Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Strategaeth Adferiad - i ddilyn PDF 559 KB Cofnodion: Cyflwynwyd strategaeth ddrafft i'r Aelodau ar
sefydlogi, y cyfnod rhwng ymateb ac adferiad, yn dilyn cychwyniad COVID-19.
Roedd y strategaeth yn nodi fframwaith cyffredinol a fyddai'n cefnogi ymagwedd
gyson a chydlynol wrth i'r cyngor symud tuag at adferiad. Nodwyd bod y
strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i bob Pwyllgor Craffu ar gyfer
sylwadau cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ar 30 Gorffennaf 2020 i'w chymeradwyo. Rhoddodd swyddogion drosolwg byr o gynnwys y
strategaeth, gan esbonio'i bod wedi'i rhannu'n dair adran a oedd yn cynnwys
edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod cyfnod ymateb yr argyfwng,
edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb a map ffyrdd o gamau
gweithredu. Wrth edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod
y cyfnod ymateb, tynnwyd sylw at y ffaith y cymerwyd nifer o gamau allweddol
gan gynnwys sefydlu gwasanaeth cyfathrebu saith niwrnod yr wythnos fel y gellid
anfon canllawiau gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus
Cymru at bobl pan oeddent ar gael. Ychwanegwyd bod y cyngor wedi cau
gwasanaethau i helpu i leihau ymlediad y feirws ac wedi newid y ffordd yr oedd
rhai gwasanaethau hanfodol yn gweithredu er mwyn gweithredu'n ddiogel, er
enghraifft y gwasanaeth sbwriel. Soniodd swyddogion fod rhan gyntaf y
strategaeth hefyd yn nodi'r newidiadau a wnaed mewn perthynas ag arweinyddiaeth
a llywodraethu, gan gynnwys defnyddio'r ddarpariaeth Gweithredu Brys a nodir yn
y Cyfansoddiad, i sicrhau bod penderfyniadau allweddol yn dal i gael eu gwneud yn
ystod y cyfnod ymateb. Esboniwyd ail ran y strategaeth i'r Aelodau, sy'n
cynnwys edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb i gyfnod
sefydlogi, sef y cam cyn symud i'r cyfnod adfer. Esboniwyd bod tri maes wedi'u
nodi fel ffocws wrth i'r cyngor symud ymlaen: 1. Y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu 2. Sut mae gwasanaethau a swyddogaethau'r cyngor yn
ymdopi 3. Deall yr effaith y mae'r feirws wedi'i chael ar
ddinasyddion, sefydliadau a busnesau ledled Castell-nedd Port Talbot ac ymateb
iddi. Ychwanegwyd bod yr ail ran hefyd yn nodi'r
newidiadau y mae angen eu gwneud o ran arweinyddiaeth a llywodraethu, yn
ogystal â rhai o'r risgiau a materion a nodwyd y bydd angen eu rheoli wrth i'r
cyngor fynd ati i roi'r strategaeth ar waith. Cyflwynwyd trydedd ran y strategaeth fel map ffyrdd
o gamau gweithredu a oedd wedi'u fframio ar sail system goleuadau traffig, a
oedd yn nodi sut i symud o sefyllfa o gyfyngiadau symud llwyr, drwy'r system
goleuadau traffig, i sefyllfa lle mae gwasanaethau'n gweithredu unwaith eto. Roedd yr Aelodau'n edrych ymlaen at gael yr
wybodaeth ddiweddaraf am fonitro'r strategaeth mewn sesiynau yn y dyfodol.
