Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd A R Lockyer yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 75 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
Astudiaeth Dichonoldeb Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn PDF 70 KB Adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Cofnodion: Penderfyniad: Bod y cyngor yn gweithio gyda'r darparwr i gynnal
astudiaeth dichonoldeb i'r posibilrwydd o gadw Cartref Gofal Preswyl Trem y
Glyn ar agor ar ôl 2022. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi'r cyngor i dawelu meddyliau preswylwyr,
preswylwyr y dyfodol, teuluoedd a staff ynghylch y sefyllfa cyn gynted â
phosib. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Adroddiad ar y Cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a Phennaeth Y Gwasanaethau I Oedolion Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Caffael Gwasanaeth Eiriolaeth ar gyfer Oedolion PDF 138 KB Adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau I Oedolion Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Bydd Pennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion yn ymgymryd ag ymarfer caffael i gomisiynu gwasanaeth eiriolaeth ar
gyfer oedolion. 2.
Yn dilyn y broses gaffael,
caiff awdurdod dirprwyedig ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ymrwymo
i gontract â'r cynigiwr y gwerthuswyd ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol
yn economaidd (gan ystyried ansawdd a chost y cynigion), er mwyn darparu
gwasanaeth eiriolaeth i oedolion. Rheswm dros y Penderfyniadau: Bydd ymgymryd ag ymarfer ymgynghori er mwyn
cyflwyno gwasanaeth eiriolaeth yn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i
fodloni ei ofynion statudol o dan Ran 10 Côd Ymarfer (Eiriolaeth) Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ar ben hynny, bydd ymgymryd ag ymarfer caffael yn
helpu'r cyngor i fodloni ei rwymedigaethau cyffredinol sy'n deillio o
Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (TFEU) a bydd yn rheoli proses ar waith sy'n
dyfarnu contract mewn modd tryloyw nad yw'n gwahaniaethu. Yn ogystal, bydd proses
gaffael yn sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â'i Reolau Gweithdrefnau
Contract (RhGC) mewnol. Bydd ymrwymo i gontract gyda darparwr am gyfnod o
ddwy flynedd, gydag opsiwn i estyn am gyfnod o hyd at 24 mis ychwanegol yn rhoi
mwy o sicrwydd i ddarparwyr ac yn helpu cynaladwyedd y gwasanaeth. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Polisi Rheoli ac Adennill Dyled y Gwasanaethau i Oedolion PDF 73 KB Adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo Polisi Rheoli ac Adennill Dyled y
Gwasanaethau i Oedolion fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd fel Atodiad
1 Rheswm dros y Penderfyniad: Cydymffurfio â gofynion Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Rhan 4 a 5 y Côd Ymarfer (Gosod Ffïoedd
ac Asesiad Ariannol) Atodiad F, sy'n ymdrin ag adennill dyled a cholli asedau. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin 2018 -19 PDF 80 KB Adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau I Oedolion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Gan nad yw swyddogion ar gael, caiff yr eitem ei
gohirio tan gyfarfod nesaf Bwrdd Gofal, Iechyd a Lles y Cabinet. |
|
Polisi Rheoli Ymddygiad Hillside PDF 94 KB Adroddiad Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r diwygiad i Bolisi
Rheoli Ymddygiad Hillside fel y'i cynigiwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal, Iechyd
a Lles a gynhaliwyd cyn y cyfarfod bwrdd hwn. Penderfyniad: Cymeradwyo Polisi Rholi Ymddygiad Hillside fel y
nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad a gylchredwyd, yn amodol ar y diwygiad
canlynol: Bydd tudalen 157 o'r polisi fel y'i hatodir i'r
adroddiad a gylchredwyd o dan Y Rheolwr Cofrestredig (RhC) yn sicrhau y caiff
pwynt bwled 7 ei ddiwygio i nodi bod yr holl gofnodion ar reoli, atal a
disgyblu'n cael eu cwblhau'n llawn cyn gynted â phosib, ac o fewn 24 awr o'r
digwyddiad oni bai fod amgylchiadau eithriadol. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi'r cyngor i gydymffurfio â gofynion
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion
Cyfrifol) (Cymru) 2017 a'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd yn ôl y gofynion
