Agenda a Chofnodion

Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet - Dydd Gwener, 24ain Medi, 2021 10.05 am

Lleoliad: via Teams

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd penodi'r Cynghorydd M Harvey yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 2 Gorffennaf 2021.

 

4.

Ailddyrannu Arian Cyfalaf Priffyrdd a ryddhawyd drwy Arian Grant 2020/21 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod yr eitemau yn yr adroddiad yn faterion diogelwch â blaenoriaeth.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig penderfynwyd y dylid rhoi cymeradwyaeth i waith ychwanegol gael ei wneud fel rhan o Raglen Waith 2021/2022, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Cynnal asedau y mae'r cyngor yn gyfrifol amdanynt a mynd i'r afael â phryderon y gymuned mewn perthynas â'r un peth.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

5.

Adnewyddu'r goleuadau yn Rhodfa'r Faenor, Glyn-nedd pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith yr ymdriniwyd â nifer o'r rhain eisoes fel rhan o raglen fuddsoddi'r cyngor, a’u bod yn defnyddio'r un broses a gynhaliwyd dan y brif raglen adnewyddu.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i swyddogion ofyn am ganiatâd a chytundeb ffurfiol gan Ystâd Aberpergwm i fynd i mewn i Manor Drive ac adnewyddu goleuadau o dan y Ddeddf Iechyd Cyhoeddus, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

I fynd i'r afael ag isadeiledd goleuadau stryd sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes yn Manor Drive, Glyn-nedd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

6.

Gosod Colofn Oleuo newydd yng nghanol tref Castell Nedd pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd pe na bai'r goleuadau'n cael eu hadnewyddu byddai angen rhoi colofnau a chyflenwadau pŵer ar wahân ar waith, felly byddai angen y mesurau a amlygwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, rhoddir cymeradwyaeth i waith newid colofnau goleuadau stryd yng Nghanol Tref Castell-nedd gael ei ariannu gan arbedion untro o £60 mil yn y gyllideb ynni goleuadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith parhaus o ariannu gwaith newid lampau ynni isel SALIX, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

I fynd i'r afael ag isadeiledd sy'n heneiddio ac anghenion cymunedol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

7.

Isadeiledd Gwefru Trydan ar gyfer Cerbydau'r Cerbydlu pdf eicon PDF 727 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.   Cymeradwyo datblygu pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan (CT) a Phaneli Solar Ffotofoltäig yn y Ceiau i gefnogi cynllun trawsnewid cerbydlu CT y cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.   Rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno cais am arian grant i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (GYLlC) a'r Swyddfa Cerbydau Heb Allyriadau (SCHA) i ariannu'r prosiect yn rhannol ac i awdurdodi benthyca £516 mil dros 25 mlynedd i ariannu'r prosiect.

 

3.   Cymeradwyo'r gwaith o ddatblygu polisi gwefru CT er mwyn i staff ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Bydd y cynnig hwn yn cefnogi agenda datgarboneiddio'r cyngor ac yn rhan o'r camau gweithredu yn strategaeth DARE. Bydd hefyd yn cefnogi'r bwriad o drawsnewid cerbydlu'r cyngor i gerbydau heb allyriadau, yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn Nogfen Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru yn 2019, Cynnig Cymru Carbon Isel 4.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

8.

Cynllun Trosglwyddo i Gerbydlu heb unrhyw Allyriadau pdf eicon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.   Cymeradwyo’r Cynllun Trawsnewid y Cerbydlu, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.   Cymeradwyo cyflwyno'r Cynllun Trawsnewid y Cerbydlu i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad priodol (22 Hydref 2021) yn unol â'r gofynion a nodir yn Nogfen Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru 2019, Cymru Carbon Isel.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Bydd Cynllun Trawsnewid y Cerbydlu'n darparu amserlen ddiffiniol o bryd y bydd cerbydau'n cael eu hadnewyddu a'r hyn fydd yn eu lle.  Mae'r Cynllun Trawsnewid yn offeryn Rheoli a fydd yn helpu’r cyngor i gyllidebu ar gyfer y costau uwch a fydd yn cael eu cronni gyda CT a nodi unrhyw arbedion a all godi wrth drawsnewid.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

