Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Rooms A/B - Neath Civic Centre

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fudd

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:-

 

Y Cynghorydd S Bamsey    -    Adroddiad ar y cyd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio - oherwydd bod ei berthynas yn berchen ar eiddo a allai fod yn derbyn iawndal.

 

 

2.

Blaenraglen Waith 2019-20 pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

3.

Ymgynghoriad ar Gyllideb ac Arbedion Drafft Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 119 KB

Report of the Director of Environment and Regeneration

 

Cofnodion:

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o wybodaeth atodol Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ynghylch cynigion arbedion ar gyfer cyllideb Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ac Adfywio, fel y nodwyd yn adroddiad y Cabinet ar 20 Ionawr, 2020.

 

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr arbedion ar gyfleusterau cyhoeddus, ac esboniodd swyddogion y bu newid i'r ddeddfwriaeth gan olygu na fyddai angen talu ardrethi. Caiff adroddiad ei gyflwyno i Fwrdd y Cabinet yn y dyfodol.

 

Esboniodd swyddogion fod cynnydd wedi bod yn yr incwm o ganlyniad i godi'r rhent ychydig yng Nghanolfan Fusnes Sandfields; byddai hyn yn golygu ein bod yn arbed ychydig o arian.

 

Dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau fod nifer yr adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor wedi lleihau dros y blynyddoedd, ac roedd hyn yn golygu y bu gostyngiad o £25,000 ar gyfer cynnal a chadw adeiladau. Nodwyd bod y cyngor yn parhau i gynnal a chadw'r adeiladu sy'n eiddo i'r cyngor, a rhoddwyd rhaglen dreigl ar waith i arolygu'r adeiladau hyn yn flynyddol, er bod llawer o waith i'w wneud o hyd.

 

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr angen am ragor o unedau diwydiannol a chefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli.  Esboniodd y swyddogion fod Tîm Cefnogaeth Busnes y cyngor ar gael i gynghori busnesau a'u helpu â'u ceisiadau am grantiau etc. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod nifer o fusnesau lleol yn llwyddiannus, ac roedd un busnes yn cyflogi dros 35 aelod o staff. Er bod angen cymorth ychwanegol gyda thaliadau ar rai busnesau, roedd rhai busnesau a oedd yn cael trafferth yn gallu talu'r arian sy'n ddyledus dros gyfnod o amser. Dywedodd swyddogion fod y cyngor yn awyddus i ehangu ar fusnesau lleol ac roedd y staff yn ymrwymedig i sicrhau bod gan fusnesau gymaint o gefnogaeth â phosib.

 

Atgoffwyd y Cynghorwyr y byddai eu sylwadau yn sgil y cyfarfod hwn yn rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer y Gyllideb 2020/21. Gofynnwyd iddynt roi gwybod i swyddogion os oedd ganddynt unrhyw gynigion eraill nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr adroddiad atodedig fel bod modd eu hystyried

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Ystyriodd y pwyllgor y materion canlynol:

 

Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot (CDLl) 2011-2026 - Ystyried y canlynol:  Adroddiad Adolygu'r CDLl drafft; a rhoi'r gweithdrefnau cyhoeddi/ymgynghori ar waith

 

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith mai pwrpas cam cyntaf yr adolygiad oedd paratoi a chyhoeddi "Adroddiad Adolygu" sy'n nodi materion allweddol i'w hystyried wrth symud ymlaen â'r CDLl sydd eisoes yn bodoli, a byddai hyn yn nodi'r meysydd lle'r oedd y CDLl presennol yn cyflawni ac yn perfformio'n dda, yn ogystal â'r meysydd hynny lle bydd angen newidiadau o bosib.

 

Gofynnodd aelodau a fyddwn yn parhau â'r strategaeth twf a arweinir gan yr economi neu os bydd dewisiadau amgen. Esboniodd swyddogion y byddant yn parhau i edrych ar strategaeth a arweinir gan yr economi, a nodwyd nad oedd dewisiadau eraill yn glir erbyn hyn gan eu bod yn y camau cynnar. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Agenda Datgarboneiddio'n cael ei gyhoeddi, a byddai swyddogion yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cynnwys rhanddeiliaid/y cyhoedd ac yn datblygu'r dewisiadau amgen ar gyfer y cam Strategaeth a Ffefrir.

 

Holodd yr aelodau ynghylch y pryder cynyddol ynghylch dichonoldeb tir gan fod y dichonoldeb yn gywir ar adeg yr asesiad yn unig. Esboniodd swyddogion fod model/astudiaeth ddichonoldeb ranbarthol newydd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gyda chydweithwyr yn yr awdurdod lleol yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru. Nodwyd bod angen i ni wneud pethau'n wahanol yn ystod cam y Safle Ymgeisiol, ac na fyddai safleoedd yn cael eu cynnwys yn y cynllun heb dystiolaeth ddigonol (gan gynnwys asesiadau dichonoldeb). 

 

Esboniodd swyddogion fod diffyg arbenigedd o ran yr amgylchedd hanesyddol a bod angen ymagwedd fwy cydweithredol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y polisi hwn yn dda a bod angen i ni nodi adnoddau i fynd i'r afael â'r materion hyn wrth symud ymlaen.

 

Esboniodd swyddogion fod cronfa wrth gefn y CDLl ar gael, a bod y CDLl yn cael ei osod yn y gyllideb fel pwysau bob blwyddyn. Nodwyd bod y tair uwch-swydd wedi mynd, felly defnyddiwyd yr arian wrth gefn i brynu arbenigedd i lenwi'r bwlch.

 

Roedd aelodau'n falch o glywed y byddai'r materion sy'n ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth (HMO) yn cael eu hasesu fel rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer y Cynllun Disodli na fyddai ganddo unrhyw ddylanwad nes iddo gael ei fabwysiadu yn 2024. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith y byddai seminar yn cael ei gynnal ar 12 Chwefror, 2020 ac anogwyd yr aelodau i fod yn bresennol.  

 

Cynhaliwyd trafodaeth am y cymoedd, a chytunodd aelodau ei fod yn dda ein bod ni'n canolbwyntio ar y Cymoedd. Dywedodd y swyddogion fod angen i ni barhau i'w hystyried ac o bosib gwneud mwy. Byddai twristiaeth yn cael ei chyflwyno fel rhan o'r cymoedd, er bod cynigion eisoes ar waith mewn meysydd penodol.

 

Gofynnodd yr aelodau beth fydda'n digwydd gyda'r CDLl o ganlyniad i newid cynghorwyr mewn etholiad newydd (y disgwylir ei chynnal yn 2022) a sut y byddai hyn yn cyflawni'r hyn rydym am ei gael. Esboniodd swyddogion fod hyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Gwahardd y cyhoedd, yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o

Ddeddf Llywodraeth Leol 1972,

o'r eitemau busnes canlynol

a oedd yn cynnwys datganiadau posib

o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 18c Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

6.

Craffu Cyn Penderfynu (Preifat)

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Ystyriodd y pwyllgor y materion canlynol:

 

Safle Cyflogaeth Strategol Glannau'r Harbwr Port Talbot - Tir a Hawliau ynghylch Perchnogaeth Cymdeithas Porthladdoedd Prydain

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Talu iawndal dan ddarpariaethau Rhan 1 Deddf Iawndal Tir 1971

 

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Gwaredu rhan o Hen Iard Burrows yn ogystal ag adfer tir a gedwir gan y cyngor

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Canolbwyntio ar y Gymuned - Rhaglen Beilot Monitro Ansawdd Aer Ardal Gyfan

 

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.