Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fudd Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:- Y Cynghorydd S Rahaman - Adroddiad ar y cyd y Pennaeth Cynllunio a
Diogelu'r Cyhoedd a'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio Parthed: Adroddiad Archwilio
Cymru, Iechyd yr Amgylchedd - gan ei fod yn gweithio yn y fasnach fwyd yng
Nghastell-nedd Port Talbot. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 57 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 6 Medi 2019 fel cofnod cywir. |
|
Blaenraglen Waith 2019-20 PDF 59 KB Cofnodion: Nododd y pwyllgor y Blaenraglen Waith a
gylchredwyd. |
|
Dewis eitemau priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeëdig ar gyfer yr aelodau craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda Bwrdd y Cabinet: Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot
(CDLl) - ystyried y canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion o
drydedd Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) y CDLl Cafodd aelodau drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Esboniodd swyddogion fod gofyn i'r cyngor baratoi
Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31
Hydref. Roedd yr adroddiad yn darparu'r
sail ar gyfer monitro effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Dywedodd swyddogion y byddai'r wybodaeth am yr
adolygiad o'r CDLl ar gael mewn seminar i'r holl aelodau ar 28 Tachwedd.
Anogwyd aelodau i ddod i'r digwyddiad. Cynhaliwyd trafodaethau am gyflwyno tai yng Nghoed
Darcy. Esboniodd swyddogion y bu heriau
gyda'r datblygiad, ond mae a bydd trafodaethau'n parhau fel rhan o adolygiad. Amlygwyd bod y CDLl yn cynnwys strategaeth a
arweinir gan yr economi, a bod rhai ardaloedd o weithgarwch economaidd wedi
gwella ac y bu cynnydd tuag at gyflawni'r strategaeth a arweinir gan yr
economi. Mewn ymateb i ymholiadau aelodau, pwysleisiodd
swyddogion ei bod hi'n bwysig i aelodau, busnesau lleol a datblygwyr gefnogi
proses adolygu'r CDLl a bod yn rhan ohoni. Amlygwyd y bydd gan berchnogion tir
a phob parti arall â diddordeb gyfle i gynnig safleoedd i'w hystyried yn y
Cynllun Disodli. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040 -
Ymgynghoriad Drafft Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth am
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC)
drafft. Roedd aelodau'n falch bod trefi
Castell-nedd a Phort Talbot wedi'u nodi'n rhan o ardal â thwf cenedlaethol. Nodwyd bod fframwaith polisi'r FfDC yn
gofyn am Gynllun Datblygu Strategol (CDS) gan bob rhanbarth; goblygiad hyn yw
na fydd trefniadau rhanbarthol anffurfiol neu ymrwymiadau i weithio ar y cyd yn
addas mwyach fel dull o gynllunio rhanbarthol sy'n ofynnol gan y FfDC. Esboniodd swyddogion y bydd angen i
waith ar y CDS gyflymu a bydd yn adeiladu ar y gwaith cydweithio a gwblhawyd ac
sydd eisoes yn mynd rhagddo. Amlygodd swyddogion hefyd y ffaith y bydd y CDLl
mabwysiedig canlynol yn dod i ben yn 2026, ac yr eir ati i adolygu'r CDLl ochr
yn ochr â'r CDS sy'n dod i'r amlwg. Er na fydd gan y CDS unrhyw ddylanwad nes
iddo gael ei fabwysiadu'n ffurfiol, bydd angen i'r adolygiad o'r CDLl sicrhau y
bydd y ddogfen yn cyd-fynd â'r fframwaith rhanbarthol sy'n cael ei ddatblygu. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot -
Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019 Derbyniodd aelodau drosolwg o Adroddiad Cynnydd
Ansawdd Aer 2019. Cafwyd trafodaeth am leoliad yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn
Nhai-bach/Margam, ac esboniodd swyddogion mai dyma'r lle mwyaf addas ac y
byddai'n parhau mewn grym. Esboniodd swyddogion fod y cyngor yn gweithio gyda
Tata, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn gweithgor ar y cyd i
reoli ansawdd aer. Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch nifer cyfyngedig yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA), esboniodd swyddogion y caiff ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |