Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Craffu Hamdden a Diwylliant - Dydd Iau, 16eg Rhagfyr, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad PowerPoint yn ymwneud â'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cyflwynwyd clip rhithwir yn y cyfarfod a oedd yn dangos y gwaith yr oedd y tîm wedi’i gyflawni i gadw’r rheini’n heini yn ystod COVID-19.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw gyfraddau consesiynol. Eglurodd swyddogion bod y gyfradd wedi'i gosod ar £2 oherwydd canllawiau cenedlaethol. Eglurodd swyddogion eu bod yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod y pris yn aros ar gyfradd deg.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch lleoliad y dosbarthiadau. Eglurodd swyddogion eu bod yn ceisio’u cadw yn y prif ardaloedd canolog yng Nghastell-nedd Port Talbot er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i ddosbarth.

Canmolodd yr aelodau waith y tîm a diolchwyd i'r swyddogion am eu holl waith.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r cyflwyniad

 

 

 

2.

Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2021-2022 - Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2021 - 30 Medi 2021) pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd data rheoli perfformiad chwarter 2 i'r aelodau, am y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021 ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â Hamdden a Diwylliant, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Amlygodd yr aelodau eu dealltwriaeth o'r pwysau yr oedd swyddogion wedi'i ysgwyddo yn ystod y cyfnod digynsail hwn a chanmolasant eu hymdrechion i gadw'r gwasanaeth i fynd dan amgylchiadau mor anodd gyda chyfyngiadau COVID-19. Adlewyrchwyd y rhain yn y dangosyddion perfformiad.

 

Gofynnwyd a fyddai modd cymhwyso cyfradd gonsesiynol i gynyrchiadau Luminate i sicrhau nad yw teuluoedd yn colli’r cyfle i fynd i’r digwyddiad oherwydd y gost. Sicrhaodd y swyddogion yr Aelodau y byddent yn trafod hyn â Phrif Weithredwr Luminate.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/22 yn amodol ar ychwanegu diweddariad ar Barc Margam mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (cyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

 

 

Cofnodion:

Cododd Aelod y Cabinet ymholiad a oedd yn ymwneud â Chlwb Chwaraeon yr oedd angen safle arnynt i'w ddefnyddio. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn codi hwn ac yn ymateb i'r clwb chwaraeon y tu allan i'r cyfarfod.