Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy - Dydd Gwener, 17eg Gorffennaf, 2020 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Strategaeth Adferiad - i ddilyn pdf eicon PDF 559 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd strategaeth ddrafft i'r Aelodau ar sefydlogi, y cyfnod rhwng ymateb ac adferiad, yn dilyn cychwyniad COVID-19. Roedd y strategaeth yn nodi fframwaith cyffredinol a fyddai'n cefnogi ymagwedd gyson a chydlynol wrth i'r cyngor symud tuag at adferiad. Nodwyd bod y strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i bob Pwyllgor Craffu ar gyfer sylwadau cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ar 30 Gorffennaf 2020 i'w chymeradwyo.

 

Rhoddodd swyddogion drosolwg byr o gynnwys y strategaeth, gan esbonio'i bod wedi'i rhannu'n dair adran a oedd yn cynnwys edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod cyfnod ymateb yr argyfwng, edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb a map ffyrdd o gamau gweithredu.

 

Wrth edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod y cyfnod ymateb, tynnwyd sylw at y ffaith y cymerwyd nifer o gamau allweddol gan gynnwys sefydlu gwasanaeth cyfathrebu saith niwrnod yr wythnos fel y gellid anfon canllawiau gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru at bobl pan oeddent ar gael. Ychwanegwyd bod y cyngor wedi cau gwasanaethau i helpu i leihau ymlediad y feirws ac wedi newid y ffordd yr oedd rhai gwasanaethau hanfodol yn gweithredu er mwyn gweithredu'n ddiogel, er enghraifft y gwasanaeth sbwriel. Soniodd swyddogion fod rhan gyntaf y strategaeth hefyd yn nodi'r newidiadau a wnaed mewn perthynas ag arweinyddiaeth a llywodraethu, gan gynnwys defnyddio'r ddarpariaeth Gweithredu Brys a nodir yn y Cyfansoddiad, i sicrhau bod penderfyniadau allweddol yn dal i gael eu gwneud yn ystod y cyfnod ymateb.

 

Esboniwyd ail ran y strategaeth i'r Aelodau, sy'n cynnwys edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb i gyfnod sefydlogi, sef y cam cyn symud i'r cyfnod adfer. Esboniwyd bod tri maes wedi'u nodi fel ffocws wrth i'r cyngor symud ymlaen:

 

1. Y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu

2. Sut mae gwasanaethau a swyddogaethau'r cyngor yn ymdopi

 

3. Deall yr effaith y mae'r feirws wedi'i chael ar ddinasyddion, sefydliadau a busnesau ledled Castell-nedd Port Talbot ac ymateb iddi.

 

Ychwanegwyd bod yr ail ran hefyd yn nodi'r newidiadau y mae angen eu gwneud o ran arweinyddiaeth a llywodraethu, yn ogystal â rhai o'r risgiau a materion a nodwyd y bydd angen eu rheoli wrth i'r cyngor fynd ati i roi'r strategaeth ar waith.

 

Cyflwynwyd trydedd ran y strategaeth fel map ffyrdd o gamau gweithredu a oedd wedi'u fframio ar sail system goleuadau traffig, a oedd yn nodi sut i symud o sefyllfa o gyfyngiadau symud llwyr, drwy'r system goleuadau traffig, i sefyllfa lle mae gwasanaethau'n gweithredu unwaith eto.

 

Roedd yr Aelodau'n edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fonitro'r strategaeth mewn sesiynau yn y dyfodol.

 

2.

Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd - Cynllunio Cyflenwi ac Adfer Gwasanaethau Cyfredol pdf eicon PDF 323 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r sefyllfa bresennol o ran y gwasanaethau Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a sut roedd y gwasanaethau'n cael eu darparu'n awr wrth i'r cyngor symud tuag at y cyfnod adfer yn dilyn argyfwng Coronafeirws.

 

Hysbyswyd yr Aelodau o'r canlynol;

- mae'r broses gynllunio wedi parhau i weithredu ac roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi bod yn cyfarfod o bell. Mae gorfodaeth wedi parhau ond dim ond ar gyfer achosion pwysig neu frys o dorri amodau.

- Mae proses adolygu'r CDLl wedi'i gohirio ond mae'n parhau

- Mae'r gwasanaethau Rheoli Adeiladau wedi parhau

- Mae'r adrannau Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach wedi gorfod cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau newydd a bu gofyniad iddynt flaenoriaethu swyddogaethau.

