Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff PDF 3 MB Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad PowerPoint yn
ymwneud â'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff,
fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cyflwynwyd clip rhithwir yn y cyfarfod a oedd yn
dangos y gwaith yr oedd y tîm wedi’i gyflawni i gadw’r rheini’n heini yn ystod
COVID-19. Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw gyfraddau
consesiynol. Eglurodd swyddogion bod y gyfradd wedi'i gosod ar £2 oherwydd
canllawiau cenedlaethol. Eglurodd swyddogion eu bod yn gwneud eu gorau glas i
sicrhau bod y pris yn aros ar gyfradd deg. Cafwyd trafodaethau ynghylch lleoliad y
dosbarthiadau. Eglurodd swyddogion eu bod yn ceisio’u cadw yn y prif ardaloedd
canolog yng Nghastell-nedd Port Talbot er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael
mynediad i ddosbarth. Canmolodd yr aelodau waith y tîm a diolchwyd i'r
swyddogion am eu holl waith. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r cyflwyniad |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd data rheoli perfformiad chwarter 2 i'r
aelodau, am y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021 ar gyfer y Gyfarwyddiaeth
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â Hamdden a Diwylliant, fel y
nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Amlygodd yr aelodau eu dealltwriaeth o'r pwysau yr
oedd swyddogion wedi'i ysgwyddo yn ystod y cyfnod digynsail hwn a chanmolasant
eu hymdrechion i gadw'r gwasanaeth i fynd dan amgylchiadau mor anodd gyda
chyfyngiadau COVID-19. Adlewyrchwyd y rhain yn y dangosyddion perfformiad. Gofynnwyd a fyddai modd cymhwyso cyfradd
gonsesiynol i gynyrchiadau Luminate i sicrhau nad yw teuluoedd yn colli’r cyfle
i fynd i’r digwyddiad oherwydd y gost. Sicrhaodd y swyddogion yr Aelodau y
byddent yn trafod hyn â Phrif Weithredwr Luminate. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/22 yn
amodol ar ychwanegu diweddariad ar Barc Margam mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (cyhoeddus neu wedi'u heithrio)
yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 Cofnodion: Cododd Aelod y Cabinet ymholiad a oedd yn ymwneud â
Chlwb Chwaraeon yr oedd angen safle arnynt i'w ddefnyddio. Cadarnhaodd
swyddogion y byddent yn codi hwn ac yn ymateb i'r clwb chwaraeon y tu allan i'r
cyfarfod. |