Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
COFNDION Y CYFAEFOD BLAENOROL PDF 59 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
18 Hydref, 2019. |
|
Blaenraglen Waith 2019/2 PDF 59 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 -
Chwarter 2 (1 Ebrill 2019 i 30 i Medi 2019) Cafodd aelodau drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Gofynnodd aelodau am ganran y ceisiadau cynllunio a
ddiystyriwyd. Cytunwyd y byddai
aelodau'n cysylltu â Phennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd i drafod
ymhellach. Cafwyd trafodaeth ynghylch busnesau newydd yn y
fwrdeistref sirol. Cytunwyd y byddai'r
Pennaeth Eiddo ac Adfywio'n dod ag adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol. Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad. |
|
MYNEDIAD I GYFARFODYDD Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y
cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o
wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12, 13 ac 14 o Ran 4 Atodlen
12A y Ddeddf uchod. |
|
ADRODDIAD PERFFORMAID EIDDO Cofnodion: Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad preifat
a gylchredwyd. Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad. |
|
TENDR ANFFURFIOL AR GYFER GWAREDU HEN SAFLE LIDO AFAN A SAFLE'R MAES PARCIO GORLIF Cofnodion: Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad preifat
a gylchredwyd am hen safle Lido Afan. Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad. |