Agenda a Chofnodion

Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet - Dydd Gwener, 22ain Ionawr, 2021 10.01 am

Lleoliad: Via Teams

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Cofnodion 17 Ionawr 2020 a 28 Chwefror 2020.

3.

Rhaglen Caffael Peiriannau Trymion a Cherbydau 2021/2022 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Rhaglen Caffael Cerbydlu Cerbydau a Pheiriannau Trwm 2021/2022 ar gyfer cerbydau a pheiriannau trwm newydd , fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd. 

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Bydd gan y cerbydau a'r peiriannau trwm newydd safon Ewropeaidd uwch, a fydd yn galluogi'r cerbydlu i fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd drwy ddefnyddio llai o danwydd a lleihau ôl troed carbon y cyngor drwy leihau allyriadau. Mae Trafnidiaeth Integredig hefyd wedi cynnal ymarfer effeithlonrwydd cerbydau i sefydlu defnydd o gerbydau/beiriannau trwm o fewn adrannau gyda'r posibilrwydd o gyflwyno cerbydau trydan llawn a cherbydau/peiriannau trwm allyriadau isel iawn i'r cerbydlu er mwyn lleihau allyriadau carbon sy'n cael eu gollwng o gerbydau a pheiriannau mawr Cerbydlu yr Awdurdod ymhellach. Gwneir hyn ar y cyd â gwelliannau isadeiledd o fewn yr Awdurdod yn y dyfodol a thrwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol eraill a chwmnïau.

 

Datblygir y manylebau i ddarparu ar gyfer

gofynion Iechyd a Diogelwch yr awdurdod, a chânt eu trafod gyda'r

adrannau sy'n eu defnyddio, gweithgynhyrchwyr a'r adran iechyd a diogelwch i sicrhau bod y cerbydau cywir yn cael eu caffael.

 

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

4.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Lle Parcio Unigol Arfaethedig i'r Anabl yn Heol Illtud, Castell-nedd pdf eicon PDF 53 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu gorchymyn rheoleiddio traffig y Lle Parcio Unigol i'r Anabl yn Rhif 84 Heol Illtyd, Castell-nedd SA10 7SF (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, caiff ei weithredu ar y safle fel y'i hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Caniatáu i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnal ei annibyniaeth a'i ansawdd bywyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgymerir ag ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.

 

5.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Lle Parcio Unigol Arfaethedig i'r Anabl yn Ferry View, Sgiwen pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu gorchymyn rheoleiddio traffig y Lle Parcio Unigol i'r Anabl yn Rhif 2 Ferry View, Sgiwen SA10 6BN (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, caiff ei weithredu ar y safle fel y'i hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Caniatáu i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnal ei annibyniaeth a'i ansawdd bywyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgymerir ag ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.

 

6.

Gorchymyn/Gorchmynion Traffig, Heol Sant Paul a Sunnybank Road, Port Talbot (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar unrhyw adeg) pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod y gwrthwynebiad yn cael ei gadarnhau'n rhannol i orchymyn rheoleiddio traffig Heol St Paul's a Heol Sunnybank, Port Talbot (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw adeg) 2020 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), a bod y cynllun diwygiedig (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd) yn cael ei roi ar waith ar y safle, a bod y gwrthwynebydd yn cael ei hysbysu'n unol â hynny.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

7.

Gorchymyn Traffig: Heol Talbot a Stryd Beverley, Port Talbot (Dirymiad) (Aros Cyfyngedig) (Un Ffordd) a (Dim Mynediad) pdf eicon PDF 53 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod y gwrthwynebiadau'n cael eu gwrthod ynghylch gorchymyn rheoleiddio traffig Heol Talbot a Stryd Beverley, Port Talbot (Dirymu) (Aros Cyfyngedig) (Un Ffordd) a (Dim Mynediad) 2020 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a bod y cynllun yn cael ei weithredu ar y safle fel y'i hysbysebwyd a bod y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu'n unol â hynny.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Darparu trefn barcio gytbwys ac atal parcio diwahaniaeth er budd diogelwch priffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

8.

Gorchymyn Traffig: Heol Cimla, Castell-nedd - Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod y gwrthwynebiadau i orchymyn rheoleiddio traffig Heol Cimla, Cimla, Castell-nedd (Gwahardd Aros ar Unrhyw adeg) 2020 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) yn cael eu cynnal, a bod y cynllun yn cael ei ddisodli gan farciau ffordd bar H i'r dreif a bod y sefyllfa'n cael ei monitro wrth symud ymlaen, a bod y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu'n yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

9.

Blaenraglen Waith 2021 pdf eicon PDF 41 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.