Agenda a Chofnodion

Lleoliad: via Teams

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Y Cynghorydd M Harvey oedd yr Aelod Cabinet newydd dros Strydlun a Pheirianneg erbyn hyn.

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd a gadawodd y cyfarfod cyn dechrau'r Eitem.

 

Y Cyng. R W Wood, parthed:  Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol (Eitem Breifat 16) gan fod ei fab yn defnyddio'r gwasanaeth hwn.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 22 Ionawr, 2021.

 

 

5.

Cynllun Rheoli Coedyddiaeth pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd

 

y dylid cymeradwyo’r Cynllun Rheoli Coedyddiaeth, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn caniatáu dull cyson o reoli coed ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

6.

Rhaglen Waith Priffyrdd a Chymdogaethau ar y Cyd 2021/2022 pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn y cyfnod galw i mewn o dridiau, nodwyd y byddai swyddogion yn ysgrifennu at bob Aelod gyda manylion y gwaith sydd i'w wneud yn eu wardiau o dan y rhaglen newydd.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,

 

y dylid cymeradwyo gwariant y Rhaglen Waith ar gyfer 2021/2022, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn cynnal asedau y mae'r cyngor yn gyfrifol amdanynt a mynd i'r afael â phryderon y gymuned mewn perthynas â'r un peth.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

7.

Rhaglen Gyfalaf Traffig 2021-2022: Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig pdf eicon PDF 53 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,

 

y dylid rhoi cymeradwyaeth i Swyddogion Adrannau Traffig, ar gyfer y cynlluniau a gynhwysir yn Rhaglen Gyfalaf Traffig 2021-2022, a chânt eu hysbysebu yn unol â'r gofynion statudol, ac y dylid gweithredu'r cynlluniau yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a geir yn y rheoliadau Traffig Ffyrdd presennol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau. Pe bai unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau, byddai'r rhain yn cael eu hadrodd yn ôl i Fwrdd y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg am benderfyniad.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Mae'r cynlluniau'n angenrheidiol er budd diogelwch ffyrdd ac yn darparu darpariaethau parcio digonol o fewn y Fwrdeistref Sirol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

8.

Cynlluniau Grant Diogelwch Ffyrdd 2021-2022: Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig a Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd swyddogion eu bod wedi derbyn y grantiau gan Lywodraeth Cymru wedi hynny ac y byddent bellach yn datblygu'r prosiectau hyn.  Hysbyswyd yr Aelodau am y dyfarniadau grant yn eu wardiau priodol.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,

 

y dylid rhoi caniatâd i Swyddogion Adrannau Traffig, ar gyfer gorchmynion rheoleiddio traffig a gynhwysir yn atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, rhestr o gynlluniau ar gyfer 2021-2022, a chânt eu hysbysebu yn unol â'r gofynion statudol. Y cynlluniau i'w gweithredu yn unol â'r gofynion statudol perthnasol sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau Traffig Ffyrdd presennol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau. Pe bai unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau, byddai'r rhain yn cael eu hadrodd yn ôl i Fwrdd y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg am benderfyniad.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Mae'r cynlluniau'n angenrheidiol er budd diogelwch ffyrdd yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

9.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Tai-bach pdf eicon PDF 51 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,

 

y dylid rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu'r gorchymyn rheoleiddio traffig Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros ar Unrhyw Adeg yn Somerset Street a Somerset Lane, Tai-bach (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, dylid gweithredu'r cynigion ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

        Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

10.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Cimla a Castell-nedd pdf eicon PDF 55 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd swyddogion fod hyn yn cael ei wneud ar gyfer Gwasanaethau Gofal Stryd o ganlyniad i nifer yr ymwelwyr a oedd yn ymweld â'r parc yn lleol, gan arwain at dagfeydd traffig a pharcio diwahaniaeth ar y dreifiau yn ystâd ardal Cimla, a oedd yn achosi tagfeydd ac anhawster i gerbydau fynd heibio.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,

 

y dylid rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar hyd y B4287 Cimla Road a lôn fynediad gorllewinol y Gnoll, Parc y Gnoll, Castell-nedd - Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg. Lôn fynediad gorllewinol y Gnoll a'r lôn o Beechwood Avenue i lôn fynediad gorllewinol y Gnoll, Parc y Gnoll, Castell-nedd - Gorchymyn rheoleiddio traffig ffordd glir (fel y nodir yn Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd), ac os na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, dylid gweithredu'r cynigion ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er budd diogelwch cerddwyr a ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

11.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Tonna pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,

 

y dylid rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar  Henfaes Road a Park Street, Tonna - Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros ar Unrhyw adeg (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, dylid gweithredu'r cynigion ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

        Atal parcio diwahaniaeth a helpu llif y traffig er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

12.

Blaenraglen Waith 2021/2022 pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

13.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnodion Rhif 14 ac 15 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rheswm:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

14.

Fframwaith Gwasanaethau Peirianneg Sifil Rhanbarthol de-orllwein a Chanolbarth Cymru 2021 - 2025 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,

 

yn unol ag Adran 3 Rheolau Gweithdrefn Contract y cyngor, y dylid grymuso swyddogion awdurdodedig i ddefnyddio Fframwaith Gwasanaethau Peirianneg Sifil Rhanbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Galluogi ar gyfer caffael Gwasanaethau Ymgynghori yn amserol yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (gan gynnwys Diwygiadau Dilynol) a Rheolau Gweithdrefnau Contract y cyngor ei hun.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

15.

Rhestr O Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,

 

cynnwys y canlynol ar y Rhestr Gymeradwy o Gontractwyr yn y categorïau isod:-

 

Cwmni a Chategori

 

Bolt Alarm Response Ltd (B039) - 3

 

RTL Group T/A Roofing Tech (R040)      - 15, 16, 17a-e

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

16.

Mynediad i gyfarfodydd

To resolve to exclude the public for the following items pursuant to Regulation 4 (3) and (5) of Statutory Instrument 2001 No. 2290 and the relevant exempt paragraphs of Part 4 of schedule 12A to the Local Government Act 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12, 13 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

17.

Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd

 

1.      Bod Rheol 11 y Rheolau Gweithdrefnau Contract yn cael ei hatal a bod awdurdod yn cael ei roi i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth i ymestyn contractau o'r Cartref i'r Ysgol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat. 

 

2.      Nodi y bydd fframwaith newydd ar gyfer Gwasanaethau Trafnidiaeth Teithwyr (fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat) yn cael ei gyflwyno o fis Chwefror 2022.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

1.          Bydd ymestyn y contractau yn sicrhau nad effeithir ar gyllideb y cyngor gan gostau chwyddedig sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i'r pandemig, bydd hefyd yn rhoi sicrwydd i weithredwyr sy'n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

 

2.          Bydd y fframwaith newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth gaffael gofynion trafnidiaeth ar gyfer y cyngor.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.