9.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 395 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoddir cymeradwyaeth i ddiwygio’r Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy fel a ganlyn:

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

R C Cutting & Co. T/A Cuttings (C073)

Categori - 66

RTS Tree Specialist Ltd (R041)

Categorïau - 2, 84, 101, 102

DTS Tree Services Ltd (D043)

Categori - 101

Maxim Systems Ltd T/A Maxim Play (M052)

Categorïau – 104, 111

John F Hunt Power Ltd (J020)

Categori - 2

Twinfix Ltd (T036)

Categorïau – 110, 111

 

Bydd y cwmni'n ychwanegu categorïau ychwanegol at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

                                                                                     

RDM Electrical Services Limited T/A RDM Electrical and Mechanical Services (R015)

Categorïau – 39, 40, 57, 59

 

 

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.  Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

10.

Cynnig Llywodraeth Cymru i roi Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya ar waith ar draws Cymru pdf eicon PDF 333 KB

Cofnodion:

Nodwyd y byddai swyddogion yn ceisio cyflwyno ymgynghoriad y cyngor i Lywodraeth Cymru yn dilyn Seminar i'r Holl Aelodau a fyddai'n cael ei gynnal ar 27 Medi 2021.

 

Holodd yr aelodau pa mor ymarferol oedd cyfyngu traffig i 20mya a pha mor boblogaidd oedd hyn gyda'r cyhoedd, eglurodd swyddogion eu bod yn deall ac yn rhannu pryderon yr aelodau ac y byddent yn gweithio'n agos gydag aelodau'r ward a'n tîm cyfathrebu mewnol i weithio gyda chymunedau unigol wrth i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya fynd rhagddo.  

 

Amlygwyd, gan gyfeirio at adborth gan y gymuned yng Nghil-ffriw a ddefnyddiwyd fel cynllun peilot, fod y gymuned yn gefnogol o'r peilot i raddau helaeth, er y nodwyd bod y cyhoedd yn hapus yn y lleoliad pengaead, ond byddai swyddogion yn cyfarfod ag aelodau unigol o'r ward o ran y prif lwybrau prifwythiennol ar draws y fwrdeistref sirol wrth symud ymlaen. 

 

Esboniodd swyddogion y byddent yn gweithio'n agos gydag aelodau'r ward cyn cyflwyno cynllun i Lywodraeth Cymru. 

 

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

11.

Troedffordd/cyswllt llwybr beicio ag Eglwys Nunnydd a Pharc Dewi Sant, Margam pdf eicon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ynglŷn â'r ymholiad ar dudalen 211 a 212 o'r adroddiad a ddosbarthwyd o ran cyflymder, esboniodd swyddogion y cadarnhawyd y dylai nodi 'gostyngiad yn y terfyn cyflymder cenedlaethol ar hyd llwybr yr A48 o 60mya i 40mya'.

 

Diolchodd yr aelod lleol dros Ward Margam i’r swyddogion am eu gwaith caled.

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig:

 

1.      Rhoi cymeradwyaeth i adeiladu llwybr troed/llwybr beicio a rennir i wasanaethu trigolion Eglwys Nunnydd a Pharc Dewi Sant, Margam.

2.      Cymeradwyo dyrannu’r £550 mil o’r rhaglen Gwella Priffyrdd i'r cynllun hwn, o raglen gyfalaf bresennol y cyngor, a broffiliwyd dros ddwy flynedd ariannol olynol 2021/2022 a 2022/2023 i hwyluso'r gwaith o gyflawni'r cynllun yn raddol.

3.        Rhoi pwerau dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio i ymrwymo i gytundebau â pherchnogion tir i sicrhau tir i hwyluso'r gwaith o adeiladu'r llwybr troed/llwybr beicio.

