Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd S Rahaman
Parthed: Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Dwristiaeth, 2022, gan ei
fod yn gweithio mewn bwyty ar lan môr Aberafan yng Nghastell-nedd Port Talbot |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Adroddiad ynghylch y
Diweddaraf am Dwristiaeth, 2022 Darparwyd adroddiad i'r
Aelodau ynghylch y diweddaraf am Dwristiaeth ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot. Cyfeiriwyd at ymgysylltu,
cyrhaeddiad a nifer y bobl sy'n ei 'hoffi' ar gyfryngau cymdeithasol. Roedd gan
yr Aelodau ddiddordeb mewn gweld cyrhaeddiad yr ymgyrch farchnata y tu allan
i'r Fwrdeistref Sirol, a gofynnwyd a oedd dadansoddiad, yn ddaearyddol, o
rywfaint o'r data hwnnw, yn enwedig mewn perthynas â dilynwyr cyfryngau
cymdeithasol. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn ymchwilio i ba ddata y gellid
ei dynnu ynghyd; fodd bynnag, gofynnwyd i'r Aelodau gadw mewn cof mai dim ond
am bedwar mis yr oedd yr ymgyrch wedi bod yn rhedeg yn ystod cyfnod y gaeaf.
Byddai swyddogion yn dosbarthu'r data ar ôl iddo gael ei goladu. Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn dweud y byddai Aelodau a rhanddeiliaid yn cael eu gwahodd i
gymryd rhan mewn gweithdai fel rhan o'r broses, i ddyfeisio'r Cynllun Rheoli
Cyrchfannau newydd; ac yn amodol ar gaffael, dylai'r cynllun newydd fod ar
waith erbyn haf 2022. Gofynnodd yr Aelodau pryd y byddai'r gweithdai'n cael eu
cynnal. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd y contractwr ar gyfer y gweithdai
wedi'i benodi eto; unwaith y caiff ei benodi, byddai'r trefniadau'n cael eu
rhoi ar waith o ran amserlenni. Esboniodd swyddogion y byddai'r gweithdai'n
cael eu cynnal ar-lein pe bai cyfyngiadau'n dal i fod ar waith; os yn bosib,
byddant yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb. Gofynnodd y Pwyllgor a allai
Swyddogion fonitro'r defnydd o safleoedd gyda chyflenwad trydan a oedd ar waith
ar draws y Fwrdeistref Sirol; ac os nodwyd eu bod yn cael eu defnyddio'n aml,
gofynnwyd a fyddai'n bosib ymchwilio i leoedd eraill ar draws y Fwrdeistref
Sirol, a allai elwa o gyflenwadau trydanol. O ran y cysylltiadau cludiant cyhoeddus â thwristiaeth, gofynnwyd sut roedd y cyngor yn annog ymwelwyr i gyrraedd Castell-nedd Port Talbot (CNPT) drwy gludiant cyhoeddus, a sut roedd y cyngor yn ymgysylltu â'r gwahanol weithredwyr trafnidiaeth. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod cludiant cyhoeddus i deithio i'r cyrchfan, ac o'i gwmpas, yn ystyriaeth allweddol i ymwelwyr, ond roedd problemau amrywiol o ran argaeledd ac amlder gwasanaethau ar gyfer llawer o gynghorau. Dywedwyd bod costau sylweddol yn gysylltiedig â rhoi cymhorthdal i wasanaethau, ac anawsterau wrth berswadio pobl i ddefnyddio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus, gan ei bod weithiau'n anodd cyrraedd lleoedd a/neu byddai'n cymryd amser hir iawn; y ddarpariaeth sydd ei hangen i ddiwallu anghenion ymwelwyr a bod yn gyfleus iddynt ei defnyddio. Er gwaethaf y problemau, hysbyswyd yr Aelodau fod y cyngor wedi gweithio gyda Bay Trans a oedd wedi llunio cyfres o 'Droeon i'w cyrraedd ar Fws' gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn CNPT; roedd y cyngor hefyd yn gweithio gyda Great Western Railway ar hyn o bryd, ac roedd yr ardal i'w chynnwys yn eu hymgyrch arfaethedig, gyda phosteri mewn gorsafoedd trên/ar drenau ac ar gyfryngau cymdeithasol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd y materion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: Cyfeiriwyd at y gweithdai ar
gyfer y Cynllun Rheoli Cyrchfannau, a sut y byddai'r Pwyllgor yn rhan o'r
gwaith hwn yn y dyfodol; Gofynnwyd i Swyddogion roi'r diweddaraf i'r Aelodau ar
hyn. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
ansawdd aer, a oedd yn bwnc a gynhwyswyd yng nghylch gwaith y Pwyllgor hwn.
Gofynnwyd i'r Aelodau anfon e-bost at y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd
i egluro'u pryderon, ac i dynnu sylw at ba wybodaeth bellach y gellid ei
hychwanegu at yr adroddiad blynyddol ar ansawdd aer. Nododd yr Aelodau'r Blaenraglen Waith Craffu
Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22. |