Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2020. |
|
Diweddariad llafar - effeithiau COVID-19 ar yr Adran Addysg Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau ddiweddariad llafar ar yr
effeithiau y mae COVID-19 wedi'u cael ar yr Adran Addysg, Sgiliau a Diwylliant.
Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai'r diweddariad yn parhau'n bennaf ar y
gweithgareddau yn ystod mis Ionawr. Nodwyd bod dysgu o bell wedi bod ar waith ym mhob
ysgol ers 4 Ionawr 2021, fodd bynnag, roedd ysgolion yn parhau i fod ar agor i
ddisgyblion gweithwyr allweddol a dysgwyr sy'n agored i niwed. Roedd
presenoldeb corfforol yn yr ysgol wedi cynyddu, roedd 400 o ddisgyblion
gweithwyr allweddol a/neu ddysgwyr agored i niwed yn bresennol yr wythnos
gyntaf yn ôl ym mis Ionawr 2021. Roedd y presenoldeb hwnnw wedyn wedi cynyddu i
1,000 o ddisgyblion, a oedd yn cyfateb i 5% o boblogaeth y disgyblion. Roedd
ysgolion wrthi'n annog dysgwyr agored i niwed i fynychu'r ysgol. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith nad oeddent
wedi derbyn y canllawiau gweithredol gan Lywodraeth Cymru eto ynghylch agor
ysgolion. Fodd bynnag, roeddent wedi diweddaru ysgolion ar lafar ar 2 bwynt
penodol a oedd yn ymwneud â chadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion
wyneb. Nodwyd bod cadw pellter cymdeithasol yn cael ei ystyried yn ddiangen ar
gyfer disgyblion mewn amgylchedd ystafell ddosbarth cyn diwedd mis Rhagfyr
2020, ond oherwydd amrywiolion newydd, roedd asesiadau risg bellach wedi'u
diwygio sy'n golygu y barnwyd bod angen i ddisgyblion gadw pellter cymdeithasol
yn yr ysgol, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd. Barnwyd bod gorchuddion wyneb
hefyd yn angenrheidiol ar gyfer disgyblion mewn ystafelloedd dosbarth ac
ardaloedd cymunedol yn yr ysgol, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd. Mae hyn yn
seiliedig ar asesiadau risg lleol. Byddai'r trefniadau hyn yn cael eu hadolygu
unwaith eto erbyn diwedd mis Chwefror. Nodwyd y bu datganiad yn y wasg yn ddiweddar
ynghylch Cyfres Arholiadau ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol
5. Roedd hyn yn arwain at raddau asesu
canolfannau a fyddai'n cael eu darparu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd i
ddisgyblion ym mlynyddoedd 10, 11, 12 a 13 lle bo hynny'n berthnasol. Nodwyd
bod swyddogion yn gweithio gydag ysgolion er mwyn sicrhau ymagwedd gyson.