4.        Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan Wasanaethau Gofal Strydoedd y cyngor dros y cyfnod o ddwy flynedd.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Darparu llwybr cerdded a beicio diogel i drigolion Eglwys Nunnydd a Pharc Dewi Sant a'r gymuned ehangach er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

12.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Y Glais i Bontardawe pdf eicon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 40 mya ar yr A4067 Y Glais i Bontardawe (ffin Cyngor Castell-nedd Port Talbot i Bontardawe), fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau, rhoi’r cynigion ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Helpu i leihau cyflymder traffig er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

13.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Cil-ffriw pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd bod hyn yn rhan o gynllun peilot 20mya Cil-ffriw.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r effaith integredig dylid diystyru'r gwrthwynebiadau i Orchymyn Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 20 mya ym Mhentref Cil-ffriw, Castell-nedd (Strydoedd Amrywiol, Cil-ffriw) (Dirymiad) a (Terfynau Cyflymder 20 mya) 2021, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a'u rhoi ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am y penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

I helpu i leihau cyflymder traffig er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

14.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Heol Cimla, Castell-nedd pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu'r gorchymyn rheoleiddio traffig Lle Parcio i Bobl Anabl Unigol yn Rhif 135 Ffordd Cimla, Castell-nedd SA11 3UE, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau, rhoi'r cynigion ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Caniatáu i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnal ei annibyniaeth a'i ansawdd bywyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

15.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Blaengwrach pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu Ffordd Gadwyn arfaethedig, Blaengwrach, Glyn-nedd – Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg 2021, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau, rhoi'r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

16.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Castell-nedd pdf eicon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu yn Ffordd Abaty Castell-nedd a Ffordd yr Hen Gaer, Castell-nedd – Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg 2021, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau rhoi’r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

I atal parcio diwahaniaeth a helpu llif y traffig er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

17.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Bryncoch pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu ar y Brif Ffordd, Margaret Street, Bryncoch - Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoi’r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

18.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Y Glannau, Castell-nedd pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu yn Riverside (Bythynnod Brickyard), Castell-nedd - gorchymyn rheoleiddio traffig Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg a'r gorchymyn rheoleiddio traffig Llwytho Nwyddau yn Unig Arfaethedig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau, rhoi’r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth a chaniatáu Llwytho Nwyddau yn unig er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

19.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Yr Allt-wen pdf eicon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, caiff y gwrthwynebiad ynghylch (Gwyn Street a Heol Phillip, Allt-wen, Pontardawe) (Gwahardd Aros ar Unrhyw adeg) 2021 ei wrthod, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a chaiff y cynllun ei roi ar waith fel yr hysbysebwyd, a bydd y gwrthwynebydd yn cael gwybod am y penderfyniad.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Bydd y cynllun arfaethedig yn atal parcio diwahaniaeth ac yn helpu gyda llif traffig er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

20.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Port Talbot pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu gorchymyn arfaethedig ym Mhen y Cae a Gwar y Caeau, Port Talbot – Gorchymyn Dim Aros ar Unrhyw Adeg Arfaethedig 2021, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

21.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Tonna pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu'r Mesurau Tawelu Traffig yn ardal Tonna, terfynau cyflymder arfaethedig 20 mya ar y B4434 Dulais Fach Road, Station Road, Glan yr Afon, Taibanc a Brunel Close, Gorchymyn rheoleiddio traffig Tonna a'r B4434 Dulais Fach Road, Tonna – Gorchymyn rheoleiddio traffig clustogau arafu arfaethedig fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Helpu i leihau cyflymder traffig er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

22.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Yr A483 (Fabian Way) pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu - Diwygiadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder ar yr A483 Fabian Way, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoi’r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Bydd y cynllun yn helpu i leihau cyflymder traffig er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

23.

Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg: Tonna pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, caiff y gwrthwynebiadau eu cadarnhau i Orchymyn arfaethedig (Henfaes Road a Park Street, Tonna) (Gwahardd Aros ar Unrhyw adeg) 2021, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a chaiff y cynllun ei dynnu'n ôl a bydd y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am y penderfyniad.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o gefnogaeth ar gyfer y cynllun gyda'r rhan fwyaf o'r rhai a ymatebodd yn gwrthwynebu'r cynigion.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

24.

Blaenraglen Waith 2021-2022 pdf eicon PDF 190 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.