|
|
Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd - Cynllunio Cyflenwi ac Adfer Gwasanaethau Cyfredol PDF 323 KB Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r sefyllfa
bresennol o ran y gwasanaethau Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a sut roedd y gwasanaethau'n
cael eu darparu'n awr wrth i'r cyngor symud tuag at y cyfnod adfer yn dilyn
argyfwng Coronafeirws. Hysbyswyd yr Aelodau o'r canlynol; - mae'r broses gynllunio wedi parhau i weithredu ac
roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi bod yn cyfarfod o bell. Mae gorfodaeth wedi
parhau ond dim ond ar gyfer achosion pwysig neu frys o dorri amodau. - Mae proses adolygu'r CDLl wedi'i gohirio ond
mae'n parhau - Mae'r gwasanaethau Rheoli Adeiladau wedi parhau - Mae'r adrannau Iechyd yr Amgylchedd a Safonau
Masnach wedi gorfod cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau newydd a bu gofyniad
iddynt flaenoriaethu swyddogaethau. Nododd yr Aelodau y bydd cynllunio a diogelu'r
cyhoedd yn swyddogaeth hanfodol a diolchwyd i'r staff am eu hymroddiad a'u
proffesiynoldeb parhaus a'r ffaith eu bod ar gael i'r aelodau drwy'r amser. Gofynnodd yr Aelodau a oedd swyddogion yn hyderus
fod gan y cyngor ddigon o adnoddau ar waith i roi cyngor a chymorth priodol i
fusnesau mewn perthynas ag ailagor yn unol â chanllawiau COVID-19. Hysbyswyd yr
Aelodau, er ei fod yn her gan fod canllawiau'n newid yn barhaus, fod Grŵp
Gwasanaeth Rheoleiddio a Gorfodi amlasiantaethol yn cwrdd yn wythnosol i
gydlynu a bod busnesau'n cymryd rhan weithredol mewn perthynas â'r negeseuon
a'r cyngor diweddaraf sydd ar gael. Roedd yr Aelodau'n falch o nodi'r ymagwedd
ragweithiol sy'n cael ei defnyddio rhag ofn y bydd ail don yn yr hydref. |
|
Eiddo ac Adfywio - Cynllunio Cyflwyno ac Adfer Gwasanaeth Cyfredol - i ddilyn PDF 85 KB Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r sefyllfa
bresennol o ran gwasanaethau yn y maes Eiddo ac Adfywio a sut roedd y
gwasanaethau hyn yn cael eu darparu wrth i'r cyngor symud tuag at y cyfnod
adfer yn dilyn argyfwng Coronafeirws. Hysbyswyd yr Aelodau o'r canlynol: -
Gwelwyd lefelau isel o salwch
ar draws y gwasanaeth o ganlyniad i staff yn gweithio gartref -
Bu rhai problemau o ran
gweithio gartref oherwydd pecynnau a meddalwedd o'r radd flaenaf. -
Cynnydd yn cael ei wneud mewn
ysgolion (ar y safle) -
Cynnydd yn cael ei wneud mewn
safleoedd allweddol (h.y. y Plaza, canol
tref Castell-nedd, Metal Box.) -
Mae'r Tîm Adfywio a Datblygu
Economaidd yn allweddol i gefnogi busnesau sy'n gweinyddu 6,000 o grantiau
gwerth £31m. -
Mwy o alw am wasanaethau
Gweithffyrdd -
Newidiadau cyflym i ganllawiau
i'w lledaenu. -
Dyletswyddau ychwanegol i
staff glanhau Gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad ynghylch yr
Ysbyty Maes yn Llandarcy. Llywodraeth Cymru dalodd am yr ysbyty a'r Bwrdd
Iechyd fydd yn talu am y costau refeniw. Gofynnodd yr Aelodau a oedd y cyhoedd yn dilyn
arwyddion a systemau un ffordd yng nghanol tref Castell-nedd ac roeddent yn
falch o nodi bod y system yn cael ei monitro. Nododd y pwyllgor y byddai Strategaeth Marchnata Ymwelwyr yn cael ei rhoi ar waith i annog pobl i ymweld â'r fwrdeistref. |
|
Partneriaethau a Chydlyniant Cymunedol (Cyflwyniad) PDF 162 KB Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r sefyllfa
bresennol o ran y gwasanaethau Diogelwch Cymunedol a sut roedd y gwasanaethau'n
cael eu darparu wrth i'r cyngor symud tuag at y cyfnod adfer yn dilyn argyfwng
Coronafeirws. Gofynnwyd am ddiweddariad mewn perthynas ag
adroddiadau am achosion nad ydynt yn angheuol o wenwyno gan gyffuriau ac
roeddent yn falch o nodi bod dulliau cadarn bellach ar waith drwy gydlynydd
adolygu achosion. Trafododd yr Aelodau achosion o ymddygiad
gwrthgymdeithasol drwy gydol y cyfyngiadau symud a nodwyd bod hyd yn oed mân
ddigwyddiadau'n peri llawer iawn o ofid ond bod mwy yn derbyn hyn yn awr.
Cytunodd yr Aelodau fod angen ailystyried ymgysylltu yng ngoleuni cyfyngiadau
COVID-19. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed am y cynlluniau i
gynyddu nifer y staff yn nhîm yr Ymgynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig
(IDFA). Cytunodd yr Aelodau ei bod hi'n bwysig rhannu
negeseuon drwy gyfryngau cymdeithasol ynghylch ymgyrchoedd diogelwch cymunedol
sydd ar ddod. Nododd y pwyllgor y gefnogaeth gref i bartneriaethau a'r
berthynas waith gyfredol ag aelodau ac edrychwyd ymlaen at adeiladu ar hyn. Ar gyfer sesiynau yn y dyfodol, bydd yr Is-bwyllgor
Diogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd yn cwrdd i ystyried eitemau o fewn ei
gylch gwaith. |