Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 73 KB ·
25 Mehefin 2021 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
25 Mehefin, 2021. |
|
Diweddariad ar Gynllun Gweithredu Castell-nedd Port Talbot Archwilio Cymru PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Hysbysodd swyddogion
yr Aelodau am y Cynllun Gweithredu Adfywio diweddaredig yn dilyn archwiliad a
gynhaliwyd gan Archwilio Cymru. Roedd yr Aelodau'n
falch bod Swyddogion wedi ystyried llawer o'r awgrymiadau a wnaed gan Archwilio
Cymru. Nodwyd bod y sylwadau'n ymwneud â chyfathrebu'n galonogol; pe bai'r
cyngor yn parhau i wneud cynnydd gyda'r argymhellion a nodir yn y cynllun
gweithredu, gellid manteisio ar brosiectau yn y dyfodol, a gallai roi hyder i'r
cyhoedd yn yr hyn yr oedd y cyngor yn ceisio'i gyflawni. Codwyd pwysigrwydd
Buddion Cymunedol hefyd; roedd yn galonogol bod y cyngor wedi cydnabod ffordd
well o ddelio â'r mater hwn, ac y bydd Swyddogion o hyn ymlaen yn cael eu cynnwys
ar gam cynnar ar gyfer pob prosiect. Soniwyd bod hyn yn fuddiol er mwyn i'r
cyhoedd fod yn ymwybodol o'r budd uniongyrchol o brosiect. Cydnabu swyddogion y
gellid gwneud gwelliannau bob amser i wahanol elfennau o wasanaethau; gallai
rhai o'r rhwystrau i hyn fod yn gysylltiedig â systemau, adnoddau neu gyfuniad
o'r ddau. Dywedwyd bod y cynllunydd cerrig milltir a gwblhawyd gyda'r Tîm
Cyfryngau wedi'i adfywio, er mwyn iddynt gael syniad llawer gwell o ba
brosiectau a oedd ar ddod; roedd swyddogion yn obeithiol y bydd hyn yn datrys
rhai o'r problemau sy'n codi. Yn dilyn y drafodaeth,
cytunwyd y byddai'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio yn darparu adroddiad i'r Pwyllgor
ar fuddion cymunedol. Gofynnodd yr Aelodau a
oedd unrhyw ddiweddariadau pellach ar fformiwla Llywodraeth Cymru ar gyfer
llifogydd. Cadarnhawyd bod y datganiad sefyllfa yr un fath ag a adroddwyd yn
flaenorol i'r Pwyllgor, a bod llawer o broblemau'n ymwneud â pharthau llifogydd
ar draws y Fwrdeistref Sirol o hyd; roedd yn hysbys bod y mapiau llifogydd yn
newid, gellid tynnu tir oddi ar y rhestr parthau llifogydd neu ei ychwanegu at
y rhestr, a gallai'r rhesymeg y tu ôl i hyn yn aml fod yn anodd i bobl ei
deall. Fodd bynnag, soniwyd bod yr wybodaeth am ardaloedd llifogydd yn gwella o
flwyddyn i flwyddyn, a'i bod yn dod yn fwy cadarn a fydd yn helpu'r cyngor i
wneud y penderfyniadau gorau posib o ran defnyddio tir. Tynnodd swyddogion sylw
at y ffaith bod gan y Fwrdeistref Sirol rai ardaloedd heriol o ran lliniaru
llifogydd, ac o ran bwrw ymlaen â datblygiadau roedd yn broses ddrud ac roedd
risg, oherwydd mae'n bosib na fydd canlyniadau a ddymunir yn cael eu cyflawni
ar ddiwedd y broses. Gofynnwyd a oedd proses lle gallai'r awdurdod herio'r penderfyniadau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn eu gwneud o ran tir llifogydd. Cadarnhaodd swyddogion mai dim ond fesul achos y gellid herio CNC, gan y byddai angen profi nad oedd y datblygiad dan sylw yn mynd i rwystro unrhyw un arall; roedd hon yn broses anodd a hir, a fyddai'n golygu llawer o waith ymgynghori gan arbenigwyr allanol. Dywedwyd bod problemau llifogydd yn dod yn fwy cyffredin, a bod CNC yn gwneud eu gorau gyda'r adnoddau wrth law, er mwyn deall ble bydd yr effeithiau. Hysbyswyd yr Aelodau pan fydd y cyngor yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Prydlesu 5-6 Heol Llundain,
Castell-nedd i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Derbyniodd y Pwyllgor
adroddiad mewn perthynas â phrydles newydd ar gyfer 5-6 Heol Llundain yng
Nghastell-nedd, a fyddai'n galluogi parhau i ddarparu gwasanaethau ymyriad
camddefnyddio sylweddau. Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn cyfeirio at y ffaith nad oedd yn hysbys a oedd cyflawnwyr
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) yn defnyddio'r gwasanaethau yn yr eiddo dan
sylw; gofynnwyd a oedd unrhyw gynlluniau i fonitro hyn. Dywedwyd na ellid
cysylltu'r Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Castell-nedd yn
uniongyrchol â phawb a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau yn Heol Llundain.
