Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy - Dydd Gwener, 22ain Hydref, 2021 10.00 am

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Hysbyswyd y pwyllgor am gamgymeriad yn yr adroddiad canlynol ar Agenda Bwrdd y Cabinet:

 

·       Eitem 8 ar yr Agenda – Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 – Chwarter 1 (1 Ebrill 2021 – 30 Mehefin 2021)

 

Nodwyd y dylai teitl yr adroddiad ddarllen 'Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2020/2021 – Chwarter 1 (1 Ebrill 2021 – 30 Mehefin 2021)'

Yn dilyn y diweddariad, nododd yr aelodau'r camgymeriad.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fuddiant:

 

Y Cyng. S Rahaman - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet – Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei fod yn berchen ar fusnes lleol o fewn y Fwrdeistref Sirol a gafodd gymorth grant.

 

Y Cyng. S Pursey - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei fod yn Ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Tai-bach sydd wedi derbyn cymorth grant.

 

Y Cyng. S Knoyle - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan mai ef yw Cyfarwyddwr Clwb Rygbi Glyn-nedd ac mae ganddo hefyd fusnes lleol o fewn y Fwrdeistref Sirol sydd wedi derbyn cymorth grant.

 

Y Cyng. R. Taylor - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei bod yn Ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Tai-bach sydd wedi derbyn cymorth grant.

 

Y Cyng. D Cawsey - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei fod yn Ymddiriedolwr ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer elusennau a sefydliadau amrywiol a dderbyniodd gymorth grant.

 

Y Cyng. S Hunt - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei fod yn Gadeirydd ac yn aelod o elusennau a sefydliadau amrywiol a dderbyniodd gymorth grant.

 

Y Cyng. F. James - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r Presennol, gan ei fod yn Gadeirydd Awdurdod Porthladd Castell-nedd a gafodd gymorth grant.

 

Y Cyng. M. Hunt - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei fod yn berchen ar fusnes lleol o fewn y Fwrdeistref Sirol a gafodd gymorth grant.

 

Y Cyng. C Jones - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei fod yn swyddog yng Nghlwb Rygbi'r Allt-wen ac yn berchen ar fusnes lleol o fewn y Fwrdeistref Sirol a gafodd gymorth grant.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 161 KB

·        30 Gorffennaf 2021

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf, 2021.

 

4.

Adroddiad am Fuddion Cymunedol pdf eicon PDF 347 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd adroddiad i'r aelodau ar allbynnau a chanlyniadau cyflwyno budd i'r gymuned drwy gyfnod adeiladu Ysgol Gyfun Cefn Saeson.

Dywedwyd bod holl brosiectau adeiladu'r cyngor wedi'u cysylltu â Fframwaith Rhanbarthol Contractwyr De Cymru; a bod gan bob un ohonynt fudd i'r gymuned cytundebol o fewn y prosiectau adeiladu. Soniwyd eu bod yn seiliedig ar recriwtio a hyfforddiant wedi'u targedu; er enghraifft derbyn pobl ddi-waith leol, darparu cyfleoedd profiad gwaith, derbyn prentisiaethau lleol gan ddefnyddio'r gadwyn gyflenwi leol a chefnogi mentrau cymunedol.

Esboniodd swyddogion eu bod wedi penderfynu defnyddio Ysgol Gyfun Cefn Saeson fel enghraifft gan eu bod, gwaethaf y pandemig, wedi mynd y tu hwnt i'w holl dargedau; ar wahân i'r targed cyfranogiad ysgolion a oedd yn anodd ei gyflawni oherwydd y pandemig. Tynnwyd sylw at y ffaith y gobeithiwyd cyflawni'r targed hwn erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â chynaliadwyedd y prosiectau. Nodwyd bod y cyngor wedi ariannu'r cynllun prentisiaeth a rennir yn rhannol, sydd wedi galluogi cwblhau profiad gwaith a phrentisiaethau a rennir; mae hyn wedi rhoi cyfleoedd i unigolion gael swyddi lleol gan eu bod wedi cael eu uwchsgilio a'u hyfforddi i wneud hynny. Hysbyswyd yr aelodau fod unigolion di-waith hirdymor wedi'u cyflogi drwy'r Prosiect Gweithffyrdd a Chymunedau am Waith; roedd y contractwr hefyd wedi gweithio gyda mentrau cymdeithasol lleol gan gynnwys cangen menter gymdeithasol Cymorth i Fenywod, Thrive, ac wedi rhoi cyfleoedd cyflogaeth iddynt.

Nododd y pwyllgor yr adroddiad.

 

 

5.

Cyflwyniad Cymdeithas Twneli’r Rhondda pdf eicon PDF 9 MB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y byddai Cyflwyniad Cymdeithas Twneli’r Rhondda yn cael ei ohirio i gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol oherwydd amgylchiadau nas rhagwelwyd.

 

6.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Grant Eiddo Masnachol: 23 Maes yr Eglwys, Castell-nedd SA11 3LL

Derbyniodd y pwyllgor adroddiad ynghylch y cynnig i ariannu’n rhannol welliannau'n i ymddangosiad allanol yr eiddo masnachol yn 23 Maes yr Eglwys, Castell-nedd SA11 3LL.