Soniwyd y byddai ysgolion yn dod yn ganolfan apelio ar gyfer y disgyblion neu'r
rhieni hynny nad ydynt efallai'n fodlon ar y canlyniadau. Unwaith eto,
sicrhaodd swyddogion yr aelodau y byddent yn gweithio gydag ysgolion ac yn aros
am arweiniad gan Lywodraeth Cymru. Tynnodd swyddogion sylw'r aelodau at y ffaith eu
bod yn cyfarfod â phenaethiaid bob dydd i sicrhau bod lles staff yn cael ei
gynnal. Nodwyd bod sesiynau Iechyd a Lles wedi'u caffael i gefnogi penaethiaid. Cafwyd trafodaethau ynghylch argaeledd dyfeisiau ar
gyfer disgyblion a phryderon cysylltedd. Nodwyd yn ystod y cyfyngiadau symud
cyntaf ym mis Mawrth/Ebrill 2020, nad oedd gan 1,300 o ddisgyblion fynediad at
ddyfais a bod gan 228 o aelwydydd ddiffyg cysylltedd addas. I'r disgyblion
hynny nad oedd ganddynt fynediad at ddyfais a/neu a oedd â materion cysylltedd,
darparwyd Chromebook ac unedau MiFi iddynt. Yn dilyn y cyfnod o ddysgu ar-lein yn ddiweddar oherwydd y cyfyngiadau symud, roedd y cyngor hefyd wedi darparu dyfeisiau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Ymgynghori ar Gynigion Cyllidebol 2021/22 PDF 111 KB Cofnodion: Derbyniwyd trosolwg ar gynigion cyllideb ddrafft
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes 2021/2022. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y cynigion a
gynhwyswyd yn yr adroddiad yn nifer bach o strategaethau arbed y craffwyd ac yr
ymgynghorwyd arnynt eisoes, ac a gymeradwywyd gan y cyngor ar 6 Mawrth 2020. Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau hefyd am y pwysau
cyllidebol i'r gwasanaeth, ynghyd â'r arbedion, y toriadau a'r cyfleoedd i
gynhyrchu incwm y manylir arnynt yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Yn ystod y drafodaeth ar y gyllideb, mynegwyd
pryder ynghylch yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael yn ystod y cyfnod
digynsail hwn a'r effeithiau anrhagweladwy y mae wedi'u cael ar y gymuned a'r
gyllideb. Roedd yr Aelodau am gael sicrwydd bod Swyddogion yn hyderus na fyddai
eu rhagfynegiadau ar gyfer y costau gwariant yn cynyddu'n ddramatig ar gyfer y
flwyddyn sydd i ddod. Nododd swyddogion y byddai effeithiau COVID-19 yn parhau
am gyfnod eto, fodd bynnag, mae'r bartneriaeth rhwng y cyngor ac ysgolion yn
gryf gan sicrhau bod y camau a oedd yn cael eu cymryd yn ogystal â chynllunio
yn y dyfodol wedi'u costio'n ofalus. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid sylw
hefyd at y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i'w darparu i'r
cyngor drwy'r cyfnodau anodd hyn. Roedd gan yr Aelodau bryderon ynghylch y nifer sy'n
manteisio ar y Gwasanaeth Glanhau oherwydd cyllidebau ysgolion. Sicrhaodd
swyddogion yr aelodau fod y Gwasanaeth Glanhau mewnol wedi rhagori ei hun dros
y misoedd diwethaf oherwydd effeithiau COVDI-19 a'i fod ar sylfaen gadarn a bod
galw amdano. Gofynnwyd a fyddai Orendy Margam yn gallu dychwelyd
i fod yn lleoliad priodas eleni, os yw’r broses frechu’n cael ei chwblhau mewn
modd amserol. Holodd yr Aelodau hefyd a oedd Llywodraeth Cymru yn ariannu'n
colled o £279,000 mewn incwm i Orendy Margam. Nodwyd, cyn gynted ag y bydd
Orendy Margam yn ailagor fel lleoliad ac nid fel canolfan frechu, y caiff ei
ddefnyddio eto. Nododd swyddogion fod Llywodraeth Cymru, fel y crybwyllwyd
eisoes gan yr Aelod y Cabinet dros Gyllid, wedi bod yn gefnogol iawn ac y
byddai'n rhoi cymorth o fewn rheswm. Diolchodd Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a
Diwylliant i'r Aelodau Craffu am eu cyfraniad i'r Ymgynghoriad ar y Gyllideb a
chanmolodd y Swyddogion am eu hymdrechion. Yn dilyn craffu ar fanylion y gyllideb yn yr
adroddiad, atgoffwyd yr aelodau y byddai eu sylwadau o'r cyfarfod hwn yn rhan o'r
ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar gyfer cyllideb 2021/22. Gofynnwyd iddynt,
os oedd ganddynt unrhyw gynigion eraill ar gyfer arbedion cyllidebol nad
oeddent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad amgaeedig, fynd ati i gysylltu â
Swyddogion i'w hystyried |
|
Blaenraglen Waith 2020-21 PDF 62 KB Cofnodion: Nododd yr Aelodau y Flaenraglen Waith. |