Lleoliad arfaethedig: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 61 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Diweddaru'r Gwasanaeth Hamdden a Diwylliant - Diweddariad Llafar Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad llafar ar y
Theatrau, y Llyfrgelloedd a Pharc Margam. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith ei bod wedi bod
yn gyfnod anodd i theatrau yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, roedd staff wedi
bod yn gynhyrchiol yn y cefndir drwy ddangos cynyrchiadau rhithwir i'r
cwsmeriaid. Nodwyd bod rhai o'r staff sy'n gweithio ym maes hamdden a diwylliant hefyd
wedi'u hadleoli i weithio a helpu gyda'r cynllun Monitro ac Olrhain. Roedd
swyddogion yn cyfarfod yn wythnosol ar Microsoft Teams i sicrhau bod cyfathrebu
a lles yn cael eu hystyried a'u trafod. Nodwyd bod y lleoliadau bellach ar agor a Theatr y
Dywysoges Frenhinol oedd un o'r theatrau cyntaf i agor a dangos cynhyrchiad. Nodwyd ei bod yn gyfnod anodd yn ystod COVID-19 i
staff Parc Margam. Ymatebodd aelodau’r staff yn dda i’r newid yn dilyn COVID-19
gan sicrhau bod yr asesiadau risg perthnasol yn gyfredol ac yn eu lle. Nodwyd
bod Orendy Margam yn cael ei ddefnyddio fel canolfan frechu gan arwain at
ganslo nifer o briodasau. Fodd bynnag, byddai'r lleoliad yn cael ei ddefnyddio
fel yr arferai gael ei ddefnyddio o fis Ionawr 2022. Nododd yr Aelodau, oherwydd proses gaffael y
Gwasanaethau Hamdden, nad oedd yr aelodau'n gallu cael diweddariad ar hyn o
bryd. Fodd bynnag, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Cyd-bwyllgor
Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet yn y dyfodol i dderbyn
diweddariad ar hyn. Canmolodd yr aelodau’r gwaith yr oedd y tîm yn y
Gwasanaethau Llyfrgell wedi’i gyflawni yn ystod COVID-19 ac roeddent yn edrych
ymlaen at dderbyn diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf. Nodwyd bod Swyddogion wedi cysylltu ag
Aelodau'r Cabinet drwy gydol y pandemig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb. Cafwyd trafodaethau ynghylch y ddarpariaeth ar
gyfer darlledu digwyddiadau ar-lein yn y theatrau. Nodwyd y byddai swyddogion
yn dosbarthu ffigurau darlledu digwyddiadau ar-lein y tu allan i'r cyfarfod. Nodwyd bod pryderon gan breswylwyr Pontardawe
ynghylch yr ymdeimlad masnachol posib i’r syniad o ddatblygu’r sinema yng
Nghanolfan y Celfyddydau. Cadarnhaodd y swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw
uchelgais i newid awyrgylch Canolfan Celfyddydau Pontardawe. Diolchodd yr aelodau i'r holl staff yn y maes
hamdden a diwylliant am y gwaith y maent wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod
digynsail hwn. Yn dilyn craffu, nodwyd y diweddariad ar lafar. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd data rheoli perfformiad chwarter 1 i'r
aelodau, am y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 30 Mehefin 2021 ar gyfer y
Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â Hamdden a
Diwylliant, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Canmolodd yr Aelodau Gastell-nedd Port Talbot am eu
hagwedd flaengar wrth barhau i ddiweddaru a darparu cyfleusterau nofio o'r radd
flaenaf. Nodwyd bod ardaloedd eraill wedi dechrau lleihau eu cyfleusterau ac
roedd yr aelodau'n falch o weld nad oedd Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud
yr un peth. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Amserau agor y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd 2021 PDF 200 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad ynghylch oriau
agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2021, fel y nodwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
|
|
Y diweddaraf am y Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon (PASS) - Cyflwyniad PDF 5 MB Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad ar y Gwasanaeth
Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon, fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Canmolodd yr aelodau’r swyddogion am y gwaith a
gyflawnwyd ganddynt dros y cyfnod anodd oherwydd COVID-19. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/22. |