 

Nododd yr Aelodau y bydd cynllunio a diogelu'r cyhoedd yn swyddogaeth hanfodol a diolchwyd i'r staff am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb parhaus a'r ffaith eu bod ar gael i'r aelodau drwy'r amser.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd swyddogion yn hyderus fod gan y cyngor ddigon o adnoddau ar waith i roi cyngor a chymorth priodol i fusnesau mewn perthynas ag ailagor yn unol â chanllawiau COVID-19. Hysbyswyd yr Aelodau, er ei fod yn her gan fod canllawiau'n newid yn barhaus, fod Grŵp Gwasanaeth Rheoleiddio a Gorfodi amlasiantaethol yn cwrdd yn wythnosol i gydlynu a bod busnesau'n cymryd rhan weithredol mewn perthynas â'r negeseuon a'r cyngor diweddaraf sydd ar gael.

 

Roedd yr Aelodau'n falch o nodi'r ymagwedd ragweithiol sy'n cael ei defnyddio rhag ofn y bydd ail don yn yr hydref.

 

 

 

 

3.

Eiddo ac Adfywio - Cynllunio Cyflwyno ac Adfer Gwasanaeth Cyfredol - i ddilyn pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r sefyllfa bresennol o ran gwasanaethau yn y maes Eiddo ac Adfywio a sut roedd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu wrth i'r cyngor symud tuag at y cyfnod adfer yn dilyn argyfwng Coronafeirws.

 

Hysbyswyd yr Aelodau o'r canlynol:

 

-      Gwelwyd lefelau isel o salwch ar draws y gwasanaeth o ganlyniad i staff yn gweithio gartref

-      Bu rhai problemau o ran gweithio gartref oherwydd pecynnau a meddalwedd o'r radd flaenaf.
 

-      Cynnydd yn cael ei wneud mewn ysgolion (ar y safle)

-      Cynnydd yn cael ei wneud mewn safleoedd allweddol  (h.y. y Plaza, canol tref Castell-nedd, Metal Box.)

-      Mae'r Tîm Adfywio a Datblygu Economaidd yn allweddol i gefnogi busnesau sy'n gweinyddu 6,000 o grantiau gwerth £31m.

-      Mwy o alw am wasanaethau Gweithffyrdd

-      Newidiadau cyflym i ganllawiau i'w lledaenu.

-      Dyletswyddau ychwanegol i staff glanhau

 

Gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad ynghylch yr Ysbyty Maes yn Llandarcy. Llywodraeth Cymru dalodd am yr ysbyty a'r Bwrdd Iechyd fydd yn talu am y costau refeniw.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y cyhoedd yn dilyn arwyddion a systemau un ffordd yng nghanol tref Castell-nedd ac roeddent yn falch o nodi bod y system yn cael ei monitro.

 

Nododd y pwyllgor y byddai Strategaeth Marchnata Ymwelwyr yn cael ei rhoi ar waith i annog pobl i ymweld â'r fwrdeistref.

4.

Partneriaethau a Chydlyniant Cymunedol (Cyflwyniad) pdf eicon PDF 162 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r sefyllfa bresennol o ran y gwasanaethau Diogelwch Cymunedol a sut roedd y gwasanaethau'n cael eu darparu wrth i'r cyngor symud tuag at y cyfnod adfer yn dilyn argyfwng Coronafeirws.

 

Gofynnwyd am ddiweddariad mewn perthynas ag adroddiadau am achosion nad ydynt yn angheuol o wenwyno gan gyffuriau ac roeddent yn falch o nodi bod dulliau cadarn bellach ar waith drwy gydlynydd adolygu achosion.

 

Trafododd yr Aelodau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy gydol y cyfyngiadau symud a nodwyd bod hyd yn oed mân ddigwyddiadau'n peri llawer iawn o ofid ond bod mwy yn derbyn hyn yn awr. Cytunodd yr Aelodau fod angen ailystyried ymgysylltu yng ngoleuni cyfyngiadau COVID-19. 

 

Roedd yr Aelodau'n falch o glywed am y cynlluniau i gynyddu nifer y staff yn nhîm yr Ymgynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDFA).

 

Cytunodd yr Aelodau ei bod hi'n bwysig rhannu negeseuon drwy gyfryngau cymdeithasol ynghylch ymgyrchoedd diogelwch cymunedol sydd ar ddod. Nododd y pwyllgor y gefnogaeth gref i bartneriaethau a'r berthynas waith gyfredol ag aelodau ac edrychwyd ymlaen at adeiladu ar hyn.

 

Ar gyfer sesiynau yn y dyfodol, bydd yr Is-bwyllgor Diogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd yn cwrdd i ystyried eitemau o fewn ei gylch gwaith.