Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd M Harvey yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 81 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cofnodion
cyfarfod 26 Mawrth, 2021. |
|||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 124 KB Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig a ddosbarthwyd, dylid cynnwys y cwmnïau canlynol yn y Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy:-
Rheswm dros y penderfyniadau: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol. Rhoi Penderfyniadau ar
Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Esboniodd swyddogion y byddai Opsiwn 3 yn caniatáu
mynediad i'r traeth drwy gât i gerddwyr ond byddai hygyrchedd yn gyfyngedig
oherwydd goblygiadau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â darparu mynediad
anghyfyngedig yn y lleoliad hwn - roedd hyn oherwydd graddiant y ramp a’r
prosesau llanw. Eglurodd y Swyddogion hefyd y byddent yn ymchwilio
i fynediad i gadeiriau gwthio yn y lleoliad hwn. Canmolodd yr Aelodau Gynghorwyr Lleol am yr holl
waith caled a wnaed yn y maes hwn. Roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r
gwelliant i'r argymhelliad fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
fel a ganlyn: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig cam cyntaf a ddosbarthwyd, rhoddir cymeradwyaeth ar gyfer mynediad i
draeth Aberafan drwy'r ramp mynediad llithrfa newydd drwy'r gât i gerddwyr yn
unig, a chaiff y brif gât ei chadw dan glo a bydd yn hygyrch ar gyfer gwaith
cynnal a chadw ac argyfwng yn unig. Bydd y gât i gerddwyr i'r traeth yn parhau
i fod ar agor a gellir ei defnyddio fel pwynt mynediad i'r traeth ym mhen
gorllewinol y promenâd. Byddai hyn hefyd yn cynnwys ychwanegu rhwystr,
arwyddion a mannau parcio ychwanegol i'r anabl ger y ramp mynediad pwrpasol i'r
anabl, fel y nodir yn Opsiwn 3 yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Penderfynu ar unrhyw fynediad cyhoeddus mewn perthynas â'r ramp cynnal a
chadw mynediad i'r traeth sydd newydd ei adeiladu ym maes parcio Rhodfa
Scarlett. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau |
|||||||||||
Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Cil-ffriw PDF 52 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig a ddosbarthwyd, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn
Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 20 mya arfaethedig ym Mhentref Cil-ffriw,
Castell-nedd, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, dylid gweithredu'r cynigion ar y safle fel
y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Helpu i leihau cyflymder traffig er budd
diogelwch ar y ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau |
|||||||||||
Opsiynau dylunio ar gyfer Adferiad Tomen Cilmaengwyn uwchben Ysgol Gynradd Godre'r Graig PDF 69 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwywyd penodi Earth Science Partnership i
ymgymryd â'r gwaith o ymchwilio i'r opsiynau dylunio, gan gynnwys cynhyrchu
amcangyfrifon cyllideb ar gyfer yr holl waith sy'n gysylltiedig ag adfer tomen
wastraff Cilmaengwyn, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Helpu i gynhyrchu opsiwn adfer addas ar gyfer
Tomen Cilmaengwyn. Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau |
|||||||||||
Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 37 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |