Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor o newid i'r adroddiad canlynol ar Agenda Bwrdd y Cabinet:

 

·       Eitem 7 ar yr Agenda - Cynnig i ehangu’r gwasanaeth presennol a ddarperir gan y Tîm Cyswllt Camddefnyddio Sylweddau Cychwynnol (PSALT)

 

Yn dilyn y diweddariad, roedd yr Aelodau'n hapus gyda'r newidiadau, felly dewiswyd peidio â chraffu ar yr adroddiad.

 

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 116 KB

·        4 Rhagfyr 2020

·        23 Rhagfyr 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd canlynol:

·     4 Rhagfyr 2020

·     23 Rhagfyr 2020

 

3.

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Dwristiaeth pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith COVID-19 ar y sector Twristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a gweithgareddau Tîm Twristiaeth y Cyngor sydd ar ddod.

Tynnodd swyddogion sylw at yr effaith negyddol sylweddol y cafodd cychwyniad y pandemig ar y sector Twristiaeth; roedd yr adroddiad yn manylu ar ffigurau a ddangosodd ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr (63.5%) a gostyngiad yn yr economi (66.4%). Nodwyd nad oedd y data'n cynrychioli 12 mis llawn 2020, a bydd cyfyngiadau symud pellach a gyhoeddwyd tua diwedd y flwyddyn yn effeithio ymhellach ar y data hwn.

Wrth symud ymlaen, nodwyd mai un prif ffocws fyddai edrych ar sut y gellid helpu'r sector Twristiaeth er mwyn iddo adfer o COVID-19; dros y 12 mis diwethaf roedd swyddogion wedi cadw mewn cysylltiad â'r darparwyr twristiaeth.

Hysbyswyd yr Aelodau fod y Tîm Twristiaeth wedi gweithio ochr yn ochr â'r Timau Busnes i gefnogi pob busnes ar draws y sector i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar yr holl gymorth ariannol a oedd ar gael gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac unrhyw gymorth grant arall. Nodwyd bod y broses cymeradwyo llety gweithwyr allweddol hefyd wedi'i rheoli gan y Tîm Twristiaeth, wrth weithio mewn partneriaeth â Thîm Iechyd yr Amgylchedd, gan ei bod yn ofynnol i bob llety i ymwelwyr gau yn unol â'r cyfyngiadau symud amrywiol; roedd y broses gymeradwyo'n caniatáu mynediad i'r rheini yr oedd ganddynt reswm dilys dros fod yn yr ardal, y rheini a oedd yn weithwyr allweddol a'r rheini yr oedd angen llety arnynt mewn argyfwng. 

Soniwyd bod swyddogion, drwy gydol y pandemig, wedi cydweithio llawer â phartneriaid yn y sector cyhoeddus, yn enwedig gyda Croeso Cymru, a bod cyswllt wedi bod â sefydliadau gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i sicrhau bod ardaloedd, fel y sgydau, yn cael eu rheoli yn y ffordd orau bosib; roedd y cyfarfodydd a'r cyfathrebiadau hyn yn parhau.

Darparodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am rai o brosiectau cyfredol y sectorau Twristiaeth, a oedd yn cynnwys:

·     Hwb Cwm Nedd ym Maes Parcio Camlas Resolfen - roedd y gwaith i adnewyddu hen gyfleuster bloc toiledau yn Resolfen bellach wedi'i gwblhau a byddai'r deiliad newydd yn symud yno cyn bo hir;

·     Parc Rhanbarthol y Cymoedd Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan – roedd y cyngor wedi derbyn cyllid i wneud amrywiaeth o waith gan gynnwys uwchraddio rhai cyfleusterau presennol o amgylch y toiledau a'r cawodydd, ychwanegu ardal barcio ychwanegol, darparu mannau cysylltu trydan ar gyfer faniau gwersylla, creu pwynt gwybodaeth ddigidol i ymwelwyr, gosod goleuadau ychwanegol ac adeiladu ardal chwarae i blant;

·     Prif Gynllun Parc y Gnoll – roedd y cynllun datblygu wedi'i gwblhau, ac fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd bydd y Tîm Twristiaeth nawr yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr ym Mharc Gwledig y Gnoll i gyflawni'r cynigion;

