Diweddariad Blynyddol ar y Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad monitro.

 

4.

Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar gyfer darparu Gwasanaethau Byw â Chymorth, Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gan ystyried yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, y dylid rhoi caniatâd i Swyddogion ymgynghori ar y Fframwaith Sicrhau Ansawdd arfaethedig ar gyfer Darparu Gwasanaethau Anabledd Dysgu a Byw gyda Chymorth Iechyd Meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

I sicrhau bod cynlluniau byw â chymorth cynaliadwy o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd ag anableddau dysgu ac anghenion iechyd meddwl.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

 

5.

Dosbarthu taliad £500 Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithwyr Gofal pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001. Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

7.

Ildio Grant Cyfleusterau i'r Anabl (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Hepgor y swm llawn o arian, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau bod yr Awdurdod yn arfer ei ddisgresiwn o dan Ddeddf Grantiau Tai Adeiladu ac Adfywio 1996: Grant Cyfleusterau i'r Anabl (amodau sy'n gysylltiedig â chymeradwyo neu dalu'r grant) - Caniatâd Cyffredinol 2008.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

8.

Grant Cymorth sy'n gysylltiedig â thai (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad.

 

9.

Gwasanaethau Ymyrryd ac Atal Cynnar a Gofalwyr (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad preifat.

 

10.

Trefniadau contract ar gyfer amrywiaeth o Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad preifat.

 

11.

Trem Y Glyn (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Nodi'r dyddiad cau diwygiedig ar gyfer Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

2.           Rhoi cymeradwyaeth i Swyddogion gynnal trafodaethau gyda'r darparwr y manylir arno yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, i helpu i lywio'r gwaith o ddarparu llety i bobl hŷn yng Nglyn-nedd yn y dyfodol.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Er mwyn gweithio gyda sefydliad partner i ddatblygu llety addas i ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol tymor hir pobl hŷn sy'n byw yng Nglyn-nedd a chymunedau ehangach Castell-nedd Port Talbot, a sicrhau bod ystod gynaliadwy o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion dinasyddion mwyaf diamddiffyn Castell-nedd Port Talbot.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.