Agenda a Chofnodion

Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet - Dydd Gwener, 2ail Gorffennaf, 2021 10.05 am

Lleoliad: via Teams

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd M Harvey yn Gadeirydd y

cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 21 Mai, 2021.

 

4.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, caiff y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ei diwygio fel a ganlyn:  

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

Wales Environmental (W040) - Categorïau 76, 94, 95

Chillwise Services Ltd (C072) - Categorïau 55, 56

Phoenix Asbestos Recovery Ltd (P052) - Categori 31

Guardwatch Security UK Ltd (G035) - Categori 3

 

Cwmni i'w ychwanegu at gategori ychwanegol ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

Neath Construction (N011) - Categorïau 37, 38, 39, 40, 55, 56, 57, 58, 59

 

Cwmni i'w dynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (B032) - Categorïau 12, 23, 72, 84, 88, 89, 96, 102

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

5.

Cyllid Cyfalaf Strydlun 2021/22 pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig,

cymeradwyir dyraniadau cyllid arian Gwelliannau i'r Strydlun a'r Amgylchedd a gynhwyswyd yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/2022, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Penderfynu ar gynigion gwario mewn perthynas ag arian 'Gwella'r Strydlun a'r Amgylchedd' sydd wedi'i gynnwys yn y gyllideb gyfalaf.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

6.

Blaenraglen Waith 2021-2022 pdf eicon PDF 38 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

7.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12, 13 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

8.

Gwelliannau i Gyffordd Castell-nedd (wedi'i eithrio o dan baragraffau 12, 14 a 15)

Cofnodion:

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddent yn ystyried pryderon yr aelodau.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoddir cymeradwyaeth i swyddogion gychwyn trafodaethau a chyflwyno cais am gyllid, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Bydd datblygu'r cynnig ymhellach yn helpu i leihau

tagfeydd, yn helpu ansawdd aer yn yr ardal ac yn rhyddhau tir datblygu yng Nghimla sydd ar hyn o bryd yn cael ei atal gan broblemau sy'n ymwneud â niferoedd cerbydau yn y gyffordd hon.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

9.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r materion a gynhwysir yng nghofnod Rhif 10 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitem frys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rheswm:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

 

10.

Cynnig i Adnewyddu Trwydded Dros Dro i'r Ysgrifennydd Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar gyfer Canolfan Brofi Coronafeirws Galw Heibio Leol ym Maes Parcio Milland Road, Castell-nedd.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig cymeradwyir yr amodau a'r telerau ar gyfer caniatáu adnewyddu'r drwydded dros dro fel y'i nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i ymrwymo i adnewyddu'r cytundeb trwydded dros dro ar gyfer meddiannu Maes Parcio Milland Road, Castell-nedd yn rhannol gan yr Ysgrifennydd Cymunedau Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Bydd caniatáu adnewyddu'r drwydded dros dro yn galluogi'r GIG i gynnal Profion Coronafeirws Lleol ar breswylwyr yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith.