Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymgynghoriad ar Gyllideb Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ac Arbedion Drafft 2020/21 PDF 119 KB Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu
Gydol Oes Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
trosolwg o’r Gyllideb Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ac Arbedion Drafft
2020/2021, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniwyd
bod y gyllideb gerbron y Cynghorwyr heddiw yn gyllideb gadarnhaol o’i chymharu
â blynyddoedd blaenorol, ond bod dal angen i’r Cyngor wneud £2.148 miliwn o
arbedion er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2020/2021. Cododd
y Cynghorwyr y pwyntiau canlynol: ·
Cyllideb AHDGO Llinell 1003 – Gwasanaethau Glanhau (Ysgolion) Roedd y Cynghorwyr yn pryderu am yr effaith ar
gyllidebau ysgolion petai’r gost hon yn cael ei throsglwyddo i ysgolion a’r
effaith y gallai hyn ei chael ar safon lendid ragorol bresennol ysgolion, os
byddai angen i ysgolion arbed arian i dalu am y pwysau cyllidebol ychwanegol
yma. Esboniodd swyddogion fod dal angen i arbedion gael eu gwneud ac y byddai’n
golygu pwysau ychwanegol ar gyllidebau ysgol ond bod ysgolion yn gallu amsugno
hyn. Roedd llawer iawn o ganmoliaeth wedi bod am y gwasanaeth glanhau presennol
am safon glendid ac roedd ysgolion yn deall yr angen i’r safon yma barhau. Gofynnodd y Cynghorwyr i swyddogion ystyried
trosglwyddo costau glanhau yn raddol i ysgolion dros gyfnod o 3 blynedd. ·
Cyllideb AHDGO Llinell 1004 – Trafnidiaeth Ysgolion – Tu Allan i’r Sir Gofynnodd y Cynghorwyr sut gallai swyddogion
ragfynegi y byddai gostyngiad yn yr angen am drafnidiaeth i ysgolion arbennig y
tu allan i’r sir. Esboniodd swyddogion fod y rhagfynegiad wedi’i seilio ar
niferoedd presennol y plant mewn lleoliadau y tu allan i’r sir a fyddai’n
cyrraedd 19 oed ym mis Gorffennaf 2020 gan derfynu eu lleoliadau. ·
Cyllideb AHDGO Llinell 1001 – Ymddiriedolaeth Hamdden Cwestiynodd y Cynghorwyr a oedd modd cyflawni’r
arbediad hwn. Cadarnhaodd swyddogion fod trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd
gyda’r darparwr i fwyafu eu hincwm a byddai hyn yn arwain at leihau’r
cymhorthdal. ·
Cyllideb AHDGO Llinell 707 – Canolfan Gelfyddydau Pontardawe Holodd y Cynghorwyr a oedd yr incwm a ragamcanwyd yn
sgil y prosiect Sinema yn y Ganolfan yn ddichonol i arwain at leihau’r
cymhorthdal. Cadarnhaodd swyddogion y byddai’r incwm uwch yn sgil sefydlu’r
sinema a oedd i fod i agor ym mis Ionawr 2021 yn caniatáu i’r cymhorthdal
leihau. At hynny, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi
cytuno buddsoddiad cyfalaf, a chwiliwyd am fuddsoddiad pellach gan Gyngor
Celfyddydau Cymru a Chyfeillion Canolfan Gelfyddydau Pontardawe i gefnogi’r
datblygiad. Gofynnodd y Cynghorwyr i swyddogion ystyried lleihau’r
cymhorthdal i’r Ganolfan Gelfyddydau dros gyfnod o 3 blynedd yn hytrach na 2
flynedd fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd
y pwyllgor yn fodlon bod y gwaith a wnaed yn flaenorol i atgyfnerthu’r
Gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi arwain at wasanaeth cynaliadwy wrth symud ymlaen. Gofynnodd
y Cynghorwyr i swyddogion sicrhau bod y pwyntiau a godwyd heddiw yn cael eu
cynnwys yn yr ymgynghoriad ar y Gyllideb Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ac
Arbedion Drafft 2020/2021. |