Esboniwyd y byddai'r grant hwn yn gwella cymeriad Maes yr Eglwys ac Ardal Gadwraeth Castell-nedd yn ffisegol, gan fod y rendro presennol mewn cyflwr gwael a bellach yn berygl diogelwch i gerddwyr gan fod y rendro'n malurio ac yn syrthio i'r stryd. Ychwanegodd swyddogion y byddai'r grant yn cael ei ddefnyddio i ailwneud Hen Stryd y Farchnad ac ystlysluniau'r adeilad.

Cyfeiriwyd at feysydd targed y Grant Eiddo Masnachol  yr oedd un ohonynt yn ganolfannau masnachol penodol. Cadarnhawyd y gellid cynnig y grant i ganolfannau masnachol amrywiol ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan; fodd bynnag, roedd yn rhaid iddynt fod mewn man hynod weledol. Hysbyswyd yr aelodau mai bwriad y Grant Eiddo Masnachol oedd gwella'r strydlun, felly'r adeiladau a oedd yn weladwy iawn i'r cyhoedd.

Holodd yr aelodau sut byddai'r adeilad yn edrych ar ôl iddo gael ei orffen, a thynnodd sylw at bwysigrwydd ymddangosiad gweledol Ardal Gadwraeth Castell-nedd. Cadarnhaodd swyddogion y byddant yn cysylltu â chydweithwyr yn y Gwasanaeth Cynllunio i sicrhau bod y gwaith rendro newydd yn cyd-fynd â'r ardal gadwraeth.

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol 

(Y Cyng. S Rahaman, y Cyng. N Hunt, y Cyng. S Knoyle a'r Cyng. Cadarnhaodd y Cynghorydd C Jones ei fudd ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod)

Darparwyd adroddiad diweddaru i'r aelodau ar weithgareddau'r Gwasanaeth Datblygu Economaidd wrth brosesu cymorth ariannol COVID-19 ar gyfer busnesau lleol o fis Mawrth 2020 i fis Awst 2021.

Nodwyd bod Llywodraeth y DU, ym mis Mawrth 2020, wedi cyhoeddi y byddai'r wlad yn dechrau cyfyngiadau symud; yn dilyn hyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddent yn defnyddio system ardrethi annomestig i ddarparu taliadau grant brys i fusnesau ledled Cymru. Cadarnhaodd swyddogion, bryd hynny, i fod yn gymwys i gael cymorth grant, fod angen i fusnesau naill ai fod yn derbyn cymorth ardrethi busnes bach, bod yn gweithredu o fewn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch neu fod yn elusen gofrestredig neu'n glwb chwaraeon cymunedol; i ddechrau roedd y grantiau hyn oddeutu £10k a £25k, ac roedd lefel y cymorth yn dibynnu ar werth ardrethol eu heiddo.

Hysbyswyd yr aelodau iddi ddod i’r amlwg yn gyflym y byddai galw mawr am wasanaethau, o ran rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau lleol i'w helpu i gael gafael ar y cymorth perthnasol; mewn ymateb i hyn, neilltuwyd tri aelod o'r Tîm Datblygu Economaidd yn syth i gefnogi'r Tîm Ardrethi Busnes. Dywedwyd bod hyn wedi galluogi'r Tîm Ardrethi Busnes i ganolbwyntio ar brosesu'r grantiau a darparu taliadau i fusnesau mor effeithlon â phosibl; canolbwyntiodd y Tîm Datblygu Economaidd ar ymdrin â'r holl ymholiadau a oedd yn dod i mewn, a oedd yn eithaf sylweddol ar y pryd. Ychwanegwyd bod y timau,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 220 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22.

 

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 11 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhesymau dros y brys:

Oherwydd yr elfen amser.

 

 

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

10.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Cynnig arfaethedig i gaffael Tir a Garej Ddomestig ar gyffordd yr A48 â Stryd y Dŵr, Margam ar gyfer y cynllun llwybr troed/llwybr beicio arfaethedig sy'n cysylltu Eglwys Nunydd a Pharc Dewi Sant, Margam

Rhoddwyd adroddiad i aelodau ynghylch cynnig arfaethedig i gaffael Tir a Garej Ddomestig ar gyffordd yr A48 â
Stryd y Dŵr, Margam ar gyfer y cynllun llwybr troed/llwybr beicio arfaethedig sy'n cysylltu Eglwys Nunydd a Pharc Dewi Sant, Margam.

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

11.

Cynnig arfaethedig i waredu tir yng Nglannau'r Harbwr i Goleg CNPT ar y cyd â'r cynnig arfaethedig i gaffael tir yn Fabian Way gan Lywodraeth Cymru

Cofnodion:

Rhoddwyd adroddiad i'r aelodau a oedd yn manylu ar y bwriad i werthu tir yng Nglannau'r Harbwr i Goleg CNPT ynghyd â'r bwriad i Gaffael Tir yn Fabian Way gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.