·     Marchnata Cyrchfannau – byddai'r ymgyrch hon,  i lansio brand lle newydd Castell-nedd Port Talbot, yn ddarn allweddol o waith. Soniwyd bod y dyddiad lansio wedi'i ohirio oherwydd y pandemig;

·     Arall – roedd arwyddion wedi'u dosbarthu ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllideb 2021/22 pdf eicon PDF 259 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd trosolwg o gynigion cyllideb drafft Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd ac Eiddo ac Adfywio 2021/2022, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd unrhyw doriadau arfaethedig mewn cyllidebau ar gyfer yr adrannau Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd ac Eiddo ac Adfywio yn 2021/22.

Nododd yr adroddiad fod pwysau cyllidebol o £30k ar Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd; Rhoddodd swyddogion fanylion am y pwysau penodol a oedd yn cynnwys:

·     Gwasanaeth Rheoli Nawdd Asedau – roedd y cynllun hwn wedi bod ar waith ers peth amser ac wedi rhoi cyfle i gwmnïau lleol noddi asedau'r cyngor a hyrwyddo’u busnesau. Rhagwelwyd yr effeithir yn sylweddol ar yr incwm a gynhyrchir o'r gwasanaeth o ystyried effaith ariannol y pandemig ar fusnesau a'u gallu i noddi asedau; roedd y pwysau o £15k a nodwyd ar gyfer 2021/22 yn adlewyrchu'r bwlch disgwyliedig mewn cynhyrchu incwm islaw'r trothwy targed;

·     Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) – roedd Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu ymrwymiadau a blaenoriaethau ariannu, ac o ganlyniad i hyn nid oedd y tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt wedi cael cadarnhad eto a oeddent wedi llwyddo o ran dyfarniad grant sylweddol sy'n gysylltiedig â Phrosiect 'Cysylltu Isadeiledd Gwyrdd' De-orllewin Cymru.   Cyfanswm y cais grant cychwynnol oedd cyllideb o £2.42 miliwn dros 3 blynedd, ac roedd £981k ohono'n wariant uniongyrchol i'r cyngor. Roedd llawer o'r prosiectau a gyflwynwyd a'r staff yn dibynnu ar gyllid grant yn gyffredinol; roedd y pwysau o £15k a nodwyd yn 2021/22 yn adlewyrchu'r costau staff sefydlog i'w hariannu drwy'r Grant ENRaW heb ei gadarnhau;

·     Cynllun Datblygu Lleol – ni nodwyd pwysau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf o ran y CDLl, yn bennaf oherwydd yr oedi wrth gychwyn proses y CDLl yn ffurfiol, felly ar hyn o bryd roedd digon o arian yng nghronfa wrth gefn y CDLl i dalu'r gwariant rhagamcanol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, nodwyd pwysau o £100k yn 2022/23, a oedd ar gyfer yr ymrwymiad parhaus i dalu costau paratoi'r CDLl.

 

Tynnwyd sylw at y risgiau canlynol i'w cario ymlaen ar gyfer yr is-adran Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd (nid oedd y risgiau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y pwysau ar hyn o bryd):  

·     Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (POD) a Gweithlu Swyddogion Gorfodi COVID – y sefyllfa bresennol oedd bod y gweithlu POD wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru tan 31 Mawrth 2021, a'i ariannu'n rhannol ar gyfer chwarter cyntaf 2021/22. Nodwyd mai dim ond tan 31 Mawrth 2021 yr oedd y Gweithlu Gorfodi COVID yn ei ariannu'n llawn; ariannwyd y gweithlu hwn ar hyn o bryd drwy'r Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol, ac roedd swyddogion wedi derbyn cadarnhad na fyddai'r ffrwd ariannu benodol hon yn cael ei hestyn i 2021/22. Roedd swyddogion yn trafod â Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd er mwyn cadarnhau eu disgwyliadau o'r Gwasanaeth POD a'r Gweithlu Gorfodi COVID wrth fynd ymlaen i'r flwyddyn nesaf;

·     Ôl-groniad o waith 'Busnes fel Arfer' Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach – roedd swyddogion ar draws y gwasanaeth wedi'u  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.