Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 111 KB ·
16 Ebrill 2021 ·
14 Mai 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd canlynol: ·
16 Ebrill 2021 ·
14 Mai 2021 |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu
ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013: Ystyried y
gofynion ar gyfer yr Ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol Drafft
(MRhTLl) ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a'r gweithdrefnau
cyhoeddi/ymgynghori sydd i'w rhoi ar waith Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn darparu Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) drafft ar
gyfer Castell-nedd Port Talbot i'r Aelodau ynghyd â'r gweithdrefnau ymgynghori
ar gyfer yr ymgynghoriad arfaethedig sydd ar ddod. Esboniodd swyddogion
ei bod yn ofynnol adolygu MRhTLl y cyngor bob tair blynedd; bydd angen
cyflwyno'r map i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo gan Weinidogion erbyn 31
Rhagfyr 2021. Nodwyd bod gan deithio llesol ystyr penodol yng Nghymru; roedd y
llwybrau hyn ar gyfer teithiau pwrpasol beunyddiol i leoedd fel y gwaith a'r ysgol,
ac nid oeddent yn cynnwys teithiau a wnaed at ddibenion hamdden neu
gymdeithasol. Hysbyswyd yr Aelodau fod dwy elfen i'r map: ·
Llwybrau presennol – y
llwybrau a oedd eisoes yn bodloni safonau teithio llesol a bennwyd gan Lywodraeth
Cymru a'r hyn y mae'r cyngor eisoes wedi rhoi cyhoeddusrwydd iddo fel llwybrau
addas ·
Llwybrau'r dyfodol – y
llwybrau a oedd yn ddyheadau'r cyngor am y 15 mlynedd nesaf; yr oeddent naill
ai'n welliannau i lwybrau sydd eisoes yn bod neu'n nodi llwybrau newydd i'w
hychwanegu at y rhwydwaith Tynnwyd sylw at y
ffaith nad oedd ymrwymiad wedi'i roi ar y cyngor i ddarparu'r MRhTLl; yn
hytrach, offeryn oedd hwn yn y bôn i wella'r gwaith o flaengynllunio llwybrau
teithio llesol. O ran y fethodoleg a
ddefnyddiwyd, nodwyd bod yr MRhTLl wedi'i ddatblygu drwy'r cydweithio
rhwng Sustrans ac Awdurdodau Lleol ar draws y rhanbarthau; roedd hyn yn sicrhau
bod cysondeb o ran ymagwedd ar draws ffiniau gweinyddol gan fod y llwybrau
teithio llesol yn cysylltu rhwng y Bwrdeistrefi Sirol. Hysbyswyd y Pwyllgor
fod y tîm wedi cynnal ymgynghoriad cychwynnol ar ddiwedd 2020/ddechrau 2021,
sef cam cyntaf y broses; cafodd y tîm ymateb hynod o dda o hyn (derbyniwyd dros
2,500 o ymatebion). Soniwyd mai diben yr ymgynghoriad cychwynnol oedd
ymgysylltu â'r cyhoedd a chael eu barn ynghylch yr hyn a oedd yn dda a'r hyn a
oedd yn wael am y rhwydwaith yng Nghastell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion y
bu archwiliad yn ddiweddar o'r llwybrau presennol sydd ar gael; Roedd 10 llwybr
wedi'u hychwanegu at y rhestr o lwybrau presennol yn dilyn yr archwiliad.
Nodwyd y bu elfen hefyd o gasglu gwybodaeth a mapio teithiau a oedd yn edrych
ar ba deithiau oedd yn cael eu gwneud a beth oedd y mannau gadael a phen pob
siwrne. Esboniwyd mai cam olaf
y fethodoleg fydd blaenoriaethu'r llwybrau, a fydd yn cael eu cwblhau ar ôl yr
ymgynghoriad nesaf; bydd yn nodi'r llwybrau a drefnwyd o ran dyheadau tymor
byr, canolig a thymor hwy i'r cyngor. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r ffaith nad oedd y cyngor wedi ymrwymo i ddarparu MRhTLl. Mynegodd yr Aelodau bwysigrwydd egluro y byddai'r cyngor yn hoffi gweld pob llwybr yn cael ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r Blaenraglen Waith Craffu
Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22. Cytunwyd y dylid trefnu
Gweithdy Blaenraglen Waith Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer cyfnod
yr hydref. |