hynny, yn benodol mewn perthynas â'r amgylchiadau lle caniateir atal corfforol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Adroddiad Ansawdd Gofal y Gwasanaeth Maethu 2018/19 a'r Datganiad o Ddiben Maethu PDF 73 KB Adroddiad
Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau Plan a Phobl Ifanc Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 69 KB Cofnodion: Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 19/20. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfyn gwahardd y cyhoedd o’r eitemau canlynol
yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a’r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gwaherddir y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn
debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff
13 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Cynnig i Adnewyddu Prydles Llety i'r cyngor yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Cimla Adroddiad Preifat gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai Cofnodion: Ar ôl derbyn diweddariad llafar, roedd yr Aelodau'n
gefnogol o'r dyddiad cychwyn ar gyfer adnewyddu'r brydles i'w rhoi'n
ôl-weithredol. Penderfyniad: Rhoi sêl bendith mewn egwyddor i adnewyddu'r
brydles gyda dyddiad dechrau ôl-weithredol ar gyfer defnyddio Canolfan Adnoddau
Cymunedol Cimla am gyfnod o 5 mlynedd ar amodau a thelerau i'w cytuno gan
Bennaeth Eiddo ac Adfywio ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi'r cyngor i ymrwymo i brydles gyda Bwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer Canolfan Adnoddau Cymunedol Cimla,
Castell-nedd SA11 3SU fel y gall yr adeilad barhau i fod yn amgylchedd gweithio
ar y cyd er mwyn ymgysylltu'n effeithiol â chydweithwyr yn y gwasanaethau
iechyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Contract Addysg Hillside Adroddiad Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau Plan a Phobl Ifanc Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Parheir i eithrio Rheol 2 y
Rheolau Gweithdrefnau Contractau, ac awdurdodir y cyngor i estyn a diwygio'r
cytundeb cydweithio mewn perthynas â'r gwasanaethau addysg yn Hillside gyda'r
ysgol, ar y telerau a nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd; 2.
Bydd Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Pennaeth Cyfranogiad y Cyngor a
Rheolwr Canolfan Hillside, yn parhau i gael eu dynodi'n gynrychiolwyr ar gyfer
y cyngor hwn at ddibenion y Cytundeb Cydweithio. Gweithredu holl bwerau dirprwyedig y fath
gynrychiolydd ar ran y cyngor, ac yn ychwanegol, ddirprwyo'r pŵer i benodi
cynrychiolydd amgen neu ddirprwy at ddibenion y Cytundeb Cydweithio i
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Pennaeth Cyfranogiad y
cyngor a Rheolwr Canolfan Hillside. 3.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol i drafod y Weithred Amrywio a chytuno arno, ac wedi hynny,
awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymrwymo i'r cytundeb ac unrhyw
ddogfennaeth gysylltiedig. Rhesymau
dros y Penderfyniadau: Bydd yr amrywiad o'r
cytundeb Cydweithio rhwng y cyngor a'r ysgol yn gwella'r ddarpariaeth
ymhellach. Bydd yn parhau i ganiatáu
gwell reolaeth a goruchwylio, er mwyn cyfoethogi cyfleoedd datblygu
proffesiynol ymhellach ar gyfer staff Addysg Hillside. Bydd Cytundeb
Cydweithio'n sicrhau bod trefniadau addas ar waith ar gyfer y saith mlynedd
nesaf. Rhoi
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside (yn eithriedig dan baragraff 13) (Gohiriwyd o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019) Adroddiad Preifat gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (Yn eithriedig dan baragraff 13) (Gohiriwyd o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019) Adroddiad
gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Trefniadau Contract ar gyfer Gwasanaeth Gosod, Cynnal a Chadw a Symud Teleofal Adroddiad Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau I Oedolion Cofnodion: Penderfyniad: Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion ymrwymo i gontract gyda Gofal a Thrwsio Bae’r Gorllewin
Cyf er mwyn iddo ddarparu system teleofal, ei gosod, ei chynnal a'i chadw a'i
symud, tan 31 Mawrth 2020, gydag opsiwn i estyn y contract tan 31 Mawrth 2021. Rheswm dros y Penderfyniad: Nid oes digon o gystadleuaeth o ran darparwyr
profiadol amgen i ddarparu'r gwasanaeth sy'n ofynnol ac mae'r trefniad
presennol yn rhoi'r gwerth gorau am arian i'r cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |