Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y
dylid penodi'r Cynghorydd P D Richards yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 200 KB Cofnodion: Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 fel cofnod cywir. |
|
Blaenraglen Waith 2021/2022 PDF 416 KB Cofnodion: Nodi'r
Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022. |
|
Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr 2020 - 2021 PDF 218 KB Cofnodion: Penderfyniad: Gohirir
ystyried yr adroddiad i gyfarfod o Fwrdd y Cabinet Gofal Cymdeithasol, Iechyd a
Lles yn y dyfodol. |
|
Adroddiad Blynyddol Cwynion a Sylwadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/2021 PDF 879 KB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2021 PDF 319 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid
nodi'r adroddiad monitro. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, cytunir y dylid
rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a
Thai roi cynnydd o 10% ar waith at bris y contract cyfredol ar gyfer
gwasanaethau Gofal Cartref a Gwasanaethau Byw â Chymorth a gomisiynwyd gan
Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer blwyddyn ariannol
2022/2023; 2.
Cyflwynir y cynnydd hwn, i ddechrau ar 1 Hydref 2021. Rhesymau
dros y Penderfyniadau: Helpu i
ail-sefydlogi'r farchnad gofal cymdeithasol. Rhoi
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Nid oes
gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon. Fodd bynnag, roedd gwaith
sylweddol wedi'i wneud gyda darparwyr perthnasol gwasanaethau gofal
cymdeithasol wrth ddatblygu'r cynnig. |
|
Dyfodol Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn PDF 636 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, cytunir ar Ddewis
3, fel a ganlyn: Ymrwymo i gontract newydd gyda Pobl i gadw Trem Y Glyn am
gyfnod hyd at 31 Mawrth 2023, gydag opsiwn ar gyfer ymestyn y contract hyd at
31 Mawrth 2025, a fydd yn cael ei ystyried ym mis Medi 2022 wrth aros am well
dealltwriaeth o sut y bydd COVID-19 yn effeithio ar wasanaethau gofal
cymdeithasol yn y dyfodol a’r galw amdanynt. 2.
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai roi'r
opsiwn y cytunwyd arno, a'r trefniant ariannu ar waith. Rheswm dros
y penderfyniad: Cytuno ar
ddyfodol tymor hir cyfleuster Trem y Glyn yng Nglyn-nedd yn sgil trafodaethau diweddar
gyda Pobl. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol ag
Adran 100A(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, wahardd y cyhoedd o'r eitem
fusnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel
a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac 16 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Y Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai yn Ad-dalu arian y Grant Cyfleusterau i'r Anabl (yn eithriedig o dan baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, hepgorir swm llawn yr arian grant,
fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, am y rhesymau a roddwyd yn
yr adroddiad. Rheswm dros
y penderfyniad: Sicrhau bod
yr Awdurdod yn arfer ei ddisgresiwn o dan Ddeddf Grantiau Tai Adeiladu ac
Adfywio 1996: Grant Cyfleusterau i'r Anabl (amodau sy'n gysylltiedig â
chymeradwyo neu dalu'r grant) - Caniatâd Cyffredinol 2008. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |