Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd
penodi'r Cynghorydd M Harvey yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 82 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 2 Gorffennaf 2021. |
|||||||||||||||||
Ailddyrannu Arian Cyfalaf Priffyrdd a ryddhawyd drwy Arian Grant 2020/21 PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod yr eitemau
yn yr adroddiad yn faterion diogelwch â blaenoriaeth. Penderfyniad: Ar
ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig penderfynwyd y
dylid rhoi cymeradwyaeth i waith ychwanegol gael ei wneud fel rhan o Raglen
Waith 2021/2022, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Cynnal
asedau y mae'r cyngor yn gyfrifol amdanynt a mynd i'r afael â phryderon y
gymuned mewn perthynas â'r un peth. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Adnewyddu'r goleuadau yn Rhodfa'r Faenor, Glyn-nedd PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith yr ymdriniwyd â
nifer o'r rhain eisoes fel rhan o raglen fuddsoddi'r cyngor, a’u bod yn
defnyddio'r un broses a gynhaliwyd dan y brif raglen adnewyddu. Penderfyniad: Ar
ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr asesiad effaith integredig, rhoddir
cymeradwyaeth i swyddogion ofyn am ganiatâd a chytundeb ffurfiol gan Ystâd
Aberpergwm i fynd i mewn i Manor Drive ac adnewyddu goleuadau o dan y Ddeddf
Iechyd Cyhoeddus, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: I
fynd i'r afael ag isadeiledd goleuadau stryd sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes
yn Manor Drive, Glyn-nedd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gosod Colofn Oleuo newydd yng nghanol tref Castell Nedd PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd pe na bai'r goleuadau'n cael eu hadnewyddu byddai angen rhoi
colofnau a chyflenwadau pŵer ar wahân ar waith, felly byddai angen y
mesurau a amlygwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, rhoddir
cymeradwyaeth i waith newid colofnau goleuadau stryd yng Nghanol Tref
Castell-nedd gael ei ariannu gan arbedion untro o £60 mil yn y gyllideb ynni
goleuadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith parhaus o ariannu gwaith newid lampau
ynni isel SALIX, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: I
fynd i'r afael ag isadeiledd sy'n heneiddio ac anghenion cymunedol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Isadeiledd Gwefru Trydan ar gyfer Cerbydau'r Cerbydlu PDF 727 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: 1. Cymeradwyo datblygu pwyntiau
gwefru Cerbydau Trydan (CT) a Phaneli Solar Ffotofoltäig yn y Ceiau i gefnogi
cynllun trawsnewid cerbydlu CT y cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. 2. Rhoi cymeradwyaeth i
gyflwyno cais am arian grant i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (GYLlC) a'r
Swyddfa Cerbydau Heb Allyriadau (SCHA) i ariannu'r prosiect yn rhannol ac i
awdurdodi benthyca £516 mil dros 25 mlynedd i ariannu'r prosiect. 3.
Cymeradwyo'r gwaith o ddatblygu polisi gwefru CT er mwyn
i staff ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Rheswm dros y penderfyniadau: Bydd
y cynnig hwn yn cefnogi agenda datgarboneiddio'r cyngor ac yn rhan o'r camau
gweithredu yn strategaeth DARE. Bydd hefyd yn cefnogi'r bwriad o drawsnewid
cerbydlu'r cyngor i gerbydau heb allyriadau, yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth
Cymru, fel y nodir yn Nogfen Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru yn 2019, Cynnig
Cymru Carbon Isel 4. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn. |
|||||||||||||||||
Cynllun Trosglwyddo i Gerbydlu heb unrhyw Allyriadau PDF 272 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw
dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: 1.
Cymeradwyo’r
Cynllun Trawsnewid y Cerbydlu, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. 2.
