Agenda a chofnodion drafft

Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 9fed Rhagfyr, 2021 2.01 pm

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

 

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Lockyer yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Croeso a galw’r enwau.

Cofnodion:

 

Croesawodd y Cynghorydd A Lockyer bawb i'r cyfarfod a galwyd yr enwau.

 

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw gyhoeddiadau..

 

4.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

 

 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

5.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 20 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 fel cofnod cywir.

 

6.

Llythyr Terfynol a Chynllun Gweithredu ar y Cyd yn dilyn Cyd-arolygiad o'r Trefniadau Amddiffyn Plant (CATAP) ar draws Castell-nedd a Phort Talbot pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

I'w nodi

 

Nododd yr Aelodau y bydd y partneriaid yn creu 'Cynllun Gweithredu ar y Cyd' sy'n mynd i'r afael â'r 'Meysydd Datblygu' hynny a nodwyd yn y llythyr terfynol. Dyma'r meysydd eang y nodwyd bod angen eu gwella ar draws y bartneriaeth:

·        Asesiadau

·        Canlyniadau

·        Llais y Plentyn/Teulu

·        Atgyfeiriadau/Adroddiadau/Cyfathrebu

·        Cynllunio

·        Cyfarfodydd

·        Ymateb i niwed y tu allan i gartref y teulu/Diogelu

·        Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd

·        Gwasanaethau

·        Gwella'r ymateb cychwynnol i'r adroddiad plant sydd ar goll

 

7.

Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 - Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau i Oedolion (mis Ebrill 2021 - mis Medi 2021) pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

I'w nodi

 

Bod y Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer Chwarter 2, Ebrill 2021 – Medi 2021 yn cael eu nodi.

 

 

 

8.

Polisi Gosodiadau Tai a Rennir 2021 - Canlyniad Ymarfer Ymgynghori pdf eicon PDF 701 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.     Bydd Polisi Gosodiadau a Rennir Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021, fel y’i hatodir yn Atodiad 1, yn cael ei gymeradwyo i'w roi ar waith fesul cam fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

2.     Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol, a chyda chytundeb Cyfarwyddwr Tai Tai Tarian, wneud unrhyw fân newidiadau pellach i'r Polisi sy'n angenrheidiol fel y gellir rhoi’r polisi ar waith yn effeithiol ac mewn modd amserol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

3.     Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, mewn ymgynghoriad ag Aelodau perthnasol y Cabinet, a chyda chytundeb Cyfarwyddwr Tai Tai Tarian, wneud unrhyw newidiadau sy'n ofynnol i'r Polisi oherwydd newid mewn deddfwriaeth, canllawiau neu broses weithredu, cyn ei adolygiad cyfnodol cyffredinol nesaf.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau bod gan y cyngor a Tai Tarian Bolisi Gosodiadau a Rennir a adolygwyd yn ddiweddar, sy'n cael ei roi ar waith mewn modd amserol ac eto fesul cam, ac sy'n parhau i gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol tan y tro nesaf y caiff ei adolygu.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu gweithredu ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a'r broses rhoi ar waith fesul cam ddilynol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r Polisi wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ôl y gofyn.

 

9.

Datblygu Canolfan Byw'n Annibynnol yn B'spoked pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

Cymeradwyir cyfnod ymgynghori cyhoeddus ffurfiol o 90 o ddiwrnodau, mewn perthynas â'r model darparu gwasanaethau yn B'spoked yn y dyfodol, a datblygu'r Hwb Byw'n Annibynnol, mewn egwyddor, yn amodol ar ddyfarnu cyllid.

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

 

a) Gwella'r gwasanaeth i gefnogi pobl ag anableddau dysgu isel i gymedrol i ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol ochr yn ochr â'r sgiliau y gall fod eu hangen arnynt i symud ymlaen i waith neu hyfforddiant.

 

b) Cefnogi pobl i gyrraedd eu potensial.

 

c) Lleihau angen pobl am ofal a chymorth statudol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid oedd gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon. Fodd bynnag, gwnaed gwaith sylweddol gyda darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol perthnasol wrth ddatblygu'r cynnig.

 

 

10.

Ymarfer Caffael ar gyfer Darparu Gwasanaeth Seibiant Byr i Blant a Phobl Ifanc Anabl pdf eicon PDF 347 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.   Bydd ymarfer caffael i gomisiynu gwasanaeth seibiant byr preswyl i Blant a Phobl Ifanc ag anabledd yn cael ei gynnal.

2.   Yn dilyn y broses gaffael, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ymrwymo i gontract gyda'r cynigiwr yr ystyrir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd (gan ystyried ansawdd a chost y ceisiadau), ar gyfer darparu gwasanaeth seibiant byr preswyl i Blant a Phobl Ifanc ag anabledd.

3.   Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i ymrwymo i gytundeb prydles gyda'r ymgeisydd buddugol.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Sicrhau bod trefniadau digonol ar waith i barhau i ddarparu Gwasanaeth seibiant byr preswyl i Blant a Phobl Ifanc ag anabledd ar ôl mis Gorffennaf 2022.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

11.

Comisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth mewn Cynllun Craidd a Chlwstwr pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, ac os rhoddir y caniatâd cynllunio perthnasol i Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf a'u bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu'r llety:

 

1.   Bydd ymarfer caffael i gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynllun Craidd a Chlwstwr yn cael ei gynnal.

2.   Yn dilyn y broses gaffael, bydd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn derbyn yr awdurdod dirprwyedig i ymrwymo i gontract gyda'r cynigiwr yr ystyrir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd (gan ystyried safon a chost y cynigion), ar gyfer darparu gofal a chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynllun Craidd a Chlwstwr.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Bydd cynnal ymarfer caffael ar gyfer darparu gwasanaethau gofal a chymorth o fewn y Cynllun Craidd a Chlwstwr yn sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio'n gyfreithiol wrth brynu'r gwasanaethau hyn. Yn ogystal, bydd hyn yn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i barhau i ddiwallu anghenion a bodloni gofynion y rheini sy'n gofyn am y gwasanaethau hyn drwy brynu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gynaliadwy’n ariannol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

12.

Rhoi Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar waith ar gyfer Darparu Gwasanaethau Byw â Chymorth Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig a'r adroddiad ymgynghori:

 

Bydd y Fframwaith Sicrhau Ansawdd, fel y'i nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio gan Swyddogion.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau bod gan y cyngor Gynlluniau Byw â Chymorth cynaliadwy o ansawdd da sydd ar gael i ddiwallu anghenion oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion iechyd meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol, ac mae'r adroddiad ymgynghori i'w weld yn Atodiad 2.

 

 

13.

Blaenraglen Waith 2021/2022 pdf eicon PDF 426 KB

Cofnodion:

 

 Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022.

 

14.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 15 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi hyn yn y cyfarfod heddiw fel eitem frys yn unol ag Adran 100B (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rheswm:

 

Oherwydd yr elfen amser

 

 

15.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr 2020 - 2021 pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.