Darparwyd sicrwydd fod llawer o waith yn cael ei wneud, o ran gorfodi a
chefnogaeth, i sicrhau ei fod yn hysbys pwy oedd cyflawnwyr yr YG ac i sicrhau
bod yr unigolion hyn, lle y bo'n bosib, yn cael mynediad at wasanaethau
cefnogi; cyfeiriwyd at Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg y Diamddiffyn sy'n
Cysgu ar y Stryd (SV MARAC), a hysbyswyd yr Aelodau fod cyfarfodydd rheolaidd
yn cael eu cynnal rhwng cydweithwyr ar lefel weithredol. Soniwyd bod Heddlu De
Cymru wedi darparu gwybodaeth am y rheini sy'n cyflawni ymddygiad
gwrthgymdeithasol i grŵp craidd o unigolion, ac mae Swyddogion wedi awgrymu
y dylid ymchwilio'n ddwfn i'r achosion hyn i nodi ffactorau megis, a oeddent yn
cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt neu a oedd angen anogaeth bellach
arnynt. Gofynnwyd a oedd cydberthynas
rhwng y cyfleuster yn Heol Llundain a'r YG yng nghanol tref Castell-nedd. Roedd
swyddogion yn cydnabod bod problem ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Fwrdeistref
Sirol, ond ni ellid rhoi'r bai ar bawb sy'n mynd i'r cyfleuster penodol hwn; pe
na bai'r gwasanaethau cefnogi ar waith, byddai'r problemau YG yn llawer gwaeth.
Soniwyd bod y gwasanaethau ar waith i helpu unigolion i wella a sefydlogi'u
bywydau, a'u hatal rhag troseddu, aildroseddu a/neu eu hatal rhag cael eu
hecsbloetio. Hysbyswyd yr Aelodau fod y Bwrdd Cynllunio Ardal yn cychwyn ar
brosiect trawsnewid mawr a fydd yn edrych ar ddarparu gwasanaethau
camddefnyddio sylweddau ar draws y rhanbarth a sut y gellir eu gwella; bydd
rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys nodi a oedd gwasanaethau yn y lle iawn ac os
cawsant eu cyflunio yn y ffordd gywir. Ychwanegwyd bod lleoliad y gwasanaethau
hyn yn bwysig gan fod angen iddynt fod mewn ardaloedd lle gall pobl gael
mynediad atynt. Gofynnodd yr Aelodau pam y
nodwyd bod yr eiddo'n cael ei brydlesu am rent rhad. Tynnwyd sylw at y ffaith
bod yr adeilad wedi'i brynu a'i adnewyddu gyda chyfalaf y Gronfa Gweithredu ar
Gamddefnyddio Sylweddau (SMAF) Llywodraeth Cymru, a'r tâl yn ôl am hyn oedd y
byddai'r eiddo'n cael ei restru fel eiddo rhent rhad. Soniwyd y byddai unigolion na fyddant byth yn ymwneud â'r gwasanaethau cefnogi, ond roedd yn bwysig i'r cyngor wneud y broses yn haws i'r rheini a allai ymwneud ag ef; roedd rhai enghreifftiau o waith a oedd wedi'i gwblhau i helpu unigolion gyda hyn yn cynnwys allgymorth pendant a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r
Blaenraglen Waith Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22. Amlygwyd bod gweithdy Blaenraglen Waith y
Pwyllgor wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 21 Medi. |