Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y
dylid penodi'r Cynghorydd A R Lockyer yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 49 KB Cofnodion: Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2021 fel cofnod
cywir. |
|||
Blaenraglen Waith 2021/2022 PDF 37 KB Cofnodion: Nodi'r
Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022. |
|||
Prosbectws y Grant Tai Cymdeithasol 2021 PDF 79 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|||
Eiddo Gwag yn Cramic Way PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, cyhoeddir nad oes
angen yr eiddo gwag yn Cramic Way, Port Talbot, SA13 1RU mwyach ar gyfer
gofynion gweithredol Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai,
ac y dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio. Rheswm dros
y penderfyniad: Cyhoeddi nad
oes angen yr eiddo mwyach ar gyfer gofynion gweithredol Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Iechyd a Thai a throsglwyddo cyfrifoldeb i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu eithrio’r cyhoedd rhag yr eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol yn rhan 4 Atodlen 21A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||
Cytundebau Grant ar gyfer Cyflwyniad Prosiectau Peilot a Ariennir gan y Grant Cefnogi Tai Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|||
Cynllun Blynyddol Drafft Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar CNPT 2021-2022 Cofnodion: Ar
ddechrau'r eitem, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth Aelodau'r Cabinet y defnyddiwyd y
Paragraff Eithriedig anghywir – dylai hyn fod wedi bod yn Baragraff 18 ac nid
paragraff 14. Yn dilyn
mewnbwn gan Aelodau, gwnaed y mân newidiadau dilynol i'r adroddiad preifat: ·
Dylai Effeithiau Cymunedau'r Cymoedd ddarllen 'Dim Effeithiau'. ·
Yn yr adran Ymgynghori, dylid dileu'r geiriau canlynol: '... ym mhob un o'r
tri awdurdod lleol i gael sylwadau. ·
Dylai manylion Cyswllt y Swyddog ar gyfer Alison Davies ddarllen
'a.davies8@npt.gov.uk'. Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i gam cyntaf yr asesiad effaith integredig, argymhellir bod y
cyngor yn cymeradwyo Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid drafft Cyfiawnder Ieuenctid
ac Ymyrryd yn Gynnar Gynnar Castell-nedd Port Talbot 2021-22. Rheswm dros
y penderfyniad: Er mwyn
galluogi Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port
Talbot ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gyflawni ei ddyletswyddau i
ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn
1998. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Nid oes
gofyniad i ymgynghori â'r cyhoedd ar y cynllun cyfiawnder ieuenctid, ond mae'r
cynllun wedi'i ddosbarthu i bartneriaid drwy'r bwrdd rheoli a'r partneriaethau
diogelwch cymunedol. |