Agenda a Chofnodion

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd P D Richards yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 200 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 fel cofnod cywir.

 

3.

Blaenraglen Waith 2021/2022 pdf eicon PDF 416 KB

Cofnodion:

Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022.

 

4.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr 2020 - 2021 pdf eicon PDF 218 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gohirir ystyried yr adroddiad i gyfarfod o Fwrdd y Cabinet Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles yn y dyfodol.

 

 

5.

Adroddiad Blynyddol Cwynion a Sylwadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/2021 pdf eicon PDF 879 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

6.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2021 pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad monitro.

 

7.

Codiadau mewn ffïoedd i gefnogi cynaliadwyedd Gofal Cartref a'r Gwasanaethau Byw â Chymorth pdf eicon PDF 825 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, cytunir y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai roi cynnydd o 10% ar waith at bris y contract cyfredol ar gyfer gwasanaethau Gofal Cartref a Gwasanaethau Byw â Chymorth a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023;

 

2.           Cyflwynir y cynnydd hwn, i ddechrau ar 1 Hydref 2021.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Helpu i ail-sefydlogi'r farchnad gofal cymdeithasol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon. Fodd bynnag, roedd gwaith sylweddol wedi'i wneud gyda darparwyr perthnasol gwasanaethau gofal cymdeithasol wrth ddatblygu'r cynnig.

 

8.

Dyfodol Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn pdf eicon PDF 636 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, cytunir ar Ddewis 3, fel a ganlyn: Ymrwymo i gontract newydd gyda Pobl i gadw Trem Y Glyn am gyfnod hyd at 31 Mawrth 2023, gydag opsiwn ar gyfer ymestyn y contract hyd at 31 Mawrth 2025, a fydd yn cael ei ystyried ym mis Medi 2022 wrth aros am well dealltwriaeth o sut y bydd COVID-19 yn effeithio ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn y dyfodol a’r galw amdanynt.

 

2.           Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai roi'r opsiwn y cytunwyd arno, a'r trefniant ariannu ar waith.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Cytuno ar ddyfodol tymor hir cyfleuster Trem y Glyn yng Nglyn-nedd yn sgil trafodaethau diweddar gyda Pobl.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif  2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A  o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:      Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, wahardd y cyhoedd o'r eitem fusnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac 16 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

10.

Y Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai yn Ad-dalu arian y Grant Cyfleusterau i'r Anabl (yn eithriedig o dan baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, hepgorir swm llawn yr arian grant, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau bod yr Awdurdod yn arfer ei ddisgresiwn o dan Ddeddf Grantiau Tai Adeiladu ac Adfywio 1996: Grant Cyfleusterau i'r Anabl (amodau sy'n gysylltiedig â chymeradwyo neu dalu'r grant) - Caniatâd Cyffredinol 2008.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.