Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd M Harvey yn
Gadeirydd y cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 65 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cofnodion
cyfarfod 21 Mai, 2021. |
|
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 127 KB Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, caiff y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ei diwygio fel a
ganlyn: Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy: Wales Environmental (W040) - Categorïau 76, 94, 95 Chillwise Services Ltd (C072) - Categorïau 55, 56 Phoenix Asbestos Recovery Ltd (P052) - Categori 31 Guardwatch Security UK Ltd (G035) - Categori 3 Cwmni i'w ychwanegu at gategori ychwanegol ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy: Neath Construction (N011) - Categorïau 37, 38, 39, 40, 55, 56, 57,
58, 59 Cwmni i'w dynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
(B032) - Categorïau 12, 23, 72, 84, 88, 89, 96, 102 Rheswm dros y penderfyniadau: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol. Rhoi Penderfyniadau ar
Waith: Caiff y penderfyniadau eu
rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Cyllid Cyfalaf Strydlun 2021/22 PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig, cymeradwyir dyraniadau cyllid arian Gwelliannau
i'r Strydlun a'r Amgylchedd a gynhwyswyd yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer
2021/2022, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Penderfynu ar gynigion gwario mewn perthynas ag
arian 'Gwella'r Strydlun a'r Amgylchedd' sydd wedi'i gynnwys yn y gyllideb
gyfalaf. Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 38 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol
yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn
debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
12, 13 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Gwelliannau i Gyffordd Castell-nedd (wedi'i eithrio o dan baragraffau 12, 14 a 15) Cofnodion: Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddent yn
ystyried pryderon yr aelodau. Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, rhoddir cymeradwyaeth i swyddogion gychwyn trafodaethau a chyflwyno
cais am gyllid, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Bydd datblygu'r cynnig ymhellach yn helpu i
leihau tagfeydd, yn helpu ansawdd aer yn yr ardal ac yn
rhyddhau tir datblygu yng Nghimla sydd ar hyn o bryd yn cael ei atal gan
broblemau sy'n ymwneud â niferoedd cerbydau yn y gyffordd hon. Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y penderfyniad ei roi
ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif
2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r materion a
gynhwysir yng nghofnod Rhif 10 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi hyn yng
nghyfarfod heddiw fel eitem frys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290
(fel y'i diwygiwyd). Rheswm: Oherwydd yr elfen amser. |
|
Cynnig i Adnewyddu Trwydded Dros Dro i'r Ysgrifennydd Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar gyfer Canolfan Brofi Coronafeirws Galw Heibio Leol ym Maes Parcio Milland Road, Castell-nedd. Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig cymeradwyir yr amodau a'r telerau ar gyfer
caniatáu adnewyddu'r drwydded dros dro fel y'i nodir yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd, a rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i
ymrwymo i adnewyddu'r cytundeb trwydded dros dro ar gyfer meddiannu Maes Parcio
Milland Road, Castell-nedd yn rhannol gan yr Ysgrifennydd Cymunedau Tai, Cymunedau
a Llywodraeth Leol. Rheswm dros y penderfyniad: Bydd caniatáu adnewyddu'r drwydded dros dro yn
galluogi'r GIG i gynnal Profion Coronafeirws Lleol ar breswylwyr yn y
Fwrdeistref Sirol. Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y penderfyniad ei roi
ar waith ar unwaith. |