Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Cynllun Llesol i Wenyn CNPT Cyflwynwyd adroddiad i'r
aelodau mewn perthynas â Chynllun Llesol i Wenyn Castell-nedd Port Talbot. Dywedodd swyddogion fod y
cynllun hwn yn cynnig newid trefn reoli a thorri ymylon sy’n eiddo i’r cyngor,
er mwyn annog glaswelltiroedd blodau gwyllt i ddatblygu, a fydd hefyd yn
cyd-fynd â'r gofynion a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Cynllun Dyletswydd
Bioamrywiaeth y cyngor a Chynllun Gweithredu Adferiad Natur Castell-nedd Port
Talbot. Nodwyd bod y seminar diweddar
ar gyfer yr holl aelodau a gynhaliwyd i drafod y pwnc hwn yn ddefnyddiol iawn
ac yn caniatáu i'r aelodau roi eu mewnbwn; Ystyriodd swyddogion lawer o'r
sylwadau a'r awgrymiadau a wnaed. Pwysleisiodd y Pwyllgor
bwysigrwydd cynnal y defnydd o fannau gwyrdd ar gyfer amwynder, yn enwedig yn
yr ardaloedd trefol; roedd yn bwysig cael cefnogaeth gan y gymuned a chael
ymgysylltiad cymunedol cadarn. Soniwyd bod Tai Tarian yn berchen ar hanner yr
ardaloedd gwyrdd ac yn eu rheoli a bod yr hanner arall yn eiddo i'r cyngor ac
yn cael eu rheoli ganddo; roedd angen cydlyniad rhwng y ddau grŵp er mwyn
sicrhau bod cymysgedd priodol rhwng cadw mannau amwynder a ddefnyddiwyd yn aml,
a chyflwyno'r gwelliannau pwysig i fioamrywiaeth. Rhannodd yr aelodau stori
arfer da gan Tai Tarian, lle’r ymgysyllton nhw â chymdogion mewn ardal, mewn
perthynas â newid man gwyrdd, ac roeddent wedi gallu gwneud mân newidiadau i’w
cynlluniau gwreiddiol i ganiatáu i weithgareddau cymunedol ddigwydd yn y man
gwyrdd, yn ogystal â chael yr ychwanegiadau bioamrywiaeth angenrheidiol; roedd
ymgysylltu â'r cyhoedd yn bwysig iawn gan ei fod yn rhoi dealltwriaeth o sut
roedd y gymuned yn defnyddio lleoedd. Cadarnhaodd swyddogion fod
mannau amwynder yn hanfodol bwysig yn y gymuned, a'i bod hefyd yn bwysig
sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r cynllun hwn fel eu bod yn deall y
rhesymau pam yr oedd angen gwelliannau i fioamrywiaeth; byddai cyfathrebu a
brandio'r cynllun hwn yn hanfodol, a gwnaed awgrymiadau mewn perthynas â ffyrdd
o'i hyrwyddo i'r cyhoedd Soniwyd bod aelodau'r Tîm
Bioamrywiaeth wedi anfon llythyrau at Gynghorwyr ac wedi cynnal cyfarfodydd
unigol â nhw yn eu Wardiau i drafod ardaloedd penodol, gan fod anghenion
penodol gwahanol ar draws yr amrywiaeth o fannau awyr agored. Hysbyswyd yr aelodau fod angen
i'r cyngor sicrhau bod ei sefyllfa a'i weithdrefnau wedi'u sefydlu, ac yna
byddai staff yn trafod y mater hwn â gwahanol sefydliadau i sicrhau eu bod eu
hymagwedd yn cyd-fynd ag ymagwedd y cyngor. Ychwanegodd swyddogion mai
diogelwch fyddai'r flaenoriaeth gyntaf yn y gwaith a wneir. Gofynnwyd a fyddai'r cynllun yn cael ei ehangu i ardaloedd tir llwyd a thir diwydiannol nas defnyddir. Esboniodd swyddogion mai'r ffocws presennol oedd edrych ar yr ymylon presennol ar dir sy'n eiddo i'r cyngor; byddai'r cynllun yn cymryd peth amser i symud drwy'r gwahanol feysydd, gan fod Swyddogion yn awyddus iddo weithio'n effeithiol. Fodd bynnag, cadarnhawyd y gallai fod yn bosib ymchwilio i'r ardaloedd tir llwyd i ddod â blodau gwyllt ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |
|
Cofnodion: Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu Adfywio
a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22. |