Lleoliad: Via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo Cofnodion 17 Ionawr 2020 a 28 Chwefror 2020. |
|
Rhaglen Caffael Peiriannau Trymion a Cherbydau 2021/2022 PDF 134 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo Rhaglen Caffael Cerbydlu Cerbydau a Pheiriannau Trwm 2021/2022
ar gyfer cerbydau
a pheiriannau trwm newydd , fel y nodir yn Atodiad A i'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Bydd gan y cerbydau a'r
peiriannau trwm newydd safon Ewropeaidd uwch, a fydd yn galluogi'r cerbydlu i
fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd drwy ddefnyddio llai o danwydd a lleihau ôl
troed carbon y cyngor drwy leihau allyriadau. Mae Trafnidiaeth Integredig hefyd
wedi cynnal ymarfer effeithlonrwydd cerbydau i sefydlu defnydd o
gerbydau/beiriannau trwm o fewn adrannau gyda'r posibilrwydd o gyflwyno
cerbydau trydan llawn a cherbydau/peiriannau trwm allyriadau isel iawn i'r
cerbydlu er mwyn lleihau allyriadau carbon sy'n cael eu gollwng o gerbydau a
pheiriannau mawr Cerbydlu yr Awdurdod ymhellach. Gwneir hyn ar y cyd â
gwelliannau isadeiledd o fewn yr Awdurdod yn y dyfodol a thrwy weithio mewn
partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol eraill a chwmnïau. Datblygir y manylebau i
ddarparu ar gyfer gofynion Iechyd a Diogelwch
yr awdurdod, a chânt eu trafod gyda'r adrannau sy'n eu defnyddio,
gweithgynhyrchwyr a'r adran iechyd a diogelwch i sicrhau bod y cerbydau cywir
yn cael eu caffael. Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Rhoi cymeradwyaeth i
hysbysebu gorchymyn rheoleiddio traffig y Lle Parcio Unigol i'r Anabl yn Rhif
84 Heol Illtyd, Castell-nedd SA10 7SF (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a
ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, caiff ei weithredu ar
y safle fel y'i hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Caniatáu i'r ymgeisydd
llwyddiannus gynnal ei annibyniaeth a'i ansawdd bywyd. Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y penderfyniad ei roi
ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Ymgymerir ag ymarfer ymgynghori
pan gaiff y cynllun ei hysbysebu. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu gorchymyn rheoleiddio traffig y Lle Parcio
Unigol i'r Anabl yn Rhif 2 Ferry View, Sgiwen SA10 6BN (fel y nodir yn Atodiad
A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau,
caiff ei weithredu ar y safle fel y'i hysbysebwyd. Rheswm
dros y penderfyniad: Caniatáu i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnal ei
annibyniaeth a'i ansawdd bywyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Ymgymerir ag ymarfer ymgynghori pan gaiff y
cynllun ei hysbysebu. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod y gwrthwynebiad yn cael ei gadarnhau'n rhannol i
orchymyn rheoleiddio traffig Heol St Paul's a Heol Sunnybank, Port Talbot
(Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw adeg) 2020 (fel y nodir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), a bod y cynllun diwygiedig (fel y
nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd) yn cael ei roi ar waith ar y
safle, a bod y gwrthwynebydd yn cael ei hysbysu'n unol â hynny. Rheswm
dros y penderfyniad: Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Mae'r
eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod y gwrthwynebiadau'n cael eu gwrthod ynghylch
gorchymyn rheoleiddio traffig Heol Talbot a Stryd Beverley, Port Talbot (Dirymu)
(Aros Cyfyngedig) (Un Ffordd) a (Dim Mynediad) 2020 (fel y nodir yn Atodiad A
i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a bod y cynllun yn cael ei weithredu ar y safle
fel y'i hysbysebwyd a bod y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu'n unol â hynny. Rheswm
dros y penderfyniad: Darparu trefn barcio gytbwys ac atal parcio
diwahaniaeth er budd diogelwch priffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Mae'r
eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|
Gorchymyn Traffig: Heol Cimla, Castell-nedd - Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod y gwrthwynebiadau i orchymyn rheoleiddio traffig Heol Cimla, Cimla,
Castell-nedd (Gwahardd Aros ar Unrhyw adeg) 2020 (fel y nodir yn Atodiad A i'r
adroddiad a ddosbarthwyd) yn cael eu cynnal, a bod y cynllun yn cael ei
ddisodli gan farciau ffordd bar H i'r dreif a bod y sefyllfa'n cael ei
monitro wrth symud ymlaen, a bod y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu'n yn unol â
hynny. Rheswm
dros y penderfyniad: Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Mae'r
eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|
Blaenraglen Waith 2021 PDF 41 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |