Cofnodion drafft

Is-bwyllgor Craffu Hamdden a Diwylliant - Dydd Iau, 23ain Medi, 2021 2.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020 fel cofnod cywir.

 

2.

Adroddiad Diweddaru'r Gwasanaeth Hamdden a Diwylliant - Diweddariad Llafar

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad llafar ar y Theatrau, y Llyfrgelloedd a Pharc Margam.

 

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith ei bod wedi bod yn gyfnod anodd i theatrau yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, roedd staff wedi bod yn gynhyrchiol yn y cefndir drwy ddangos cynyrchiadau rhithwir i'r cwsmeriaid.

 

Nodwyd bod rhai o'r staff sy'n gweithio ym maes hamdden a diwylliant hefyd wedi'u hadleoli i weithio a helpu gyda'r cynllun Monitro ac Olrhain. Roedd swyddogion yn cyfarfod yn wythnosol ar Microsoft Teams i sicrhau bod cyfathrebu a lles yn cael eu hystyried a'u trafod.

 

Nodwyd bod y lleoliadau bellach ar agor a Theatr y Dywysoges Frenhinol oedd un o'r theatrau cyntaf i agor a dangos cynhyrchiad.

 

Nodwyd ei bod yn gyfnod anodd yn ystod COVID-19 i staff Parc Margam. Ymatebodd aelodau’r staff yn dda i’r newid yn dilyn COVID-19 gan sicrhau bod yr asesiadau risg perthnasol yn gyfredol ac yn eu lle. Nodwyd bod Orendy Margam yn cael ei ddefnyddio fel canolfan frechu gan arwain at ganslo nifer o briodasau. Fodd bynnag, byddai'r lleoliad yn cael ei ddefnyddio fel yr arferai gael ei ddefnyddio o fis Ionawr 2022.

 

Nododd yr Aelodau, oherwydd proses gaffael y Gwasanaethau Hamdden, nad oedd yr aelodau'n gallu cael diweddariad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Cyd-bwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet yn y dyfodol i dderbyn diweddariad ar hyn.

 

Canmolodd yr aelodau’r gwaith yr oedd y tîm yn y Gwasanaethau Llyfrgell wedi’i gyflawni yn ystod COVID-19 ac roeddent yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf.  Nodwyd bod Swyddogion wedi cysylltu ag Aelodau'r Cabinet drwy gydol y pandemig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer darlledu digwyddiadau ar-lein yn y theatrau. Nodwyd y byddai swyddogion yn dosbarthu ffigurau darlledu digwyddiadau ar-lein y tu allan i'r cyfarfod.

 

Nodwyd bod pryderon gan breswylwyr Pontardawe ynghylch yr ymdeimlad masnachol posib i’r syniad o ddatblygu’r sinema yng Nghanolfan y Celfyddydau. Cadarnhaodd y swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw uchelgais i newid awyrgylch Canolfan Celfyddydau Pontardawe.

 

Diolchodd yr aelodau i'r holl staff yn y maes hamdden a diwylliant am y gwaith y maent wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd y diweddariad ar lafar.

 

3.

Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2021-2022 - Dangosyddion Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill 2021 – 30 Mehefin 2021) pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd data rheoli perfformiad chwarter 1 i'r aelodau, am y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 30 Mehefin 2021 ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â Hamdden a Diwylliant, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Canmolodd yr Aelodau Gastell-nedd Port Talbot am eu hagwedd flaengar wrth barhau i ddiweddaru a darparu cyfleusterau nofio o'r radd flaenaf. Nodwyd bod ardaloedd eraill wedi dechrau lleihau eu cyfleusterau ac roedd yr aelodau'n falch o weld nad oedd Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud yr un peth.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

4.

Amserau agor y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd 2021 pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad ynghylch oriau agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2021, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.


Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

5.

Y diweddaraf am y Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon (PASS) - Cyflwyniad pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad ar y Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Canmolodd yr aelodau’r swyddogion am y gwaith a gyflawnwyd ganddynt dros y cyfnod anodd oherwydd COVID-19.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

6.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/22.