Cymeradwyo
cyflwyno'r Cynllun Trawsnewid y Cerbydlu i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru
erbyn y dyddiad priodol (22 Hydref 2021) yn unol â'r gofynion a nodir yn Nogfen
Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru 2019, Cymru Carbon Isel. Rheswm dros y penderfyniadau: Bydd
Cynllun Trawsnewid y Cerbydlu'n darparu amserlen ddiffiniol o bryd y bydd
cerbydau'n cael eu hadnewyddu a'r hyn fydd yn eu lle. Mae'r Cynllun Trawsnewid yn offeryn Rheoli a
fydd yn helpu’r cyngor i gyllidebu ar gyfer y costau uwch a fydd yn cael eu
cronni gyda CT a nodi unrhyw arbedion a all godi wrth drawsnewid. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn. |
|||||||||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 395 KB Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, rhoddir cymeradwyaeth i ddiwygio’r Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy
fel a ganlyn: Cwmnïau
i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:
Rheswm dros y penderfyniadau: Sicrhau
bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau
proses gaffael gystadleuol. Caiff yr
argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy
ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o
dridiau. |
|||||||||||||||||
Cynnig Llywodraeth Cymru i roi Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya ar waith ar draws Cymru PDF 333 KB Cofnodion: Nodwyd y byddai swyddogion yn ceisio cyflwyno
ymgynghoriad y cyngor i Lywodraeth Cymru yn dilyn Seminar i'r Holl Aelodau a
fyddai'n cael ei gynnal ar 27 Medi 2021. Holodd yr aelodau pa mor ymarferol oedd cyfyngu
traffig i 20mya a pha mor boblogaidd oedd hyn gyda'r cyhoedd, eglurodd
swyddogion eu bod yn deall ac yn rhannu pryderon yr aelodau ac y byddent yn gweithio'n
agos gydag aelodau'r ward a'n tîm cyfathrebu mewnol i weithio gyda chymunedau
unigol wrth i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya fynd rhagddo. Amlygwyd, gan gyfeirio at adborth gan y gymuned yng
Nghil-ffriw a ddefnyddiwyd fel cynllun peilot, fod y gymuned yn gefnogol o'r
peilot i raddau helaeth, er y nodwyd bod y cyhoedd yn hapus yn y lleoliad
pengaead, ond byddai swyddogion yn cyfarfod ag aelodau unigol o'r ward o ran y
prif lwybrau prifwythiennol ar draws y fwrdeistref sirol wrth symud ymlaen.
Esboniodd swyddogion y byddent yn gweithio'n agos
gydag aelodau'r ward cyn cyflwyno cynllun i Lywodraeth Cymru. Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|||||||||||||||||
Troedffordd/cyswllt llwybr beicio ag Eglwys Nunnydd a Pharc Dewi Sant, Margam PDF 280 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ynglŷn â'r ymholiad ar dudalen 211 a 212 o'r
adroddiad a ddosbarthwyd o ran cyflymder, esboniodd swyddogion y cadarnhawyd y
dylai nodi 'gostyngiad yn y terfyn cyflymder cenedlaethol ar hyd llwybr yr
A48 o 60mya i 40mya'. Diolchodd
yr aelod lleol dros Ward Margam i’r swyddogion am eu gwaith caled. Penderfyniadau: Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig: 1. Rhoi
cymeradwyaeth i adeiladu llwybr troed/llwybr beicio a rennir i wasanaethu
trigolion Eglwys Nunnydd a Pharc Dewi Sant, Margam. 2. Cymeradwyo
dyrannu’r £550 mil o’r rhaglen Gwella Priffyrdd i'r cynllun hwn, o raglen
gyfalaf bresennol y cyngor, a broffiliwyd dros ddwy flynedd ariannol olynol
2021/2022 a 2022/2023 i hwyluso'r gwaith o gyflawni'r cynllun yn raddol. 3. Rhoi
pwerau dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio i ymrwymo i
gytundebau â pherchnogion tir i sicrhau tir i hwyluso'r gwaith o adeiladu'r
llwybr troed/llwybr beicio. 4. Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud
gan Wasanaethau Gofal Strydoedd y cyngor dros y cyfnod o ddwy flynedd. Rheswm dros y penderfyniadau: Darparu
llwybr cerdded a beicio diogel i drigolion Eglwys Nunnydd a Pharc Dewi Sant a'r
gymuned ehangach er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Y Glais i Bontardawe PDF 207 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth
i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 40 mya ar yr A4067
Y Glais i Bontardawe (ffin Cyngor Castell-nedd Port Talbot i Bontardawe), fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau,
rhoi’r cynigion ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Helpu i leihau cyflymder traffig er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Cil-ffriw PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd bod hyn yn rhan o gynllun peilot 20mya Cil-ffriw. Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r effaith integredig dylid diystyru'r
gwrthwynebiadau i Orchymyn Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 20 mya ym
Mhentref Cil-ffriw, Castell-nedd (Strydoedd Amrywiol, Cil-ffriw) (Dirymiad) a
(Terfynau Cyflymder 20 mya) 2021, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd
a'u rhoi ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd a bod y gwrthwynebwyr yn cael
