Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Craffu Hamdden a Diwylliant - Dydd Iau, 10fed Mawrth, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

·       23rd September 2021

·       16th December 2021

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23 Medi 2021 a 16 Rhagfyr 2021 yn gofnodion cywir o'r cyfarfodydd.

 

2.

Monitoring of Margam Park - Verbal Update

Cofnodion:

Derbyniodd y pwyllgor ddiweddariad llafar ynghylch monitro Parc Margam. Dywedwyd wrth yr aelodau fod yr orendy wedi troi'n ganolfan frechu ddynodedig, a diolchwyd i'r staff a'r gwirfoddolwyr am eu gwaith caled. Cwblhawyd y rhan fwyaf o'r gwaith adnewyddu yn yr orendy cyn i'r Bwrdd Iechyd agor y ganolfan frechu, gan fod yr orendy’n lleoliad priodas llwyddiannus yn ne Cymru. Nodwyd bod toiledau'r menywod ac ystafell y briodferch wedi cael eu hadnewyddu, yn ogystal ag ardal y bar. Adnewyddwyd y Pentref Tylwyth Teg, a oedd yn gyfagos i'r orendy, yn llawn yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf;  ers hynny, sicrhawyd grant gwerth £17,000 i adnewyddu'r tu mewn i'r bythynnod bach a'r castell cyn y Pasg. Hysbyswyd yr aelodau y buddsoddwyd yn yr ardaloedd bwyta, gan gynnwys prynu trelar arlwyo.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod 72 o briodasau wedi’u trefnu ar gyfer tymor 2022, sy'n llawer uwch na'r blynyddoedd cynt. Nodwyd y sicrhawyd £135,000 drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri i baratoi adroddiad dichonoldeb ar ddyfodol Castell Margam.  Esboniodd y swyddog mai’r bwriad oedd gwneud cais am tua £30 miliwn i atgyweirio'r castell.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor fod y sefyllfa ariannol yn gadarnhaol iawn; nodwyd oherwydd y ffrydiau incwm a'r ffaith eu bod yn is na'r gyllideb sydd wedi'i chlustnodi, ailfuddsodwyd arian ym Mharc Margam, a fyddai'n arwain at gynnydd mewn ffrydiau incwm. Amlinellodd y swyddog yr ystadegau presennol o ran y gyllideb, megis nifer yr ymwelwyr, a'r arian a gynhyrchir o gymharu â'r ffigurau rhagamcanol. Nodwyd bod cyfleoedd hysbysebu wedi bod yn ddiweddar, megis ar Lorraine, yn ogystal â chwmnïau ffilmio'n dychwelyd i'r parc i gynhyrchu, gan gynnwys y BBC, Disney a Netflix. 

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Pwyllgor, eglurwyd bod y fan arlwyo wedi costio tua £20,000.

 

Nododd y Pwyllgor fod y gwaith adnewyddu i doiledau'r menywod yn gadarnhaol, ond gofynnwyd am ragor o wybodaeth am y cyfleusterau anabl sydd ar waith yn y parc. Mewn ymateb, nodwyd bod cyfleusterau da yn yr orendy ar hyn o bryd a bod y gwasanaeth wrthi'n buddsoddi ychydig o'r elw o 2021-22 i adnewyddu dau o'r blociau toiledau yn y parc, a oedd yn cynnwys adnewyddu'r cyfleusterau anabl dan gynllun Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, gwnaed cais am grant i osod cyfleusterau anabl ychwanegol yn y blociau toiledau ger y tŷ Injan ac yn y blaen-gwrt.

 

Mewn ymateb i ymholiadau ynghylch colli incwm o ganlyniad i'r pandemig, cadarnhawyd bod yr holl incwm a gollwyd o briodasau a defnydd o'r orendy wedi'i adfer yn llawn gan Lywodraeth Cymru, sef tua £270,000.

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet ddiolch personol i Paul a'r tîm.

 

Diolchodd y Pwyllgor ac Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant i'r gwasanaeth am eu gwaith caled.

 

3.

Neath Port Talbot Library Service Update - Presentation pdf eicon PDF 44 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor ynghylch Gwasanaeth Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot a nodwyd, yn anffodus, oherwydd y pandemig, y cafwyd oedi gydag Adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, a fyddai fel arfer wedi'i drefnu i'w gyflwyno i'r Pwyllgor. Clywodd y Pwyllgor am sut ymatebodd y gwasanaeth i'r pandemig, sut maent yn darparu'r gwasanaeth llyfrgelloedd erbyn hyn, a'r diweddaraf ar y llyfrgelloedd a reolir gan y gymuned, a sut mae'r gwasanaeth yn perfformio ac yn cyflawni'r nodau strategol.

 

Canmolodd Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Rhaglen Sialens Ddarllen, a sefydlu'r llyfrgell newydd yng Nghastell-nedd.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r gwasanaeth llyfrgelloedd am eu gwaith caled, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud. 

 

4.

Quarter 3 Performance Management Data (1st April 2021- 31st December 2021) pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd data rheoli perfformiad chwarter 3 i'r Pwyllgor, ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Rhagfyr 2021 ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, mewn perthynas â Hamdden a Diwylliant.

 

Mewn ymateb i ymholiadau a dderbyniwyd, nodwyd y byddai cefndir ychwanegol i'r data a gasglwyd yn cael ei amlinellu yn adroddiad Safonau Cyhoeddus Cymru ynghylch nifer yr ymwelwyr mewn llyfrgelloedd. Y gobaith oedd y byddai gwelliant mawr i'r ffigurau hyn, gan fod cynnydd yn nifer yr ymwelwyr wedi bod yn ddiweddar, wrth i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio. Cadarnhawyd hefyd fod data ar gyfer defnydd ar-lein wedi'i gasglu.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer yr Is-Bwyllgor Hamdden a Diwylliant. 

 

6.

Eitemau brys

Any urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100B (4) (b) of the Local Government Act 1972

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.