gwybod am y penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y penderfyniad: I helpu i leihau cyflymder traffig er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Heol Cimla, Castell-nedd PDF 206 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth
i hysbysebu'r gorchymyn rheoleiddio traffig Lle Parcio i Bobl Anabl Unigol yn
Rhif 135 Ffordd Cimla, Castell-nedd SA11 3UE, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau, rhoi'r cynigion ar waith ar y
safle fel yr hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Caniatáu
i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnal ei annibyniaeth a'i ansawdd bywyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Blaengwrach PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth
i hysbysebu Ffordd Gadwyn arfaethedig, Blaengwrach, Glyn-nedd – Gwaharddiad
Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg 2021, fel y nodir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau, rhoi'r
cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Atal
parcio diwahaniaeth er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Castell-nedd PDF 207 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth
i hysbysebu yn Ffordd Abaty Castell-nedd a Ffordd yr Hen Gaer, Castell-nedd –
Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg 2021,
fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau
rhoi’r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: I atal parcio diwahaniaeth a helpu llif y traffig er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Bryncoch PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth
i hysbysebu ar y Brif Ffordd, Margaret Street, Bryncoch - Gwaharddiad
Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg, fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoi’r
cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Atal parcio diwahaniaeth er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Y Glannau, Castell-nedd PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth
i hysbysebu yn Riverside (Bythynnod Brickyard), Castell-nedd - gorchymyn
rheoleiddio traffig Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar
Unrhyw adeg a'r gorchymyn rheoleiddio traffig Llwytho Nwyddau yn Unig
Arfaethedig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir
gwrthwynebiadau, rhoi’r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Atal
parcio diwahaniaeth a chaniatáu Llwytho Nwyddau yn unig er budd diogelwch
ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Yr Allt-wen PDF 207 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, caiff y
gwrthwynebiad ynghylch (Gwyn Street a Heol Phillip, Allt-wen, Pontardawe)
(Gwahardd Aros ar Unrhyw adeg) 2021 ei wrthod, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd a chaiff y cynllun ei roi ar waith fel yr hysbysebwyd, a bydd y
gwrthwynebydd yn cael gwybod am y penderfyniad. Rheswm dros y penderfyniad: Bydd y cynllun arfaethedig yn atal parcio diwahaniaeth ac yn helpu gyda
llif traffig er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Port Talbot PDF 206 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth
i hysbysebu gorchymyn arfaethedig ym Mhen y Cae a Gwar y Caeau, Port Talbot –
Gorchymyn Dim Aros ar Unrhyw Adeg Arfaethedig 2021, fel y nodir yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r cynigion ar
waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Atal
parcio diwahaniaeth er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Tonna PDF 208 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth i
hysbysebu'r Mesurau Tawelu Traffig yn ardal Tonna, terfynau cyflymder
arfaethedig 20 mya ar y B4434 Dulais Fach Road, Station Road, Glan yr Afon,
Taibanc a Brunel Close, Gorchymyn rheoleiddio traffig Tonna a'r B4434 Dulais
Fach Road, Tonna – Gorchymyn rheoleiddio traffig clustogau arafu arfaethedig
fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Helpu
i leihau cyflymder traffig er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Yr A483 (Fabian Way) PDF 206 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi cymeradwyaeth
i hysbysebu - Diwygiadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder ar yr A483 Fabian
Way, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau, rhoi’r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Bydd
y cynllun yn helpu i leihau cyflymder traffig er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg: Tonna PDF 210 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, caiff y
gwrthwynebiadau eu cadarnhau i Orchymyn arfaethedig (Henfaes Road a Park
Street, Tonna) (Gwahardd Aros ar Unrhyw adeg) 2021, fel y nodir yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd a chaiff y cynllun ei dynnu'n ôl a bydd y gwrthwynebwyr yn cael
gwybod am y penderfyniad. Rheswm dros y penderfyniad: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o gefnogaeth ar gyfer y cynllun gyda'r rhan
fwyaf o'r rhai a ymatebodd yn gwrthwynebu'r cynigion. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 190 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |